Heulwen i'r Cymry tramor
Dydd Iau yw diwrnod seremoni croesawu y Cymry o dramor yn y Genedlaethol. Cymraeso Seland Newydd fydd yn annerch yn ystod y seremoni eleni.
Gwraig fusnes o Seland Newydd sy'n ymhyfrydu mewn gwneud cwiltiau fydd arweinydd seremoni croesawu Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Tyddewi, ddydd Iau.
Mae gwreiddiau Margaret Heulwen Jones (Griffiths gynt) yn ddwfn ym mro'r Eisteddfod.
Fe'i ganwyd yn Nyffryn lsaf, Llandysilio, yn blentyn cyntaf Nan a Tom Griffiths.
Nan Williams Maesydderwen, oedd ei mam.
Symudodd y teulu i Felin Llwyndwr lle cafodd Dilwyn, ei brawd, ei eni ac yna symudwyd i Bosty Bach, Penffordd lle'r aeth Heulwen i'r ysgol.
Yna dychwelodd i Ddyffryn Isaf ac i Ysgol Brynconin, Llandysilio, nes mynychu yr Ysgol Ramadeg yn Arberth.
Wedi gadael yr ysgol bu'n gweithio am gyfnod yn Arberth a Hwlffordd cyn symud i Lundain lle tyfodd ei diddordeb mewn masnach.
Dywed mai pan oedd hi'n byw yn Southampton sylweddolodd ei bod am gael profiad o'r byd mawr y tu allan i Gymru.
Yn 1954 gadawodd am Seland Newydd gyda'r bwriad o aros yno am ddwy flynedd - ond yno y mae hi o hyd ac yn aelod amlwg o'r gymdeithas Gymraeg yno.
Gartref ym Mhenfro dywed iddi gael ei magu ar aelwyd hollol Gymraeg ller oedd I lenyddiaeth a cherddoriaeth yn rhan annatod o'i bywyd.
Roedd ei thad yn cynhyrchu dramâu ble bynnag oedd yn byw a thra oedd ei rhieni yn brysur gydar dramâu roedd ei modryb Elinor neu ewythr Ben yn adrodd straeon am y tylwyth teg wrthi a'i chyflwyno i chwedlau'r hen Roegiaid ar rhufeiniaid.
Canu oedd prif ddiddordeb ei mam, ac roedd hi'n athrawes benigamp. Dysgodd ei brawd Dilwyn a hithau i ganu deuawdau.
Oherwydd mai dau yn unig o blant oedd yng Nghapel Bach y Methodistiaid, Clunderwen, i Ysgol Sui y Bedyddwyr yn Rhydwilym a fynychai'r ddau ac yno dysgo nhw'r pwnc a chanu emynau.
Ac eithrio blynyddoedd cynnar ei mab, Stephen, bu Heulwen yn gweithio ym myd masnach. Am y pymtheng mlynedd cyn ymddeol gweithiodd yn y maes cymdeithasol yn rheoli ysbytai Seland Newydd, fel ysgrifenyddes i'r Pennaeth.
Mae ei diddordebau yn cynnwys Eglwys Undebol, Tawa - yn enwedig mudiad cymdeithasol merched y capel, Cymdeithas Gymraeg Wellington, clytio a chwiltio, a'i theulu - yn enwedig ei dwy wyres fach.
Mae hi a Percy, Cymro Cymraeg o Fro Dysynni, yn briod er 1974.
|