Wythnos ym Maes B
Wrth i mi eistedd adref ac edrych yn ôl ar Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi a meddwl am yr holl ddigwyddiadau a'r gigs ym Maes B mae tri gair yn dod i fy mhen sef, Gwlyb, Gwyntog a Gwag.
Cyrhaeddais i Faes B Nos Fawrth yn barod am y Parti Foam. Roedd y Parti Foam yn llawer gwell a mwy trefnus nac un llynedd yn Ninbych, ond doedd yna ddim hanner cymaint o bobl yno.
Roedd y tri Dj sef Ian Cottrell, Dj Dafis a Jean Jaques Smoothie yn wych ac yn haeddu llawer mwy o dorf na'r hyn a gawsant. Yn ôl yr Eisteddfod gwerthwyd 800 o docynnau i'r Parti Foam, ond dwi'n amau yn fawr bod cymaint â hynny yno.
Dewis noson anghywir Yn sicr dylai bod Parti Foam ym Maes B eto y flwyddyn nesaf gan ei fod mor wyllt ac yn llawn hwyl a bod pawb bob amser yn mwynhau, ond efallai y dylid trafod ymhellach ynglyn â pha noson y dylai'r Parti Foam gael ei gynnal.
Roedd gweddill y gigs yn dda ar y cyfan gydag o leiaf naw band yn chwarae bob nos. Yn fy marn i mae naw yn ormod o lawer gan nad ydi o'n deg ar y bandiau sy'n chwarae ar gychwyn y noson, gan nad oedd bron neb i wrando arnyn nhw.
Y band ddylai fod wedi cael mwy o chwarae teg oedd Carlotta gan eu bod yn fand da iawn. Dwi'n meddwl y dylai gigs Maes B gychwyn yn hwyrach, tua naw, yn hytrach nac am bump y prynhawn gan nad oes neb eisiau mynd i'r gigs o bump hyd ddau y bore.
Y bandiau gorau eleni oedd Paccino, Gwacamoli, Melys, Estella, Pep le Pew, Gogz, Maharishi a heb anghofio Big Leaves. Rhoddodd pob un o'r bandiau yma berfformiadau gwych ac roedd y dorf yn mwynhau canu a dawnsio i'w cerddoriaeth.
Y gwynt a'r glaw yn cyrraedd Cyrhaeddodd llawer mwy o bobol gyda'u pebyll ar y dydd Iau yn barod am dair noson wyllt ond wrth gwrs nos Iau daeth y gwynt a'r glaw.
Dwi ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi gweld cymaint o law, neu efallai ei fod o'n waeth mewn pabell, ond erbyn y bore wedyn roedd pob man yn socian a llawer o'r pebyll wedi chwythu i ffwrdd.
Trodd llawer o bobol am adref wedi cael llond bol. Mae'n bechod mawr bod y tywydd wedi troi, achos dwi'n siwr bod y tywydd wedi effeithio yn fawr ar y nifer oedd yn y gigs.
Rhaid cwyno yn fawr am doiledau Maes B. Afiach ydi'r unig air i'w disgrifio. Roedden nhw yn drewi, nid oedd y clo yn gweithio ar unrhyw un ac nid oedd papur toiled na chyfleusterau angenrheidiol yn nhoiledau'r merched.
Nid oedd y cawodydd ddim gwell gan eu bod yn gorlifo ac yn drewi yn ofnadwy. Dylai bod llawer mwy o doiledau a'r rheiny'n cael eu glanhau yn amlach nac unwaith bob bore.
Prisiau rhy uchel Hefyd rhaid cwyno am brisiau gigs ac alcohol Maes B. Mi roeddwn i'n fodlon talu £8 ar y Nos Sadwrn gan fod bandiau mor dda yn chwarae, ond yn fy marn i buasai £5 yn hen ddigon i dalu am y gigs eraill.
Rhaid cofio bod llawer ohonom ar Faes B wedi talu £3 y noson yn barod ac yno am o leiaf tair noson, felly mae'n mynd yn wythnos ddrud iawn yn enwedig os ydych chi hefyd yn mynd i'r Maes ac yn talu £5 yn ystod y diwrnod.
Anodd oedd coelio pris alcohol yn y gigs, roedd hi'n costio dros £5 am ddau ddiod, roedden nhw'n cymryd mantais ar fyfyrwyr tlawd.
Dylai'r bar ostwng eu prisiau, drwy wneud hynny buasen nhw'n denu mwy o bobol yn gynt yn y noson, gan fod llawer o bobol wedi penderfynu mynd i Solfach ddechrau'r noson i gael cwrw rhatach.
Ddim cystal â Dinbych Ar y cyfan roedd Maes B yn dda iawn eleni, ond ddim cystal â llynedd yn Ninbych. Doedd y tywydd ddim wedi helpu ac roedd y gigs yn ddistaw iawn.
Rhaid diolch i'r Gorlan Goffi oedd ar agor bob awr o'r dydd yn gwerthu paneidiau o de am 30c a byrgars 'chi moyn winwns da na?' a phot nwdls blasus dros ben - heb y Gorlan ni fuasai Maes B yn Faes B.
Er gwaetha'r gwynt ar glaw a'r toiledau, dwi'n edrych ymlaen i fynd i Faes B y flwyddyn nesaf yn barod.
|