|
|
Aloah Hawaii!
Idris Hughes o Ynys Vancouver, Canada, yn son am ei ymweliad ag Ynysoedd Hawaii
|
Pan fo eirlaw Hydref yn chwyrlio ar ffenestr fy nhy, a minnau'n rhynnu yn fy nhrons, melys iawn yw dwyn i gof Ynysoedd hyfryd Hawaii, efo'u traethau euraidd ; y coed palmwydd tal yn siglo a chlician yn y Gwynt Trafnid, a'r cymylau gwlanog gwynion yn llusgo'u traed dros yr awyr las enfawr. Ym mis Ebrill 2002 y cawsom gyfle i hwylio o gylch Ynysoedd Hawaii ar y Norwegian Star. Clampan o long 91,000 tunnell gyda pymtheg dec, ac yn cludo 2,240 o deithwyr a lle i 1,100 o griw.
Rhyw fath o westy ar nawf efo deg ty bwyta, pedwar ar ddeg bar a lolfa, theatr a sinema, pwll nofio a maes chwarae. Hyn a gyfeirir ato gan yr NCL - Norwegian Cruiseline - fel mordeithio pum seren.
Beth am sawru dipyn o'r daith efo ni? Dydd Sul, Ebrill 14, 2002. Vancouver i Honolulu. Rhyw chwe awr o daith yw hi o faes awyr Vancouver i Honolulu ar Ynys Oahu.
Poblogaeth Honolulu County yw tua 880,000 ac mae'n gartref i 80% o drigolion Ynysoedd Hawaii. Ar Ynys Oahu, wrth gwrs, mae Pearl Harbour, Diamond Head a thraeth enwog Waikiki.
Dal tacsi o'r maes awyr i'r doc - taith hanner awr drwy strydoedd prysur Honolulu, ac yna gweld y Norwegian Star am y tro cyntaf. Lefiathan mawr gwyn gyda chorn glas.
Yn ymwybodol o'r gwres yn barod, 88F. O mor wahanol i Alaska!
Erbyn tua un o'r gloch, mi 'roeddem ar fwrdd y llong, ac yn ymhyfrydu yn ein hystafell gyfforddus gyda'i dec preifat. Ar ôl crwydro bwrdd y llong i arfer a'n cartref newydd, penderfynu troi i mewn tua chwech o'r gloch i ystafell fwyta Y Versailles am swper moethus. Codi angor am wyth y nos a gadael tir yn araf deg bach i swn canu hudolus brodorion Hawaii a oedd wedi ymgynnull ar y cei i ddymuno'n dda i ni .
"Brysiwch yma eto," medda nhw. "Siwrna saff. Dewch yn ôl i'n gweld . FfarwelNorwegian Star." Yng ngwres y nos, a goleuadau Honolulu yn wincian ar y gorwel, onid peth hawdd oedd dweud, "Dewcs, tydan ni'n lwcus!" Dydd Llun,Ebrill 15,2002. Hilo, Hawaii Hawaii yw'r ynys fwyaf yng nghadwyn Ynysoedd Hawaii. O ganlyniad fe'i gelwir yn Hawaii Fawr.
O ran maint mae hi ddwywaith mwy na'r ynysoedd eraill efo'i gilydd. Er hynny hi yw'r ieuengaf o'r ynysoedd, ac yn ôl pob golwg yn dal i dyfu; diolch i chwydiadau'r llosgfynydd Kilauea.
Mae amaethyddiaeth yn rhan helaeth o economi'r Ynys Fawr a'i blodau'n a'i chnau Macadamia yn cael eu hallforio i bob rhan o'r byd.
Yma y cynhyrchir 2.3 miliwn pwys o ffa coffi. A dyma'r unig le yn y byd lle mae 'Kona Coffi' pur yn tyfu.
Mae papayas, guavas a bananas yn tyfu yma hefyd ac yn cael eu hanfon i bob cwr o'r byd. Mae popeth i'w weld yn ffynnu yn y pridd folcanig maethlon.
Ar ochr ddwyreiniol Hawaii mae Hilo - prifddinas yr ynys a'r dref wlypaf yn yr Unol Daleithiau.
Tref fach dlos yn llechu rhwng dau fynydd: Mauna Kea a Mauna Loa. Y ddau fel ei gilydd yn fynyddoedd llosg ar un adeg. Dyma hefyd ochr Drofannol yr ynys gyda digon o wlaw a gwres i sicrhau tyfiant toreithiog.
A dyma ardal y mynydd llosg enwog.
|
|