Adolygiad: Sioe arbrofol yn siom
"Sioe aml-gerddorol, aml-gyfrwng, wedi'i chreu a'i pherfformio gan bobol ifainc o bob rhan o'r sir, ac o bob cefndir ieithyddol, diwylliannol a chymdeithasol".
Dyma'r disgrifiad a roddwyd o'r sioe Gelej a berfformiwyd ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Nos Fawrth.
Roeddwn i'n disgwyl sioe gerdd felly a fyddai'n defnyddio nifer o gyfryngau i ddehongli stori dda.
Roedd y sioe yn trafod Sir Benfro heddiw, ardal sydd fel ardaloedd eraill yng Nghymru bellach yn aml-ethnig ac yn aml-ieithyddol.
Mae'r sir yn cynnwys dwy ardal wrthgyferbyniol sef y de sydd yn denu cymaint o ymwelwyr ac a elwir yn Little England gan rai a gogledd y sir, tiriogaeth Waldo a chadarnle diwylliannol bro'r Preselau.
Roedd y sioe yn trafod y gwrthgyferbyniad rhwng yr hen gymdeithas a fodolai yma ers talwm a'r gymdeithas heddiw.
Dwy ardal wahanol
Hefyd ymdriniwyd â'r gwahaniaeth rhwng y ddwy ardal. Yr hyn sy'n ddiddorol yw fod rhannau yn ne'r sir lle na fedr y trigolion weld Mynyddoedd y Preselau beth bynnag fo'r tywydd.Ond ar y llaw arall gall trigolion y gogledd weld diwydiant Milffwrdd a Doc Penfro. Maen nhw'n gweld popeth yma felly.
Dyma'r themâu oedd cael eu trafod yn y sioe felly. Ceisiwyd cyfleu hyn drwy gyfrwng cerdd, dawns, naratif a ffilm. Roedd gan y sgrîn fawr yng nghefn y llwyfan le pwysig yn y sioe gan fod hwn yn arddangos darnau o ffilm i ni.
Dyma ffilm oedd wedi ei wneud gan y bobol ifanc eu hunain. Yn ystod y sioe roedden nhw'n adrodd eu hanes ac roedd yr hyn yr oeddem yn ei weld ar y sgrîn yn ategu hynny.
Adroddodd rhai o'r bobol ifanc hanes eu bywydau yn Sir Benfro wrthym. Dyma bobol ifanc o gefndiroedd gwahanol, rhai wedi eu magu yn Abergwaun, eraill yn yr ardaloedd mwy gwledig. Cawsom hanes eu plentyndod yn yr ardal eu bywyd yn yr ysgol a'r gymdeithas.
Ar y sgrîn hefyd dangoswyd rhai o drigolion eraill y fro yr oedd y bobol ifanc wedi eu cyfweld. Saeson a Chymry di-Gymraeg oedd y rhain. Roedd nifer yn ymwelwyr oedd wedi dod i ymweld â'r fro, a'r traethau a'r golygfeydd oedd yn eu denu.
Cyfleu tristwch y sefyllfa
Dangoswyd i ni ar y sgrîn rhai o'r arwyddion o gwmpas y sir sy'n nodi bod cynifer o'r tai ar werth. Roedd hyn yn hynod o effeithiol ac yn wir gyfleu tristwch y sefyllfa ardal wledig a Chymreig, bro Waldo yn cael ei llyncu gan y mewnlifiad.
Elfen bwysig arall yn y cynhyrchiad oedd gwrthgyferbynnu'r hen gymdeithas a fodolai yn y sir a'r gymdeithas heddiw. I gyfleu hyn defnyddiwyd cerdd enwog Waldo Cwmwl Haf. Cyflwyd y frawdoliaeth a fodolai yn y gymdeithas wledig, amaethyddol gyda phawb yn gefn i'w gilydd a bywyd yn hamddenol.
Roedd hyn i gyd y cael ei gyfleu trwy gyfrwng dawns. Roedd y perfformwyr yn symud o gwmpas y llwyfan gan greu darlun o gymdeithas glos, weithgar.
Gwrthgyferbyniad i hyn wedyn yw'r gymdeithas yma heddiw.
Cyflwyd hyn gyda'r perfformwyr yn symud yn brysur o gwmpas y llwyfan a doedd dim cysylltiad o gwbwl rhyngddynt.
Doedd neb yn cyffwrdd ei gilydd sy'n dangos fod pawb heddiw yn byw eu bywydau unigolyddol eu hunain.
Ond roeddwn i'n teimlo fod y rhannau dawns hyn yn llawer rhy hir yn y sioe ac wedi ei or-wneud. Roedd hi'n anodd deall i ddechrau beth oedd pwrpas y symudiadau a beth roedden nhw'n ceisio'u cyfleu. Roedd y gynulleidfa i weld yn anniddig ac yn colli diddordeb.
Gormod o ffilm
Roeddwn i'n teimlo fod gor-ddefnydd wedi ei wneud o'r sgrîn hefyd yn y ddrama. Mewn sioe lwyfan fel hon ni ddylid dibynnu yn ormodol ar gyfrwng arall fel ffilm.
Dylai'r ffilm ategu'r hyn sy'n cael ei gyfleu ar y llwyfan. Ond yr hyn a ddigwyddai yma oedd mai'r naratif o'r llwyfan oedd yn ategu'r hyn yr oeddem yn ei weld ar y sgrîn.
Y sgrîn felly oedd yn mynd â phrif sylw'r gynulleidfa. Gan fod cymaint yn cael ei ailadrodd ar y sgrîn yr un golygfeydd, yr un cymeriadau ac yn y blaen roedd y cyfan yn dueddol o fynd braidd yn ddiflas.
Siomedig oedd y gerddoriaeth hefyd. Gan mai "sioe aml-gerddorol" oedd hon i fod roeddwn i wedi edrych ymlaen i glywed cerddoriaeth amrywiol a gwreiddiol, rhywbeth newydd a chofiadwy.
Ond nid dyna a gafwyd. Caneuon gwerin a thraddodiadol a ddefnyddiwyd yn bennaf a'r rheiny'n cael eu canu gan unawdwyr. Canwyd Ar Lan y Môr, Mil Harddach Wyt, Os Daw fy Nghariad i Yma Heno a Myfanwy.
Roeddwn i'n hynod o siomedig felly na chawsom glywed caneuon gwreiddiol a chyfoes.
Angen cerddoriaeth fwy bywiog
Roedd hi'n drueni na ddefnyddiwyd cerddoriaeth fwy bywiog mewn rhannau o'r sioe gan fod y cyfan o ganlyniad yn dueddol o lusgo.
Byddai wedi bod yn braf clywed tipyn o offerynnau hefyd, yn hytrach na dibynnu cymaint ar ganu digyfeiliant, yn arbennig gan fod rhannau o'r sioe yn ymwneud â'r fro heddiw.
Byddai'r defnydd o offerynnau a chanu cyfoes wedi gweithio'n dda i wrthgyferbynnu â'r canu gwerin, traddodiadol oedd yn cyfleu'r hen gymdeithas wledig ddiwylliannol.
Siomedig oedd y perfformiad felly yn bennaf am ei fod wedi bod yn rhy arbrofol. Er bod y symudiadau a'r ffilm yn llwyddo i gyfleu neges y stori'n effeithiol roedd y ddau gyfrwng wedi eu defnyddio'n ormodol gan fygu'r stori.
Erbyn y diwedd roedd y cyfan wedi mynd yn undonog ac yn ddiflas.
Er hyn cafwyd perfformiad da gan y bobol ifanc. Roedd y coreograffi'n effeithiol a'r perfformwyr yn cyd-symud yn dda.
Cafwyd perfformiadau da gan yr unawdwyr lleisiol hefyd oedd yn creu naws arbennig.
Tipyn o waith
Mae'n amlwg fod tipyn o waith wedi ei wneud i lunio'r cynhyrchiad hwn, yr holl waith ffilmio, ysgrifennu'r naratif a dysgu'r symudiadau a phlethu'r cyfan gyda'i gilydd.
Mae lle i arbrofi mewn cynhyrchiadau o'r math hwn ac roedd hi'n braf gweld tipyn o ddyfeisgarwch.
Braf hefyd oedd gweld cyfraniad creadigol y perfformwyr eu hunain, mae creu gweithdai sy'n rhoi'r cyfle iddyn nhw gyfrannu yn ffordd dda o ddenu ysgrifenwyr newydd ym myd y ddrama yng Nghymru ac ennyn diddordeb ieuenctid yn y maes.
Ond mae'n rhaid bod yn ofalus rhag bod yn rhy arbrofol yn arbennig pan fy hynny'n lladd neges a phlot y sioe.
Adolygiad gan Catrin Jones