Bu'n rhaid atal gwaith ar faes Eisteddfod yr Urdd pan ddarganfu gweithwyr olion sy'n diddio o'r canol oesoedd mwyaf tebyg.
Yr oedd y gweithwyr yn gosod pibell ar gyfer yr 诺yl pan wnaed y darganfyddiad.
"Wrth i weithwyr gloddio i osod y bibell, daethant ar draws dwy ffos ac mae arbenigwyr yn credu mai unai ffordd neu ffos yn amgylchynu pentrefan bychan sydd yma ," medd Aled Si么n, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedalethol yr Urdd.
"Yn naturiol, daeth y gwaith i stop a bu'n rhaid i ni newid ein cynlluniau yn go gyflym ac wrth gwrs fyddwn ni ddim yn gosod pibellau fan hyn bellach er mwyn peidio aflonyddu ar yr olion," ychwanegodd.
Fodd bynnag, dywedodd fod y gweithwyr yn parhau i gadw at eu hamserlen amserlen ac y bydd y maes yn barod mewn da bryd.
Felmae'n digwydd, roedd y Dr Martin Bates o Brifysgol Cymru, Llanbedr-pont-Steffan yn cloddio gerllaw ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac fel rhan o prosiect gyda disgyblion o Ysgol Ciliau Parc, Ciliau Aeron, yn ymwneud 芒 hanes dyffryn Aeron dros 400 miliwn o flynyddoedd.
"Mae'r canfyddiad hwn yn cydfynd 芒 thirwedd canoloesol y rhan yma o'r dyffryn sy'n dyddio n么l rhyw 600 neu 700 mlynedd," medd Dr Bates.
"Mae'n ychwanegu dimensiwn arall i'r llun rydym yn ei adeiladu o'r digwyddiadau gwledig oedd yn cymryd lle yma ymhell cyn i blasdy Llanerchaeron gael ei adeiladu," eglurodd.
Fel rhan o'r prosiect gyda'r plant edrychwyd ar greigiau ac afonydd yn yr ardal gyda'r disgyblion yn cofnodi eu gwaith ar bosteri fydd yn cael eu harddangos ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ystod yr Eisteddfod.
"Byddwn hefyd yn cloddio mewn cornel o'r maes carafannau yn ystod yr 诺yl lle y gwyddom bod lloc hynafol o amgylch t欧 crwn neu nodwedd arall ac mae croeso i Eisteddfodwyr ddod draw i'w weld," meddai Dr Bates.
Straeon heddiw
- Arbediad i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Catrin a Tommi yn uno gyda thelyn a llif!
- Darganfod olion Canol Oesol
- Dathlu T Llew
- Deng niwrnod o ddathlu a chystadlu
- Doniau lleol Cyngerdd Agoriadol
- Hanes Llanercherchaeron
- Maes gwahanol
- Sioe Edward H
- Trwydded alcohol i'r Maes
- Tr锚n Bach i rai heb bwff
- T么n ff么n Ceredigion 2010