Saesneg oedd geiriau cyntaf Eisteddfod yr Urdd Caerdydd, 2009.
Synnwyd rhai pan agorodd dathliad aml ffydd yr Eisteddfod bnawn Sul gydag araith uniaith Saesneg a barhaodd am bedwar munud yn egluro arwyddocad dawns oedd yn mynd i gael ei chyflwyno gan Gr诺p Dawns Indiaidd Cymru.
Disgrifiodd prif weithredwr yr Urdd, Efan Gruffudd Jones, y digwyddiad fel un "anffodus".
Ac meddai Tudur Dylan Jones, cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a'r Celfyddydau:
"Fe wnaed yn glir nad oedd yn rhan o'r dathliad ac mai ychwanegiad oedd hwn. Os oeddech chi yno roedd y dathliad yn cychwyn ar 么l y perfformiad yna. Nid dyna oedd araith agoriadol Eisteddfod yr Urdd. Doedd o ddim yn rhan o'r dathliad."
Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones na dderbyniodd yr Urdd unrhyw gwynion yn dilyn y digwyddiad a ymddangosai fel pe byddai yn gychwyn y 'dathliad'.
"Ychwanegodd: "Yr hyn sy'n braf efo Eisteddfod yr Urdd yw ei bod yn adlewyrchu yr ardaloedd mae hi'n mynd iddyn nhw a dyna'n union mae hi wedi wneud eleni."
Trefnwyd y 'dathliad' fel yr oedd yn cael ei alw ar y cyd gan yr Urdd a Cyt没n: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru a Chyngor Rhyng-ffydd Cymru.
Y thema oedd Neges Ewyllys Da y mudiad ar newid hinsawdd.
Y bwriad oedd i'r digwyddiad a oedd yn tynnu i mewn wahanol gredoau fod yn fodd i'r Urdd i gydio mewn ysgallen a fu'n un digon pigog yn y gorffennol o gofio bod llw traddodiadol y mudiad yn galw am ffyddlondeb "i Grist" yn ogystal ag i Gymru a chyd-ddyn.
Disgrifwyd y seremoni fel ffordd "anturus" o dynnu plant o gredoau eraill i gorlan yr Urdd tra ar yr un pryd yn mynegi "traddodiad Cristnogol Cymru" .
Cyn y digwyddiad cyfeirwyd mewn datganiad at groesawu "deiliaid prif gredoau a diwylliannau eraill y genedl".
Ac meddai'r Parchedig Aled Edwards, Prif Weithredwr Cyt没n:
"O lwyfan cadarn traddodiad Cristnogol Cymru, bu'n bleser cael cydweithio 芒'r Urdd wrth groesawu traddodiadau a chredoau amrywiol Cymru heddiw i'r dathliad arloesol hwn."
Yn ystod y dathliad cafwyd cyflwyniad gan Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yr Arglwydd Elis Thomas, a chyfraniadau gan g么r CF1, band drymiau dur Ysgol Fitzalan - yr ysgol fwyaf aml-hiliol yng Nghymru - a ch么r Ysgol Plasmawr.
Cafwyd cyfraniad hefyd gan Geraint Ballinger ar y soddgrwth.
Darlledwyd y Neges Ewyllys Da ei hun y dydd Llun cyn yr Eisteddfod, hi ch芒n oedd yn gysylltiedig 芒 hi wedi ei llunio gan ddisgyblion o ysgolion Fitzalan a Phlasmawr yn y Brifddinas - y tro cyntaf i ddwy ysgol weithio ar y cyd i lunio'r Neges.
Straeon heddiw
- 'Ysgoloriaeth dros baned' - Bryn Terfel
- Agor gyda phasiant meithrin
- Araith Aled Edwards
- Caryl - llywydd dydd Llun
- Cyngerdd Deng-Mlwyddiant Ysgoloriaeth Bryn Terfel
- Dau am bris un ddydd Sadwrn
- Dau lywydd a j么cs
- Mosgito yn y Steddfod
- Prif gyfansoddwr - y beirniad eisiau gwrando a gwrando
- Seremoni yn tynnu gwahanol gredoau at ei gilydd
- Yr Urdd: R锚l sioe Mickey Mouse - am ddiwrnod!