Comedi mewn dosbarth comedi
Drama wedi ei gosod mewn dosbarth sgrifennu comedi ydi drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi.
Awdur cynhyrchiad Sgript Cymru o Dosbarth ydi Geraint Lewis sydd newydd gyhoeddi nofel yn olrhain hynt sberrmyn darlithydd coleg yn chwilio am wy! .
Yn Dosbarth mae cwmni teledu Hywel Owen yn jôc, ai ddyfodol yn y fantol a gyda storm o eira chwyrlïo y tu allan i westyr Sea View ceisia Hywel a Menna achub eu crwyn drwy gynnal dosbarth penwythnos o sgrifennu comedi. .
Yr unig ddwy i gyrraedd drwyr eira ydy Hannah, nyrs yng Nglangwili â thalent stand-yp tanllyd, a Nicola, "ymchwilydd or blaid Lafur sydd angen gwersi gwenu." .
Disgrifir y ddrama fel "comedi gyfoes am rym a dosbarth" a honno gan awdur blaengar a gyfansoddodd ddrama gomisiwn Eisteddfod Bro Dinefwr yn 1996, Y Groesffordd. .
Ymhlith gweithiau eraill Geraint Lewis, sy'n dod o Dregaron ac yn sgrifennu'n llawn amser er 1984 mae Y Cinio, The Language of Heaven a Meindiwch Eich Busnes. .
Dosbarth yw ei ail ddrama i Sgript Cymru, yn dilyn Ysbryd Beca, a deithiodd Cymru yn Hydref 2001. .
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, X, am hynt y sbermyn ym mis Mai gan Wasg Carreg Gwalch). .
Cyfarwyddwr Cyswllt i Sgript Cymru yw Elen Bowman o Abertawe a addysgwyd yn RADA ac a ffurfiodd gwmni or enw Living Pictures yn Llundain a chyfarwyddo cyfieithiadau newydd o Andromache gan Euripedes a The Nest gan Franz Xaver Kroetz. .
Erbyn hyn mae'n Gyfarwyddwr Cyswllt Sgript Cymru. .
"Bydd hi'n noson o ddatguddiadau a hwyl yng nghwmni cymeriadau doniol a chast syn cynnwys yr actorion poblogaidd Rebecca Harries, Sara Lloyd, Jonathan Nefydd a Ffion Wilkins," meddai llefarydd Sgrip Cymru. .
. Am docynnau (£8.50 yr un) dylid cysylltu â Swyddfar Eisteddfod, 0845 1221176.
Bydd perfformiadau yn Theatr y Gromlech Preseli nosweithiau Llun i'r Gwener am 7.30.
|