Steddfod y plismyn clen
Beth bynnag arall fydd hynodrwydd Eisteddfod Tyddewi mae'n ymddangos ar y cychwyn fel hyn y gall gael ei chofio fel "Eisteddfod y plismyn clen."
Ac mae'n ymddangos mai'r cwestiwn mwyaf cyffredin i'r plismyn hyn gan Eisteddfodwyr yw, "Ble mae'r cwrw chepaf?"
Dywedodd Elfed Roberts, cyfarwyddwr yr Eisteddfod, iddo ef dderbyn wedi diwrnodau cyntaf yr Eisteddfod sawl neges yn canmol hynawsedd swyddogion Heddlu Dyfed Powys.
"Mae sawl person wedi dweud pa mor gyfeillgar ydi'r heddlu, yn stopio pobl ac yn siarad efo nhw," meddai mewn cyfarfod gyda'r Wasg fore Sul.
Ychwanegodd iddo gael canmoliaeth debyg i yrwyr bysus ardal Tyddewi oherwydd eu parodrwydd i helpu ymwelwyr a'r ardal.
Ymhlith y rhai sydd wedi canmol, meddai, mae y Prifardd Eluned Phillips.
mae gweithgareddau'r heddlu yn y fro yn cael eu llywio gan yr Arolygydd Iwan Davies a ddywedodd i bethau fod yn hynod ddidrafferth yn ystod nos Sadwrn gyntaf yr Eisteddfod a neb wedi ei arestio.
Ychwanegodd mai polisi'r heddlu yw gwneud popeth i helpu pobl a gofalu amdannynt, nid eu cosbi.
"Ar cwestiwn ydym ni'n ei gael amlaf yw, ble mae'r cwrw chepaf/" meddai
Ychwanegodd i blismyn o ardaloedd eraill gael eu tynnu i mewn i ardal yr Eisteddfod er mwyn sicrhau fod pob plismon ar y Maes yn medru siarad Cymraeg ac yng ngherbydau'r heddlu sicrheir fod o leiaf un swyddog sy'n medru Cymraeg.
A'r newyddion da i Eisteddfotwyr y flwyddyn nesaf yw mai yn ardal Heddlu Dyfed Powys y bydd yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf hefyd.
"Dyfed Powys yw'r unig Heddlu i cael dwy Eisteddfod un ar ol y llall," meddai elfed Roberts.
Er na chafodd Eisteddfod Tyddewi gystal cychwyn a'r un ddiwethaf yn y de, Llanelli 2000, yr oedd mwy ymwelwyr nag yn Ninbych y llynedd.
Ymwelodd 1,467 a Thyddewi nos Wener ar gyfer y cyngerdd agoriadol o gymharu a 1,996 yn Ninbych a 3,017 yn Llanelli ac yn ystod y Sadwrn cyntaf ymwelodd 14,313 a thyddewi o gymharu a 14,105 yn Ninbych a 17,926.
Cadarnhaodd Elfed Roberts y bydd yr Eisteddfod yn parhau i agor ar ddydd Sul yn dilyn arbrawf tair blynedd ond nad oes gorfodaeth ar stondinwyr i agor eu pebyll
|