Yr oedd y Neuadd Fawr yn llawn gyda dwy fath o bobl: ffans 'die hard' a ffyddlon a phobl fel fi, pobl a oedd yn mynd jyst am noson o gerddoriaeth neis. Yr oedd llawer o egni gan y pumawd o Ddulyn efo'r canwr Conor Deasy yn symud o gwmpas y llwyfan yn gyflym ac yn chwifo stand y meicroff么n i annog brwdfrydedd y gynulleidfa. Amgylchwyd ei ffurf denau gan sioe oleuni argraffiadol o liwgar. Ond nid oedd y gig yn gyffredinol yn arbennig o fywiog oherwydd natur harmonig a melodig y mwyafrif o'u caneuon, ond nid yw hynny yn beth drwg. I fi, fel rhywun sy'n gwerthfawrogi eu cerddoriaeth ar lefel eitha syml, yr oedd y casgliad o ganeuon a gynygiwyd gan y gig braidd yn berffaith. Yr oedd perfformiadau o'u caneuon poblogaidd megis 'Big Sur', 'Santa Cruz (You're Not That Far)' a 'Whatever Happened to Corey Haim?' a chawsom gyfle i glywed eu sengl newydd 'The Irish Keep Gatecrashing' sydd ar gael i brynu ar hyn o bryd, efo'u fersiwn eu hunain o 'Viva Las Vegas' ar ochr B y ddisg. Y mae'r sengl newydd yn dod o'u ail albwm 'Let's Bottle Bohemia' sy'n brofiad mwy tywyll na'u halbwm cyntaf, o ran s诺n a lyrics y caneuon. Fel y dywedwyd, dw i byth wedi bod yn ffan mawr o The Thrills, ond rhaid cyfaddef fy mod i wedi mwynhau'r gig yma ac os bydd y Gwyddel eisiau 'gatecrash-o' yr undeb yng Nghaerdydd unrhyw bryd yn y dyfodol agos, mae'n hollol iawn 'da fi! Gan: Louise Andrewartha
|