Steddfod Gwilym Owen - dydd Llun
Newid ochr gyfryngol Roeddwn i'n gywir pan ddeudis i nos Sadwrn fod yna rywbeth mawr wedi digwydd i Gylch yr Iaith ac fe ddois i ar draws poster ar ochr sgip gwastraff heddiw sy'n profi hynny.
Poster sy'n cyhoeddi mai nid dyfodol Darlledu Cymraeg fydd testun y gwrw cyfryngol Euryn Ogwen yng nghyfarfod y Cylch bnawn Mercher ond yn hytrach codi bwgannod am beryglon y trên grefi cyfryngol Cymraeg yng ngoleuni'r Mesur Darlledu Newydd.
Ac meddai'r Cylch ar waelod y poster "Dowch i gefnogi Radio Cymru ar S.4.C.
Onid rhain oedd y gelynion mawr!. Do fe ddaeth tro ar fyd.
Dwy wyl Penfro Mae'n ymddangos fod yna ddwy wyl ym Mhenfro yr wsnos yma. Yr wyl sywddogol yma yn Nhyddewi a'r hyn mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn alw yn Eisteddfod Solfach - yr hyn ma nhw yn ei alw yn wyl alternatif radicalaidd.
Yn Solfach y mae'r cyffro meddai'r Gymdeithas ond mae'n ddiddorol mai ar faes Steddfod Tyddewi mae' nwh'n cynnal eu raliau a'u protestiadau.
Rhyfadd te'.
Meddwi ar farn A dyna ichi'r mudiad iaith arall na - Cymuned. Mudiad sydd yn ôl rhai yn tra-arglwyddiaethu ar dudalennau'r cylchgrawn Barn.
Ond och a gwae beth sydd ar glawr y rhifyn Steddfodol o'r dywediedig gylchgrawn - dim ond llun o hanner dwsin o boteli gwin organig estron ac o danynt ddyfyniad o waith y modernydd hwnnw Sion Cent.
Dyna beth ydi cadw cysylltiad a gwerin gwlad y cadarnleoedd Cymreig mae''n debyg.
Mewn dwy iaith A pharhau ar y trywydd ieithyddol, mae'n anodd gwybod bellach be ydi sefyllfa'r Rheol Gymraeg yn y Brifwyl 'ma.
Mae'n amlwg nad yw Cymdeithas y Meysydd Chwarae yn parchu'r rheol o gwbl, ac i brofi hynny mae nhw'n rhannu iô-iôs uniaith Saesneg ar y maes tra bo Cwmni Rwber Caerdydd yn gwerthu condoms cwbl ddwyieithog ar Faes B.
Dewiswch eich iaith a dewiswch eich pleser!
Ger y Llys Chwarae teg i'r Parchediaf Rowan Williams am amddiffyn Gorsedd y Beirdd yn erbyn cyhoeddiadau o baganiaeth yn y Wasg Brydeinig dros y Sul.
Ac mae'n hen bryd, falle, i'r Sanhedrin Eisteddfodol hefyd arddangos mwy o barch tuag at yr Archdderwydd â'i gobanog griw.
Sut bydda hi ar Lys yr Eisteddfod heby Gorseddogion.
O'r dwy fil a chwarter sy'n aelodau o'r Llys mae mil a saith gant o aelodau Gorseddol - sy'n siarad cyfrolau am wir frwdfrydedd y genedl tuag at ei Phrifwyl ddiwylliannol - y miloedd hynny sy'n gwario mwy ar fwyd, gwin a gwirodydd bob mis Awst na fyddai hi' yn gostio i ymaelodi a'r Llys am oes.
Gair i gall.
Dychymyg cadeiriol Ac o sôn am ddoethineb tybed nad aeth hwnnw ar goll pan benderfynwyd ar gynllun Cadair Prifwyl Penfro.
Wnai i ddim manylu dim ond awgrymu fod dychymyg wedi mynd dros ben llestri. Ac eto falle erbyn pnawn Gwener y gellir deud fod y gadair yn arddangos mwy o wreiddioldeb na'r casgliad o gerddi buddugol os bydd un.
O gofio rhai o weithiau arobryn y gorffennol fyddai hynny ddim yn syndod o gwbl.
|