Idris Hughes o Ynys Vancouver sy'n sgwennu am un etholaeth hynod o anhygyrch.
I'r mwyafrif o'r aelodau seneddol a'r ymgeiswyr newydd mae'r etholwyr o fewn tafliad carreg, ac nid yw pellter yn creu unrhyw broblem iddynt.
Ond a helpo y sawl sydd a'u bryd ar fod yn aelod seneddol i Nwnafwt - tiriogaeth ieuengaf Canada (Ebrill 1999).
Mae Nwnafwt, (sy'n golygu 'ein gwlad' ) yn anferth o le - yn 1,900,000 km sgwâr ac yn 1/5 o faint Canada.
Dyma wlad y twndra a'r mwsceg, yr eira a'r rhew didostur.
Mae rhan helaeth ohoni o fewn Cylch yr Arctig. Mae'r boblogaeth tua 22,000 gyda 17,500 ohonynt yn Inuit (Eskimos i ni).
Sut mae'r sawl sydd a'i fryd ar gynrychioli Nwnafwt yn mynd i ddygymod a dwy iaith hollol wahanol i'r Saesneg a'r Ffrangeg a sut, medda chi, maent yn bwriadu trafeilio?
Does ond ugain kilometr o ffyrdd yn yr holl diriogaeth. Mae'n bosib hedfan i rai mannau o'r wlad; ond am y gweddill, gwell fuasai iddynt ystyried rhentio sgidw neu bâr o sgîs neu sled cwn yr Arctig.Na, fuaswn i ddim yn cysidro rhedeg fel aelod seneddol i Nwnafwt.
Yn hytrach, rhowch i mi ddiddanwch Ynys Fancwfyr unrhyw amser!
|