Blas Gwyddelig i ddarlithoedd
Bydd blas Gwyddelig sicr i weithgareddau Pabell y Cymdeithasau rhwng un a dau yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Nhyddewi.
Trefnodd cymdeithas Fforwm Cymru y Newyn, a sefydlwyd i hyrwyddo'r berthynas rhwng Cymru ac iwerddon, gyfres o ddarlithoedd yn y babell rhwng 1.00 a 2.00 or gloch bob dydd, dan y teitl cyffredinol, Dwylo dros y Môr.
Dydd Llun: Dr. Diarmait Mac Giolla Chrost: 'Cynllunio Iaith: Cyfnewid Celtaidd Cyfoes?'
Un o Derry yng Ngogledd Iwerddon, siaradwr Gwyddeleg, a chyn-ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ond ar hyn o bryd yn gweithio i Gyngor Sir Gaerfyrddin yn Adran y Prif Weithredwr fel cydlynydd polisi corfforaethol gyda chyfrifoldeb arbennig dros bolisi iaith Gymraeg. Cadair: Cynog Dafis, AC. Cyn y ddarlith bydd Jim Carroll, Prif Gonswl Iwerddon yng Nghymru, yn lansio'r gyfres gan siarad mewn Gwyddeleg gyda'i sylwadau'n cael eu cyfieithu i'r Gymraeg ar y pryd.
Dydd Mawrth: Dr. Dewi Evans, Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Dulyn: 'Teithwyr a Dylanwadwyr' Gerallt Gymro; Edward Llwyd; llyfrau Cymraeg yn trafod Iwerddon; llyfrau Gwyddeleg yn trafod Cymru.
Cadair: Y Tad John of the Cross Fitzgerald, O.Carm, Caplan y Brifysgol, Aberystwyth.
Dydd Mercher: Y Tra Barchedig J. Wyn Evans, Deon Tyddewi - "Saint a Chenhadwyr".
Cadair: Y Canon Pádraig Fiannachta, Offeiriad y Plwyf, An Daingean, Swydd Ciarra, Iwerddon.
Treuliodd Canon Fiannachta, sydd yn rhugl yn y Gymraeg, flynyddoedd lawer ym Mhrifysgol Maynooth lle cyfieithodd y Beibl i'r Wyddeleg.
Roedd ei gyhoeddi yn gyfrol hardd ac wedyn yn gryno ddisg yn garreg filltir yn hanes yr iaith.
|