Ymhlith y nifer o atyniadau "newydd a chyffrous" ar faes Eisteddfod yr Urdd 2010 yn Llanerchaeron bydd tr锚n bach.
Bydd Tr锚n Bach y Maes yn cludo Eisteddfodwyr o amgylch y Maes," meddai Aled Si么n, cyfarwyddwr yr Wyl.
"Ar fwrdd Tr锚n Bach y Maes, bydd cyfle i Eisteddfodwyr ymlacio wrth iddynt deithio o amgylch Maes yr Eisteddfod a thiroedd bras Llanercheron a hynny yng nghwmni tywyswr arbennig fydd 芒 stori ddifyr i'w hadrodd am bob twll a chornel," meddai.
GwyddonLe
Atyniadau newydd arall fydd y GwyddonLe, gweithdai samba a mwy o fandiau byw nag erioed o'r blaen.
Wrth gyhoeddi bod y pafiliwn cystadlu ar ei draed Mai 10 dywedodd:
"Y pafiliwn cystadlu fydd canolbwynt y Maes, fel arfer , ac oddi amgylch bydd unedau lliwgar sy'n gwerthu ac arddangos nwyddau, llwyfannau perfformio a theatr byw."
Ychwanegodd y bydd digon yn GwyddonLe newydd ar gyfer yr hen a'r ifanc o arddangosfeydd gwyddonol i gystadlaethau, gan gynnwys gweithgareddau yn ymwneud 芒 Chysawd yr Haul wedi ei ariannu gan STFC (Cyngor Adnoddau Gwyddoniaeth a Thechnoleg) gyda chefnogaeth gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth a'r gymuned yn ehangach.
Dysgwyr
"Cyfuniad hwyliog o weithgareddau ar gyfer Dysgwyr a gweithgareddau llenyddol eu naws fydd yn y Cwtch Cymraeg.
Bydd rhai o gymeriadau Pentre Bach ac eraill yn y gornel stori, murlun geiriau, rhai o awduron mwyaf adnabyddus Cymru'n darllen eu gwaith, gweithdai cyfrifiadurol neu ymlacio gyda phaned o de. Bydd arddangosfa hefyd o holl waith buddugol y cystadlaethau gwaith cartref llenyddol," meddai.
Dringo
"A bydd Pentre Mistar Urdd, fel arfer yn fwrlwm o weithgaredd gyda chyfle i ddringo wal ddringo arbennig Gwersyll Glan-llyn, neidio ar drampol卯n yr Urdd neu blasu un o'r coctels ffrwythau newydd. Bydd atyniadau eraill yn cynnwys, clown, paentio wynebau, siop, bal诺ns a chornel liwio. Ac wrth gwrs, yn y Pentre bydd cyfle i gwrdd ag un o gymeriadau pwysicaf Cymru, neb llai na Misatr Urdd! " ychwanegodd.
Straeon heddiw
- Arbediad i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Catrin a Tommi yn uno gyda thelyn a llif!
- Darganfod olion Canol Oesol
- Dathlu T Llew
- Deng niwrnod o ddathlu a chystadlu
- Doniau lleol Cyngerdd Agoriadol
- Hanes Llanercherchaeron
- Maes gwahanol
- Sioe Edward H
- Trwydded alcohol i'r Maes
- Tr锚n Bach i rai heb bwff
- T么n ff么n Ceredigion 2010