'Cadeirydd na fu ei debyg!'
Y gwr a fu'n llywio'r gweithgarwch a'r paratoadau ar gyfer Eisteddfod Tyddewi yw'r Cynghorydd John Thomas, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith
"Fu y na erioed gadeirydd pwyllgor gwaith tebyg i hwn erioed o'r blaen. . ."
Mae hon yn farn go gyffredinol, ymhlith aelodau y gwahanol bwyllgorau syn dod âr Eisteddfod Genedlaethol i fwcwl bob blwyddyn, pan yn sôn am John Thomas, cadeirydd pwyllgor gwaith Prifwyl Tyddewi.
Mewn cyfarfodydd o Gyngor yr Eisteddfod a phwyllgorau pwysig eraill bu cyfraniadau byrfyfyr John Thomas yn chwa o awyr iach dros y tair blynedd diwethaf.
Yr oedd yn rhan o'i waith i adrodd yng nghyfarfodydd y Cyngor sut yr oedd pethau'n mynd ym Mhenfro - a byddai'n gwneud hynny bob tro gyda cymysgedd a hiwmor a hwyliogrwydd nad yw rhywun yn eu cysylltu ag adroddiadau o'r fath.
Meddai un o'r rhai a fynychodd y cyfarfod olaf o'r Cyngor cyn yr Eisteddfod, "Os bydd y Steddfod ei hun ond hanner mor hwyliog â hwn mi fydd hi'n un wych."
Ond dydi'r ffraethineb a'r hwyliogrwydd ddim yn arwydd nad yw John Thomas o ddifrif ynglyn a'i swydd a bu mor egnïol ei ymdrechion ag unrhyw un yn arwain y ffordd at Eisteddfod lwyddiannus yn Nhyddewi fis Awst - a hynny mewn ardal nad yw yr hawsaf i lafurio ynddi.
Bu'r baich o godi arian mewn ardal wasgaredig, gymharol denau ei phoblogaeth, yn un anodd ac ar drothwy cynnal yr wyl er bod £180,000 wedi eu codi drwy ymdrechion lleol yr oedd y gronfa leol yn parhau 15% yn fyr o'r nod a osodwyd.
"Bu'r gwaith o godi arian yn hir yn dechrau," meddai John Thomas gan briodoli peth o'r anhawster i'r ffaith fod Penfro wedi ei rhannu'n ddwy ardal - Saesneg yn y de a Chymraeg yn y gogledd.
Ond gall yr eisteddfod hon ymhyfrydu yn y ffaith iddi ddenu mwy o nawdd nag unrhyw Eisteddfod genedlaethol o'i blaen - £412,000.
Hefyd bydd dros 300 o stondinwyr ar y maes.
"Ydi, mae'r ardal yn barod. Mae'r holl waith paratoi wedi ei gwblhau ac yr ydym yn awr yn aros yn eiddgar i groesawu gweddill Cymru atom er mwyn mwynhau yr wyl sydd yn eich disgwyl," meddai.
Er wedi ei eni dros y ffin yn Sir Gaerfyrddin mae John Thomas yn ystyried ei wreiddiau yn ddwfwn yn naear Sir Benfro.
Gadawodd yr ysgol yn 14 oed i dderbyn £15 y flwyddyn o gyflog yn was fferm.
Yn amaethwr llwyddiannus mae wedi ymddeol bellach ond yn parhau i ymhyfrydu mewn disgrifio ei hun fel gwerinwr.
"A hynny yn yr ystyr yr oedd Crwys yn defnyddio'r gair," ychwanegodd.
Gwerinwr - a gwerinwr diwylliedig hefyd ac un a fu'n weithgar yn ei gymuned ac ymhlith ei gwahanol gymdeithasau ers ei ieuenctid.
Ac nid yw'n syndod clywed y dyn sy'n dipyn o ddrama ynddo'i hun yn dweud iddo fod yn actio - er y mae, o bosib, yn rhywfaint o syndod iddo fedru cadw at unrhyw sgript gan mor barod ei barabl a'i arabedd yw fel person.
Mae'n ganwr hefyd ac yn aelod o Gôr Meibion Hendy-gwyn ers dros ddeugain mlynedd.
Wedi priodi bu ef a'i briod, Olwen, yn amaethu ym mhlwyf Llawhaden am bron i ddeugain mlynedd nes ymddeol.
Ond os ymddeolodd o amaethu nid ymddeolodd o'i weithgareddau eraill ac mae'n parhau yn ysgrifennydd Capel Bethesda, Llawhaden a bu'n aelod o Gyngor Sir Dyfed ers ei sefydlu yn 1974 gan fod yn gadeirydd y cyngor llawn ac yn gadeirydd y pwyllgor addysg.
Pan sefydlwyd y Cyngor Sir Penfro presennol yn 1996 ef a ddewiswyd yn gadeirydd cyntaf ac mae ar hyn o bryd yn gadeirydd y pwyllgor addysg
|