Noson o gerddoriaeth electronig, wahanol yng Nghlwb Ifor Bach oedd y gig yma. Dechreuodd gyda band diddorol o'r enw Drone a oedd yn swnio tipyn bach fel Yo La Tengo oherwydd y gitarau acwstig, sain y synth efo beats electronig ac arddull gynnil y canwr. Yr oedd ganddo bersonoliaeth hudolus, ddiddorol ac yr oedd geiriau'r caneuon yn dda ac yn wahanol. Sut bynnag, yr oeddynt yn eithaf ailadroddus ac nid oedd y caneuon yn ddigon catchy yn fy marn i. Ond, yr oedd y band yn swynol a phryfoclyd a byddaf yn awyddus i weld beth maen nhw'n gwneud yn y dyfodol. Y mae'r dyn y tu 么l i Brave Captain yn dod o The Boo Radleys, band a oedd yn eithaf enwog yn y 1990au. Yr oedd ei gerddoriaeth yn debyg i rai o ganeuon y band yma, ond nid y caneuon amlwg, poblogaidd fel 'Wake up Boo'. Y mae Brave Captain yn fwy arbrofol tra bod yn felodaidd ac yn fwy gloyw na Drone. Arweiniwyd agoriad ei sesiwn gan organ a oedd yn fy atgoffa o s诺n The Doors. Yr oedd sain electronig yn fwy pwysig nag oedd pan ei fod yn cefnogi Fourtet yng Nghaerdydd llynedd, ac ers y gig yna, mae Brave Captain wedi cael band i gyfoethogi ei sioe lwyfan. Ar 么l i mi ddarllen am Boom Bip yn y wasg, yr oeddwn yn disgwyl electronica atmosfferig, tipyn bach fel Fourtet. Ond yr hyn a gefais oedd s诺n fwy rocky, efo gitarau, synth, bass a drymiau. Yr oedd eu harddull yn debyg i roc seicedelig fel y band Space Men 3 neu gyfnod 'Umma Gumma' Pink Floyd. Y brif broblem gyda'u sesiwn oedd y ffaith bod arddull gynnil eu cerddoriaeth yn agos iawn at ddiflannu trwy system s诺n Clwb Ifor Bach ac yr oedd rhyw fath o fur o s诺n yn ei lle. Ond, yr oedd llawer o egni a brwdfrydedd gan Boom Bip a llwyddodd yn eu bwriad i wneud i bawb ddawnsio! Gan: Louise Andrewartha
|