O'r Mod i'r Steddfod
Yr oedd tri o gynrychiolwyr y Mod yn yr Alban ar faes Eisteddfod Tyddewi ddydd Mercher er mwyn gweld beth sydd gan wyl ddiwylliannol y Cymry i'w dysgu iddyn nhw.
Wedi dim ond ychydig amser ar y Maes dywedodd John Macleod i'r Eisteddfod yn Nhyddewi wneud cryn argraff arno.
Mae'r Mod, sydd wedi cael ei disgrifio yn y gorffennol fel fersiwn Gaeleg o'r Eisteddfod Genedlaethol, yn wyl tra gwahanol a llai na'n heisteddfod ni mewn gwirionedd.
Dywedodd Mr Macleod fod rhwng 48,000 a 50,000 yn ei mynychu dros wythnos.
Ychwanegodd fod rhyw 66,000 o siaradwyr Gaeleg yn yr Alban ond fod pryderon y bydd gostyngiad yn ffigurau'r Cyfrifiad nesaf.
"Ond y mae yna gynnydd ymhlith y plant sy'n dysgu'r iaith," meddai.
Ychwanegodd y gobeithiai y byddai treulio tridiau ym mhrifwyl y Cymry yn cynnig syniadau iddo ynglyn a datblygu'r Mod yn drefniadol ac yn ariannol.
Ond go brin y byddai am efelychu Cymru o ran y tywydd a gafodd ar ddiwrnod cyntaf ei ymweliad gyda chawodydd trymion yn rhoi gwedd wahanol iawn i'r maes o gymharu a dyddiau heulog cyntaf yr wyl.
"Mae'n debyg iawn i dywydd yr Alban mewn gwirionedd," meddai gyda gwên.
|