Tra bo Cymru yn ymfalch茂o yn ei buddugoliaeth gynta yn y gamp lawn ers 27 mlynedd, mae aelodau o gast gwreiddiol y ffilm gomedi Grand Slam yn dychwelyd i gofio un o ffilmiau mwya poblogaidd y genedl. Bydd John Hefin, y cyfarwyddwr, ac aelodau o gast y ffilm boblogaidd sy'n portreadu gr诺p o ddilynwyr rygbi yn teithio i Baris i ddilyn eu t卯m, yn cael eu haduno mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Morgannwg yn ystod mis Ebrill.
Bydd tri o'r actorion a ymddangosodd yn y ffilm - Sharon Morgan, Dewi Pws Morris a Si么n Probert - yn bresennol mewn dangosiad ohoni yn sinema'r UGC fel rhan o gynhadledd Cyfrwng 2005, un o ddigwyddiadau cyfryngol mwyaf urddasol Cymru.
Bydd wynebau enwog y ffilm yn ymuno ag aelodau allweddol eraill o'r diwydiant cyfryngau yng Nghymru mewn cynhadledd a gynhelir yn y Brifysgol yn Nhrefforest. Bydd y gynhadledd a gynhelir rhwng 22 - 24 Ebrill, yn hybu trafodaeth ynghylch materion cyfryngol yng Nghymru ac yn dod 芒'r cyfryngau a'r sector addysg bellach ac uwch yng Nghymru at ei gilydd.
Bydd aduniad y Grand Slam yn dilyn sesiwn ar ddarlledu chwaraeon o dan arweiniad Huw Llywelyn Davies o 成人论坛 Cymru a Gareth Davies, Golygydd Comisiynu Chwaraeon S4C. Sefydlwyd Cyfrwng er mwyn darparu fforwm ar gyfer cyflwyno gwaith ymchwil a thrafod y cyfryngau yng Nghymru - sef ffilm, teledu, cyfryngau newydd, radio, newyddiaduraeth ac astudiaethau perfformio.
Penaethiaid y prif ddarlledwyr yng Nghymru fydd y siaradwyr cyfeirnod yn y gynhadledd a disgwylir iddynt fanylu ar ddyfodol llunio rhaglenni yng Nghymru yn yr oes ddigidol. Bydd Roger Lewis MD o ITV Cymru, Menna Richards, Pennaeth 成人论坛 Cymru ac Elan Closs Stephens Cadeirydd S4C yn arwain trafodaethau yn y gynhadledd.
Bydd panel o brif aelodau, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r wasg yng Nghymru ac Iwerddon, yn edrych ar yr her sy'n wynebu newyddiaduraeth o safbwynt ieithoedd lleiafrifol.Dywedodd Lisa Lewis, Cyfarwyddwr y Gynhadledd, "Mae'n anrhydedd i ni gael gwahodd cynhadledd mor enwog i Brifysgol Morgannwg. Mae'r gynhadledd yn adlewyrchu'n gywir ein hymrwymiad fel adran wrth ddelio 芒 - a herio'r materion sy'n wynebu'r cyfryngau yng Nghymru heddiw.
"Uchafbwynt y digwyddiad fydd cyflwyno 'Gwobr Si芒n Phillips' i'r unigolyn a wnaeth gyfraniad nodedig i'r cyfryngau yng Nghymru. Bydd sesiynau eraill yn Cyfrwng 2005 yn canolbwyntio ar berfformiadau, darlledu chwaraeon, rheoliadau darlledu, newyddiaduraeth iaith leiafrifol, comed茂au sefyllfa yng Nghymru ac ati.
Cynhelir sesiynau yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd llawn.
Am ragor o wybodaeth ynghylch y gynhadledd ac er mwyn llogi lle, ymwelwch 芒 gwefan Cyfrwng - www.cyfrwng.com