Down belows, wês-wês a'r pentigily!
Nid yn unig mae i Sir Benfro ei hanes a'i thraddodiadau cyfoethog ond mae iddi hefyd ei Chymraeg arbennig ei hun. Dyma air neu ddau gan Gwyn Griffiths
Gogledd Sir Benfro, eithafol ei thafodiaith a gwydn ei theyrngarwch i'r iaith a'i thafodiaith.
Daeth y Normaniaid ar draws Bro Morgannwg i diroedd ffrwythlon de Sir Benfro ond yn wahanol i Fro Morgannwg lle y daliodd y Gymraeg ei thir hyd yn gymharol ddiweddar diflannodd y Gymraeg yn llwyr o Dde Sir Benfro yn y Canol Oesoedd.
Daeth y Normaniaid â'u caethweision a gwyr arfog Sacsoniaid - o diroedd yr oeddynt eisoes wedi'u concro.
Yna, yn ystod y ddeuddegfed ganrif, daeth yr Harri'r Cyntaf a nifer o Ffleminiaid o arfordir Fflandrys i dde Penfro - ffoaduriaid rhag y môr a lifodd dros y tir.
Daeth Harri II a rhagor o'r bobl hyn yn ystod ei deyrnasiad yntau ac erlidiwyd y Cymry i diroedd tlotach a mynydd-dir y gogledd.
Y down belows O ganlyniad, nid rhywbeth diweddar yw Seisnigrwydd godre'r sir ond rhywbeth a ddigwyddodd ganrifoedd yn ôl.
Ac fel Saeson yr arferai trigolion de'r sir y "down belows" - ystyried eu hunain.
Y rhyfeddod yw na ledaenodd y Saesneg fawr i'r gogledd na'r rhes o gestyll gwarcheidiol Castell-y-Garn, Hwlffordd, Pictwn, Llawhaden, Arberth draw i Dalacharn.
Honnai R. M. Lockley fod ar hyd y Landsker, fel y'i gelwir, ystod o dir diffaith o hyd mewn rhannau o'r sir, tir neb rhwng y Cymry a Saeson.
Arferid dweud mai Penycwm, uwchben Newgale, oedd y lle cyntaf y byddech yn clywed yr iaith ar eich ffordd o Hwlffordd i Dyddewi.
Mae'r ffordd honno yn cadw islaw'r ffin ieithyddol nes cyrraedd y môr a throi i'r gogledd yn Newgale.
Y wyrth yw fod Solfach a Thyddewi nad ydynt ond ychydig filltiroedd o'r Landsker wedi cadw mor Gymraeg eu hiaith.
Daeth sefydliadau milwrol i Freudraeth ac, ymhellach i'r gogledd, i Drecwn a Seisnigeiddio pocedi o'r gogledd yn fwy diweddar.
O gofio fel y bu i dde Saesneg y sir reoli llywodraeth leol gyhyd 'dyw parhad yr iaith yn y gogledd yn ddim llai na gwyrth o wytnwch a balchder diwylliannol.
Doedd i'r Gymraeg ddim lle ym mwyafrif ysgolion y de, cynradd nac uwchradd, tan ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1974.
Ar lafar-gwlad y cadwyd yn fyw enwau trefi fel Tyddewi, Abergwaun a Threfdraeth.
Trevine oedd yr enw oedd yn eich croesawu wrth gyrraedd Trefîn enwog oherwydd cerdd Crwys i'r felin ac am yr Archdderwydd a aned yno.
Gwlad y Ddyfedeg Ond mae mwy i Sir Benfro na'r hollt ieithyddol rhwng Cymro a Sais. Dyma wlad y Ddyfedeg, gwlad y Wês Wês.
Yma mae'r "o" yn troi'n "w" gyda geiriau fel oes, coed, dyfod, oer a ddoe yn troi'n wês, cwed, dwed, wêr a dwe.
Ceir amrywiaethau ar hyn, hefyd. Ar ochr orllewinol y sir fe ddwedir dwe, gan roi'r pwyslais ar yr "w" ac ynganu'r gair bron fel gair deusill.
Ar y ffin gyda Sir Gaerfyrddin rhoddir y pwyslais ar yr "e" gan ei ynganu fel gair unsill.
Ei geiriau ei hun Mae i'r dafodiaith lwyth o eiriau unigryw. Un o'r geiriau enwocaf sydd wedi goglais a pheri penbleth i Gymry Cymraeg ymhobman yw "pentigily" sy'n golygu "bob cam" yn yr ystyr o "mynd pentigily", "mynd bob cam".
Y syniad yn ôl un eglurhad yw eich bod chi'n dod "â dau ben at ei gilydd".
Wedyn dyna'r gair am fachgen "rhocyn", fel "yr hogyn" siwr o fod. Ond yn Sir Benfro fe gewch y gair hyfryd ddireidus "rhoces" am ferch a hwnnw'n lluosogi'n hwylus i "rhocesi".
Ond dyw "rocyn" ddim "crwts" yw'r gair a ddefnyddir wedyn.
Geiriau fel "lwêth", wedyn, sef "eilwaith". A tablen. Siawns na fydd tipyn o hwnnw oboitu Tyddewi adeg y 'Steddfod gan mai "Tablen" yw'r gair am gwrw, a "tablenna" yw yfed cwrw.
Ac wedi tablenna gormod mae rhywun yn mynd yn "ffwdlen".
Mae pethau rhyfedd yn digwydd i'r berfau yn Sir Benfro.
Gwrandewch am ffurfiau fel "gesum i" fe gefais i o gwmpas Tyddewi. A'r ffurf sydd bellach wedi treiddio i rannau eraill o'r de "sana i" neu "sa i". Hyn o'i gyfieithu yw "nid wyf i" ac yn tarddu, yn ôl a ddwedodd Idwal Lloyd, o "nid oes a honwyf". Sef dydw i ddim yn honnu ...
Bu gennyf ysgrifenyddes o ardal Sgeifiog un amser. Byddai'n cyhoeddi, ar ôl methu â chael rhywun ar y ffôn - "sano 'na".
Gwyliwch, hefyd, am y "fe" a'r "hi".
Mae'n debygol y cewch eich cyfarch yn y trydydd person. "Shwt mae e heddi, te?" Peidiwch ag edrych o'ch cwmpas am rywun arall na cheisio dyfalu cyflwr iechyd y person hwnnw os digwydd bod rhywun gerllaw.
Atebwch yn hyderus: "Rhyfedd o dda, diolch iddo am ofyn."
Mae'r un rheol yn dal am y ddynes, hefyd. "Shwt ma' hi, 'te?"
Mae berfau Sir Benfro, felly'n mynd fel hyn: Sana i, sano ti, sano fe/hi, sanon ni, sanoch chi, sanon nhw. Ac yn y gorffennol: "wena i, weno fe/hi ac ati".
Wedyn dyna i chi "fe gefais i, fe gest ti ..."
Dyma'r ffurf dderbyniol yn Nhyddewi "gesum i, geso fe, geso hi."
Weithiau, os bydd brodor yn ceisio addasu ei iaith i fod yn ddealladwy i estroniaid, fe glywch ffurfiau fel "sano ti, weno ti" a "geso ti".
Y fannod amhendant Gwrandewch yn astud, hefyd, am y fannod amhendant nad yw'n bod yng ngweddill Cymru. Mae hi yna yn iaith Dyfed yn ôl neb llai na Waldo Williams.
Os holwch rywun ar faes yr Eisteddfod pan fydd y glaw'n dechrau diwel (sef arllwys) "Oes cot fawr 'da chi?" mae'n bosib y clywch yr ateb "Sdim un got 'da fi". Mae'r un yna, yn ôl Waldo, yn cyfateb i'r fannod amhendant ac yn dangos dylanwad yr Wyddeleg ar iaith Dyfed.
Yn gelwydd i gyd Byddwch ar eich gwyliadwriaeth am straeon celwydd golau. Mae traddodiad ardderchog o'r rhain, rhan arall o hud a lledrith Dyfed, gyda chymeriadau fel Shemi Wâd o Abergwaun a Daniel Thomas o Drefdraeth a Charles Ladd o Landudoch wedi gadael ar eu holau straeon sy'n fyw o hyd ar lafar gwlad.
Ond a yw'r Ddyfedeg yn haeddu statws uwch na thafodiaith? Gyda'i holl arbenigrwydd oni ddylsai gael statws iaith?
Rwy'n siwr mai dyna oedd gan Waldo mewn golwg yn ei gerdd Fel Hyn y Bu sy'n disgrifio'i helyntion gyda'r Home Guard adeg y rhyfel ac yn ymdrin â thestun mor amserol i'n hoes ni yr Identity Card:
Disgrifiwyd y gwrthrych: ei ddannedd yn brin A'i dafod iaith Dyfed ac acen Berlin.
Yn ddi-os mae'n haeddu'i galw'n iaith a boed i iaith Dyfed barhau!
Mae Gwyn Griffiths yn olygydd pedair cyfrol o ryddiaith a barddoniaeth yn nhafodiaith Sir Benfro: Wês Wês; Wês Wês Wêth; Wês Wês Shwrne 'To a Wês Wês Pentigily.)
|