Yr oedd gan yr Eisteddfod ddau lywydd yn bresennol wrth iddi agor heddiw
Yr oedd Llywydd y dydd, Caryl Parry Jones, yno - ac ar ymweliad hefyd, Llywydd yr Eisteddfod, Dewi Pws.
Ac mewn cyfarfod cyn mynd ar y llwyfan cychwynnodd Dewi, nid yn annisgwyl, gyda j么c;
"Sut ydych chi'n cael merch dew i'r gwely?
"Piece of cake.
Ac i'r rhai oedd yn disgwyl yr annisgwyl wedi hynny, chawson nhw mo'u siomi wrth i Dewi ymhelaethu am ei brofiadau gyda'r Urdd:
""Mae rhyw fath o split complex gyda fi am yr Urdd. Pan oeddwn i yn yr ysgol roeddwn i yn y band taro , yn chwarae dryms, ond roeddwn i'n gorfod sefyll yn y cefen - a doedden nhw byth yn fy ngadael i mewn i'r c么r achos oeddwn i'n methu canu.
"A doeddwn i hefyd ddim yn cael mynd i Langrannog achos roeddwn i'n rhy ddrwg. Felly, twll din yr Urdd!"
Ond ychwanegodd i'r Urdd fod yn help mawr iddo mewn gwirionedd.
"Mae wedi bod yn gefn mawr i mi.
Ar lwyfan gydag Aelwyd Treforys ac Aelwyd y Tabernacl . . . ac fe es i Glan Llyn lle'r oedd enwogion y genedl a rydw i wedi enjoio m芒s draw. A dyna sydd gen i i'w ddweud am yr Urdd," meddai.
'Rhan annatod'
Dywedodd Caryl Parry Jones hithau i'r Urdd fod yn "rhan annatod" o'i magwraeth hithau er pan yn ddeg oed.
Ac yng Nglan Llyn, meddai, yr oedd Dewi yn Swog arni hi!
Cyfeiriodd yn arbennig sut y bu'r Urdd yn fodd i gychwyn cymaint o yrfaoedd.
"Mae'n rhaid inni gofio mai dechrau gyrfaoedd mae pobl yn yr Urdd. Mae yna waith caled iawn, iawn, i'w wneud ar 么l gadael yr Urdd i ddilyn gwahanol yrfaoedd a rhaid cofio hynny cyn ein bod yn mopio gormod ond yn sicr mae Eisteddfod yr Urdd wedi gosod safon ac wedi bod yn rhan annatod i unrhyw un sydd eisiau mynd ymlaen yn y celfyddydau creadigol," meddai gan ddisgrifio'r profiad o ddysgu sefyll o flaen cynulleidfa fel "caffaeliad aruthrol".
"Yn rhywbeth nad yw sawl un arall o weldydd eraill ddim yn ei gael," meddai.
Mynegodd ei balchder hefyd i'r Eisteddfod ddychwelyd i Ganolfan y Mileniwm gan ei fod yn rhoi'r cyfle i blant berfformio ar un o lwyfanau gorau'r byd i gyd.
Straeon heddiw
- 'Ysgoloriaeth dros baned' - Bryn Terfel
- Agor gyda phasiant meithrin
- Araith Aled Edwards
- Caryl - llywydd dydd Llun
- Cyngerdd Deng-Mlwyddiant Ysgoloriaeth Bryn Terfel
- Dau am bris un ddydd Sadwrn
- Dau lywydd a j么cs
- Mosgito yn y Steddfod
- Prif gyfansoddwr - y beirniad eisiau gwrando a gwrando
- Seremoni yn tynnu gwahanol gredoau at ei gilydd
- Yr Urdd: R锚l sioe Mickey Mouse - am ddiwrnod!