Caneuon Edward H Dafis 30 mlynedd yn 么l sydd wrth wraidd sioe ieuenctid Eisteddfod yr Urdd 2010.
Mae'r sioe wedi ei sylfaenu ar ganeuon Plant y Fflam Edward H Dafis un o grwpiau mwyaf arloesol y Gymraeg.
Bydd 60 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y sioe o'r un enw a fydd yn cael ei chyfarwyddo gan Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch a ddywedodd;
"Yn ei hanfod, stori dda yw Plant y Fflam sy'n cael ei chyfleu drwy gyfrwng deg c芒n wych."
Dywedodd iddo ef "ailddarganfod" yr albwm beth amser yn 么l pan gyhoeddodd Sain gasgliad o weithiau Edward H ar gryno ddisg.
"Dyna ddechrau meddwl bryd hynny bod deunydd sioe yno," meddai.
Awdur y sgript yw Mari Rhian Owen hefyd o Gwmni Arad Goch.
"Y stori yw criw o bobl ifanc yn troi eu cefnau ar gymdeithas gyfoes wag er mwyn ceisio creu ffordd well o fyw," meddai Jeremy Turner.
Cyn enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel, Rhys Taylor o Aberystwyth, yw'r cyfarwyddwr cerdd a'r coreograffydd, Lynne Hughes.
Dywedodd un o gyn-aelod Edward H Dafis, Hefin Elis, ei fod wrth ei fodd gyda'r penderfyniad.
"Dwi'n edrych ymlaen at gael gweld sut y bydd y bobl ifanc yn ymdrin 芒'r caneuon. Mae'n wych gweld y byddan nhw'n cael eu canu o'r newydd 30 o flynyddoedd wedi iddyn nhw ymddangos am y tro cynta. "Dwi'n edrych ymlaen at eu gweld mewn gwisg newydd."
Edward H
Fe ffurfwyd Edward H Dafis, fel nifer o fandiau eraill o'r un cyfnod gan mai dyna oedd yr unig ffordd i ieuenctid gael llais," meddai Jeremy.
"Dwi ddim yn credu fod hyn mor wir bellach gan bod nifer o sefydliadau a fforymau sy'n gallugoi ieuenctid i ffurfio a lleisio barn.
"Ond dyw hynny ddim i ddweud nad yw'r themau sydd i'w gweld yn Plant y Fflam - sef creu cymdeithas well - yr un mor gyfoes heddiw ac yr oeddent dri deg o flynyddoedd yn 么l."
Aelodau Edward H Dafis oedd Dewi 'Pws' Morris, Charli Britton, John Griffiths, Hefin Elis ac yn ddiweddarach, Cleif Harpwood.
Perfformiodd y gr诺p gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Clwyd 1973.
Bydd y sioe yn cael ei pherfformio yn Theatr Felin-fach o nos Wener Mai 27 hyd nos Fawrth, Mehefin 1.
Straeon heddiw
- Arbediad i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Catrin a Tommi yn uno gyda thelyn a llif!
- Darganfod olion Canol Oesol
- Dathlu T Llew
- Deng niwrnod o ddathlu a chystadlu
- Doniau lleol Cyngerdd Agoriadol
- Hanes Llanercherchaeron
- Maes gwahanol
- Sioe Edward H
- Trwydded alcohol i'r Maes
- Tr锚n Bach i rai heb bwff
- T么n ff么n Ceredigion 2010