Pentref bychan ar ochr orllewinol Ynys Fancwfyr ydi Gold River - ac mae pethau'n dechrau poethi yno y dyddiau hyn.
Na, nid oherwydd yr amser o'r flwyddyn a gwres yr haul yn cynyddu ond yn hytrach am fod y brodorion lleol mewn ymrafael a'r DFO (Department of Fisheries and Oceans) dros Lwna yr Orca.
Yn chwareus Mae Lwna bron yn bump oed eleni ac yn pwyso bron i bum tunnell. Am rhyw reswm neu'i gilydd gadawodd ei deulu dair blynedd yn ôl gan ymgartrefu yn Nootka Sound - lle delfrydol i Orca gyda digon o fwyd i'w gadw'n hapus drwy'r flwyddyn.
Yn anffodus dechreuodd Lwna gyfathrachu a thrigolion Gold River a fyddai'n casglu ar y doc efo'u cwn i edrych arno. Byddai yntau, yn ei dro, wrth ei fodd yn crafu ei gefn yn erbyn y doc ac yn gwthio'r cychod bach yn chwareus.
Erbyn heddiw mae'r DFO yn ystyried Lwna a'i natur chwareus yn dipyn o niwsans yn peryglu ei hun a bywydau pobl eraill.
Y dydd o'r blaen penderfynodd ddod i'r wyneb yn syth o flaen awyren a oedd ar fin glanio yn nyfroedd y Nootka Sound.
Bwriad y DFO ydyw dal Lwna a'i gludo mewn tryc i Peder Bay ger Victoria, rhyw 350 kilometyr i'r de ac yna ei ollwng yn rhydd pan fo pod o Orcas yn nofio heibio.
Yr hen bennaeth Ond nid yw'r syniad yn dderbyniol i dylwyth y Mowachaht - Muchalaht. Eu dadl hwy ydi gadael i natur gymryd ei chwrs.
Wedi'r cyfan mae Lwna'n ddigon call i adael Nootka os dymuna. Nid yw'n gaeth o bell ffordd; yno o'i ddewis ei hun mae o.
Yn fwy diddorol fyth, cred y Mowachaht bod Lwna yn ymgnawdoli ysbryd y diweddar bennaeth a fu farw yr union amser yr ymddangosodd Lwna yn Nootka Sound gyntaf.
A dymuniad olaf y pennaeth ar ei wely angau oedd dychwelyd yn ôl fel Orca - ceidwad y môr yn ôl traddodiad y brodorion.
Bwriad y llwyth bellach ydi helpu Lwna i osgoi magl y DFO. Maen nhw yno heddiw yn eu ceufad yn hebrwng Lwna allan tua'r môr ac i ffwrdd o afael y rhwyd sy'n mynd i'w garcharu am wythnos cyn ei gludo i Victoria.
Mae Lwna wrth ei fodd efo'r holl sylw ac yn dilyn y ceufadau yn glos ac ufudd gyda'r brodorion yn canu iddo a chosi ei fol.
Pob lwc i'r Mowachaht, a phob lwc i Lwna!
|