Lluniau o'r Agoriad Swyddogol ymaMae'r Gwersyll yn rhan o adeilad cyffrous Canolfan Mileniwm Cymru sydd yn agor ers Tachwedd 26 ym Mae Caerdydd.
Mae lle i 153 o bobl i aros dros nos yn y Ganolfan mewn ystafelloedd en-suite, ac mae yno hefyd neuadd/ theatr, lolfeydd, ffreutur ac ystafelloedd dosbarth.
Mae'r gwersyll newydd hwn yn ychwanegu at ddau wersyll yr Urdd arall, yng Nglan-llyn ger Y Bala ac yn Llangrannog yng Ngheredigion, sydd yn cynnig profiadau gwledig ac awyr agored i ieuenctid Cymru. Yn wahanol i hyn, bydd Gwersyll Caerdydd yn cynnig profiadau dinesig a chelfyddydol.
Yn 么l Alun Owens, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Caerdydd,
"Rydyn ni wrth ein boddau bod Bryn Terfel wedi cytuno i agor y gwersyll yma yng Nghanolfan y Mileniwm. Nid yn unig gan fod Bryn yn un o gantorion operatig gorau'r byd ond mae hefyd yn gefnogol tu hwnt i'r Urdd a'r cyfleoedd mae'r mudiad yn ei gynnig i ieuenctid Cymru."
Bydd yr Urdd yn trefnu ymweliadau i bob math o lefydd yng Nghaerdydd a'r ardal, gan gynnwys Stadiwm y Mileniwm, y Cynulliad, Techniquest, Sain Ffagan, Yr Amgueddfa Genedlaethol, y Pwll Mawr, Castell Coch, Castell Caerdydd a llawer mwy.
Bydd modd i aelodau hefyd weld sioe, g锚m b锚l-droed, criced, rygbi neu hoci i芒 ac mae prisiau arbennig i'r rhai sy'n aros yn y gwersyll i weld y ffilmiau diweddaraf, bowlio 10 a defnyddio holl gyfleusterau Pentref Hamdden Atlantic Wharf.
Ewch i edrych ar luniau o'r agoriad swyddogol yn Nhachwedd 2004.
Beth ydych chi'n ei feddwl o'r syniad am wersyll dinesig ym Mae Caerdydd? Dwedwch wrthon ni trwy lenwi'r ffurflen isod.