Mae Merthyr Tudful - y dref lle magwyd y cyfansoddwr Joseph Parry - yn enwog am ei draddodiad cerddorol. Bellach mae gr诺p newydd am ddatblygu traddodiad cerddorol Cymraeg y dref ar gyfer y dyfodol, gyda ch么r cymysg newydd. Sefydlwyd C么r y Ganolfan Gymraeg dan arweinyddiaeth ei Gyfarwyddwr Cerdd, Mr David Lewis, a'r Gyfeilyddes, Miss Laurie O' Brien. Mae C么r y Ganolfan yn anarferol gan ei bod yn cynnwys siaradwyr Cymraeg a dysgwyr sydd yn chwilio am ffordd newydd o gymdeithasu ac o ddefnyddio'r iaith. Mae'r c么r hefyd yn croesawu pobl sydd yn dymuno canu yn Gymraeg ond sydd ddim yn siarad yr iaith. Mae gan y c么r repertoire amrywiol ac mae wedi perfformio mewn llawer o leoliadau gwahanol ers iddo ffurfio, ond mae ganddo angen dybryd am aelodau newydd. Cynhelir cyfarfodydd y c么r bob nos Fercher yn y Ganolfan Gymraeg ym Merthyr Tudful rhwng 7.30pm a 9pm.Os hoffech brofi noson allan a fydd yn llawer o hwyl, yna dewch i ymuno. Am ragor o wybodaeth cysylltwch 芒 David Lewis ar 01685 386526 neu corcymraeg@hotmail.com
|