Mae Cymraes wedi ennill gwobr arbennig yng Nghanada.
Derbyniodd Ann Gwyn Roberts (Evans) o Fethesda y Governor General's Caring Canadian Award.
Yr oedd hynny oherwydd ei gwaith er lles eraill yn nhref Vancouver a'r cylch.
Y mae hi ymhlith dim ond 49 o bobl ledled Canada i'w chymeradwyo - tri, gan ei chynnwys hi, o dalaith British Columbia.
Disgrifiwyd hi fel:
"Gwraig gyda myrdd o ddiddordebau ac un sydd wedi cysegru blynyddoedd lawer i helpu'r henoed a phobl ifanc mewn argyfwng yn rhanbarth ogleddol tref Vancouver.
"Mae hi wedi dwyn sylw y cyhoedd a'r awdurdodau i ferched a phobl ifanc yn dioddef anawsterau, ac mae hi'n wastad yn edrych am ymateb i broblemau'r digartref.
"Mae hi'n gweithio'n galed i greu tai fforddiadwy ar gyfer teuluoedd gyda chyflogau isel ac am loches a chysur i'r sawl sydd mewn oed."
Wedi ei geni a'i magu yn Nyffryn Ogwen addysgwyd Ann yn Ysgol Penybryn ac Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda.
Am ddwy flynedd bu'n fyfyrwraig yn Y Coleg Normal, Bangor, lle bu'n paratoi i fod yn athrawes.
Yn 1960 gadawodd i fyw ym Montreal, Canada, ond symudodd oddi yno i fyw yn nhref Vancouver, talaith British Columbia, lle mae wedi byw er 1965.
Bu'n athrawes am rai blynyddoedd yn Vancouver; yn gymwynaswraig i lawer ac yn aelod gweithgar a selog o'r Gymdeithas Gymraeg yn y dref am dros ugain mlynedd gan fod yn llywydd am gyfnod.
Ymhlith ei llawer o ddyletswyddau gyda'r Gymdeithas Gymraeg yr oedd trefnu oedfa'r Sul ac fe wnaeth hyn yn ymroddgar am flynyddoedd lawer.
|