|
|
Taith Hawaii - Morfilod a phlanhigyn prin
Trydedd erthygl Idris Hughes o Ynys Vancouver, Canada, yn son am ei ymweliad â Hawaii
|
Ynys Maui Ebrill 18, 19, 2002 . "Maui no ko oi." Dyna beth ddywed y trigolion beth bynnag. "Maui yw'r orau."
Maui yw'r ail ynys fwyaf yn y gadwyn efo 103,000 o drigolion. Bychan iawn o gymharu a'r 2.3 miliwn o ymwelwyr a ddaw yna pob blwyddyn.
Nid pobl yw'r unig ymwelwyr â Maui. Y gred ydi bod tua hanner morfilod Humpback y byd yn dychwelyd i ddyfroedd cynnes Maui lle y'u ganwyd, i gyfarfod a morfilod eraill ac i gyplu.
Gwneud stranciau Gwylio morfilod yw un o brif ddiddordebau hamdden Maui, ac ar ôl glanio yn Lahaina penderfynasom ninnau ymuno ag eraill o'r un fryd. Llogi cwch ac i ffwrdd a ni am brynhawn cyfan, i wylio'r morfilod anferth yn gwneud stranciau.
Uchafbwynt arall ein hymweliad â Maui oedd ein taith i Barc Cenedlaethol Haleakala sydd tua 45 milltir sgwâr ac yn noddfa i gannoedd o adar a phlanhigion unigryw.
Mae'r parc hefyd yn cynnwys 'fforest wlaw' ynghyd ag 'anialwch alpanaidd' o gylch copa llosgfynydd Haleakala.
Yma, ymhlith y creigiau folcanig, y sbwriel a'r llwch, cawsom gipolwg ar yr 'Haleakala Silversword', un o ryfeddodau ynys Maui.
Nid yw'r planhigyn hwn yn tyfu yn unman arall yn y byd. Mae'n blodeuo unwaith; bwrw ei hadau ac yna'n marw. Ar un adeg bu bron iddo â diflannu'n llwyr.
Copa llosgfynydd Haleakala yw llosgfynydd cwsg mwyaf Hawaii. Mae'r copa tua 10,000 o droedfeddi o uchder, a'r olygfa dros ynys Maui yn fythgofiadwy.
Ara deg iawn oedd ein camau ar y top a thenau iawn oedd yr awyr i'w hanadlu, a chynghorwyd ni i beidio â rhuthro o gwmpas yn wirion rhag ofn cael trawiad calon.
Choeliwch chi byth, ond mewn bws foethus y cawsom ein cludo tuag at gopa Haleakala; a hyn ar hyd ffordd darmacadam lyfn.
Y dewis arall oedd cael ein cludo i'r copa mewn tryc, ac yna gwibio yn ôl i lawr y llethrau ar feic.
Rhyw ddiwrnod, hwyrach, fe gawn wneud hyn hefyd.
|
|