Coroni pryddest oedd filltiroedd ar y blaen
Onibai am ei alcoholiaeth ac am brofiadau a gafodd mewn cymuned i rai gydag anabledd meddwl yn Lerpwl nid fyddai bardd coronog Tyddewi wedi sgrifennu dim o gwbl, meddai.
"Does yna ddim dwywaith amdani hi, fyddwn i ddim yn sgwennu fel rydw i heb brofiadau Lerpwl a fy alcoholiaeth. Doedd gen i ddim byd i'w ddweud na ffordd i'w ddweud o," meddai Aled Jones Williams mewn cynhadledd i'r wasg yn dilyn seremoni'r coroni bnawn Llun.
Un peth sy'n sicr, bydd yna fwy o drafod a dyfalu am gerdd goronog 2002 nag a fu ynglyn â sawl un o ymgeision y gorffennol.
Yn ôl Eirwyn George, a draddodai'r feirniadaeth ar ran Menna Elfyn ac Einir Jones:
"Dyma'r darn mwyaf gwefreiddiol a ddarllenais i ers amser maith. Mae'n gyforiog o deimlad, does yma yr un gair gwastraff, mae'r delweddu'n ysgytwol a'r mynegiant - yn enwedig felly wrth i chi ei darllen fel y dylai gael ei darllen - sef yn uchel - yn arbennig, arbennig."
Ond fe gyfaddefodd y beirniaid i'r ffugenw Albert Bored Venison a natur anghyffredin y gerdd beri iddynt amau ai jôc oedd hi yn y lle cyntaf.
"Roedd y tri ohonom yn poeni ychydig ar y dechrau mai rhyw fath o jôc oedd y gerdd oherwydd y ffugenw anghonfensiynol. Ond dyna ni, mae'r gerdd i gyd yn anghonfensiynol. Os jôc yw hi, mae hi'n jôc ardderchog," meddai Eirwyn George.
Eglurodd y bardd ei hyn mai amrywiad doniol ar Alfred Lord Tennyson oedd y ffugenw.
Datgelodd hefyd nad dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu am y Goron ond ychwanegodd nad oedd yn cofio dim am gynnwys ei ymgais i Eisteddfod Wrecsam yn '77.
"Dydw i ddim yn meddwl mod i'n deall be oedd barddoniaeth," meddai.
Doedd hynny yn sicr ddim yn wir am ei ymgais eleni yn ôl y tri beirniad sydd wedi mopio gyda'r gerdd anghyffredin.
"Ceir yma 147 o linellau, ond nid ydynt yn dilyn ffurf cerdd arferol, maent yn edrych fel darn o ryddiaith ar yr olwg gyntaf. Wrth sylwi ymhellach, gwelir fod rhythm y gerdd a'r symudiad yn dibynnu ar atalnodi gofalus dros ben . . . lle mae angen gofod, ceir coma, lle mae angen arhosiad mwy, mae atalnod llawn, a lle mae gofyn am doriad ychydig hirach, fe geir llinell letraws /."
Yn y gerdd cafwyd "darnau cignoeth o hunanymholi a sgyrsiau tafodieithol."
Rhwng popeth dywedodd fod y gerdd hon yr orau "o filltiroedd".
"Yn wir, mae hi mor wahanol, mor ingol, mor angerddol nes ei bod hi'n agor cwys hollol newydd ym marddoniaeth ein cenedl. Braint oedd cael ei darllen a dilyn a dehongli ei barddoniaeth a oedd ar dro yn eirias, yn feiddgar ac yn dyner," meddai.
Myfyrdodau gwr yn ofni fod ganddo ganser oedd testun y bryddest ar y testun, Awelon. Dywedodd i'r syniad ddod i'w feddwl pan oedd mewn meddygfa yn disgwyl i feddyg ei weld. Cyfansoddodd hi dros ddau ddiwrnod fis Gorffennaf 2001.
Brodor o Lanwnda ger Caernarfon yw Aled Jones Williams ac yn unig blentyn i R.E. a Megan Williams. Cafodd ei addysg gynnar yn y Bontnewydd ac yna yn Ysgol Dyffryn Nantlle.
Graddiodd yn y Brifysgol ym Mangor yn 1977 a mynd wedyn i goleg Diwinyddol Mihangel Sant, Llandaf, a Phrifysgol Caerdydd.
Ordeinwyd ef i'r Eglwys yng Nghymru yn 1979 gan wasanaethu yng Nghonwy, Llanrug a Machynlleth.
Wedi cyfnod yn dioddef o alcoholiaeth gadawodd yr eglwys gan fynd yn aelod o gymuned L'Arche yn Lerpwl lle rhannodd fywyd â rhai oedd ag anabledd meddwl.
Yn ystod ei gyfnod yno y priododd â Susan.
Mae ganddyn nhw dri o blant, Marc, Bethan a Gwydion.
Cyn ennill y Goron eleni yr oedd yn enillydd cenedlaethol gan iddo fod yn fuddugol ar gystadleuaeth y ddrama hir yn Eisteddfod Bro Nedd gyda Dyn Llnau Bogs, a'r ddrama fer ym Mro Dinefwr gyda, Cnawd.
Mae'n ddramodydd ac yn llenor blaengar a gwahanol fel y dangosodd ei nofel, Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno Dy Hun.
Mae amryw o'i ddramau wedi eu llwyfannu.
|