Her y dieithryn yn ein plith
Bu'n achlysur teimladwy pan lansiwyd cyfrol ddiweddaraf y Parch Aled Edwards ar faes y Brifwyl ddydd Iau.
Daeth un cyn-geisiwr-lloches i ddiolch yn gyhoeddus iddo am newid ei fywyd drwy ymyrryd tra'r oedd wedi ei ddal yn y gyfundrefn sy'n delio gyda phobl sy'n chwilio am gartref diogel ym Mhrydain. Roedd Eric Ngalle Charles, o'r Camerwn yn wreiddiol, yn un o'r ffoaduriaid a ddaeth at sylw Aled Edwards yn ei waith fel swyddog cyswllt Cytun gyda'r Cynulliad. Fe dreuliodd Aled Edwards gryn dipyn o amser eleni yn ceisio gwella sefyllfa'r ffoaduriaid a gafodd eu carcharu yng Nghymru. Un o'r ffeithiau trawiadol yn y llyfr a gafodd ei lansio ar stondin Cytun yw bod nifer o ddynion wedi cael ei gadw am gyfnod hir dan glo yng ngharchar Caerdydd tra'r oedd yr awdurdodau yn ymchwilio i'w hachosion. Fe ddaethant at sylw'r cyhoedd wedi iddyn nhw gael eu cludo i'r ysbyty mewn cyffion ar gyfer profion iechyd. Ar ôl iddo gael ei alw i edrych ar gyflwr y ffoaduriaid hyn, fe sbardunwyd Aled Edwards i geisio dwyn perswâd ar yr awdurdodau i'w rhyddhau. Ac, er gwaethaf rhai amheuon cynnar ynglyn â'i gymhwyster i ymyrryd, fe gamodd y Cynulliad i'r adwy, gan ddwyn pwysau ar awdurdodau Prydain i wella amodau'r dynion a hwyluso'r broses sy'n delio gyda'u ceisiadau am loches. Fel y dengys y llyfr Y Dieithryn yn Eich Plith (Cyhoeddiadau'r Gair, £2.95), fe fu presenoldeb y ceiswyr lloches yn her i ddyngarwch y gymdeithas ddinesig yng Nghymru, ac yn her i'r Cynulliad i brofi ei bwerau ei hun wrth ddwyn awdurdodau Prydain i gownt er mwyn sicrhau gwell amodau i'r ceiswyr lloches. Dywed Aled Edwards fod y Cynulliad a'r byd gwleidyddol a chyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys y cyfryngau, wedi codi i'r her mewn modd anrhydeddus ac wedi dangos bod pobl Cymru yn mynnu trin dieithriad mewn modd gwâr. Mae'n disgrifio ei lyfr fel "cyfraniad hynod bersonol at seiat brofiad cenedl ar amser arbennig ac yn wyneb trychineb ddynol a her wleidyddol anodd a gyffyrddodd â'n hymwybyddiaeth ni." Mae'n cloi ei lyfr gyda dyfyniad o gerdd gan Eric Ngalle Charles, y bardd a'r cyn-geisiwr-lloches o'r Camerwn sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd lle mae'n astudio i fod yn newyddiadurwr. Fe dreuliodd gyfnod ar y stryd yn Rwsia cyn llwyddo i ddod i Brydain, ac o'r ddiwedd, gael yr hawl i aros yma yn gyfreithlon. Mae'r gerdd yn darlunio ei brofiad fel ceisiwr lloches. "Ond gwrandewch ar yr hyn a ddywedai ein neiniau a'n teidiau: "Pan fydd dau eliffant yn ymladd Gadewir y gwair i ddioddef" heb nodi. "Pan fyddant yn marw a phydru, Yn y lle hwnnw daw blagur bywyd newydd Blagur i fwynhau eu hetifeddiaeth Bydd yr holl ddioddef maent yn pery Yn diflannu fel fel llong yn hwylio dros y gorwel." Pan ddiflanna nid oes sôn amdano. Yn union fel adar Hedfanwn dros y gwledydd Ac ers i chwithau ddysgu saethu heb fethu Dysgwn ninnau i "hedfan heb glwydo".
|