³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth

Archifau Ebrill 2011

Blogio a blagio

Vaughan Roderick | 15:30, Dydd Mercher, 27 Ebrill 2011

Sylwadau (2)

Mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth ac mae pedair blynedd yn oes yn hanes y rhith fyd. Un o nodweddion mawr etholiad 2007 oedd ffrwydrad y blogiau. Fe ddaeth y rheiny a chyffro i'r ymgyrch cyn chwarae rhan reit bwysig yn y deuddeg wythnos ryfedd hynny pan oedd y pleidiau wrthi'n ceisio ffurfio llywodraeth.

Mae pethau'n wahanol iawn y tro hwn. Yn rhannol mae hynny'n adlewyrchu twf safleoedd fel Facebook a Twitter ac mae'r un ffenomen yn amlwg mewn amryw o wledydd. Cynhaliwyd cynhadledd yn Llundain wythnos ddiwethaf er enghraifft gyda'r teitl "Blogging: Yesterday's news?"

Ond os ydy'r blogiau braidd yn fflat y tro hwn mae hynny hefyd i raddau yn adlewyrchiad o ymgyrchoedd cenedlaethol gan y pleidiau sydd wedi bod yn ddigon solet ond ychydig yn ddi-sbarc. Rwyf wedi dod i'r casgliad bod hynny'n gwbl fwriadol.

Gan fod David Cornock wedi dewis dyfynnu Mario Cuomo ar ei flog yntau rwyf am ail-adrodd geiriau gwleidydd Americanaidd arall yn fan hyn. Tip O'Neill, llefarydd TÅ·'r Cynrychiolwyr yn y saithdegau a'r wythdegau wnaeth fathu'r dywediad "all politics is local". Mae hynny'n arbennig o wir am etholiadau Cynulliad.

Dydw i ddim am ail-adrodd hen bregeth ynghylch natur rhannol gyfrannol system bleidleisio'r cynulliad ond mae'r cysylltiad rhwng y canran o'r bleidlais y mae plaid yn ei ennill yn genedlaethol a'r nifer o seddau fydd ganddi yn y Cynulliad yn ddigon bregus.

Yn 2007 er enghraifft roedd cyfanswm pleidleisiau Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr o fewn ychydig filoedd i'w gilydd. Enillodd y Cenedlaetholwyr bymtheg sedd a'r Torïaid ddeuddeg. Yn yr un modd mae'n hawdd dychmygu sefyllfa y tro hwn lle gallai'r Democratiaid Rhyddfrydol ennill 8-9% o'r bleidlais a chadw bron y cyfan o'u seddau neu golli bron y cyfan.

Mewn etholiad cynulliad mae ymgyrchu lleol a thargedu adnoddau yn gwbl allweddol. Am y rheswm hynny dydw i ddim yn llwyr ddiystyru ymdrechion gan ambell i blaid i blagio am ganlyniad annisgwyl mewn ambell i etholaeth - De Clwyd neu Geredigion, er enghraifft.

Ond os mai'r lleol sy'n allweddol pa bwys i'r ymgyrch genedlaethol?

Rwy'n tybio bod y strategwyr wedi dilyn cyngor Hippocrates - "Yn gyntaf, gochelwch rhag gwneud niwed". Pwyll piau hi.

Y pethau sy'n cyfri

Vaughan Roderick | 10:53, Dydd Mawrth, 26 Ebrill 2011

Sylwadau (4)

Rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen am dacteg ddiddorol yr SNP o fframio'r bleidlais ranbarthol fel y bleidlais i ddewis Prif weinidog yr Alban.

Mae'r dacteg, mae'n ymddangos, yn effeithiol. Cymaint felly nes iddi gorddi neb llai na David Cameron. Cyhuddodd yr arweinydd Ceidwadol y Cenedlaetholwyr o geisio troi'r etholiad yn un arlywyddol gan ddweud hyn.

"This is not a presidential system. Last time I looked it was a parliamentary system and El Presidente Salmondo needs to think again."

Gwnaeth yr SNP ymateb i sylwadau'r Prif Weinidog trwy ddweud bod Mr Cameron wedi dangos anwybodaeth ynghylch system etholiadol yr Alban.

Yn ôl y Blaid y bleidlais ranbarthol sy'n pennu'r nifer o Aelodau Seneddol Albanaidd sydd gan bob plaid a chan mae'r rheiny sy'n ethol y Prif Weinidog y bleidlais ranbarthol hefyd sy'n penderfynu pwy yw deiliad Bute House.

Mae'n anodd dadlau yn erbyn y rhesymeg yn enwedig o ddarllen bod un o lefarwyr plaid Mr Cameron wedi defnyddio'r un ddadl wrth geisio darbwyllo pleidleiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol i "gefnogi Annabel Goldie" yn y bleidlais ranbarthol.

Mae'r sefyllfa'n wahanol yng Nghymru lle nad oes 'na ddigon o seddi rhanbarthol i sicrhau bod cryfder y gwahanol bleidiau yn y Cynulliad yn adlewyrchiad o gyfanswm eu pleidleisiau. Yn 2007, er enghraifft enillodd Llafur dros 40% o'r seddi gydag ychydig dros 30% o'r bleidlais.

Mae hynny'n dod a ni at effaith lleihau'r nifer o etholaethau seneddol yng Nghymru. O ganlyniad i'r ymdrech i gysoni maint etholaethau ar draws y Deyrnas Unedig oddeutu 30 o etholaethau seneddol o hyn ymlaen ond beth fydd yn digwydd i etholaethau'r Cynulliad.

Fe fyddai'n bosib datgysylltu'r ddau ddosbarth o etholaeth. Dyna ddigwyddodd yn yr Alban yn 2005. Mae gan y wlad honno 59 o etholaethau San Steffan a 73 o etholaethau Holyrood.

Mae 'na ffordd arall o ddelio a'r sefyllfa sef trwy ddefnyddio'r un etholaethau i'r Senedd a'r Cynulliad a chynyddu nifer yr aelodau rhanbarthol i ddeg ar hugain. Mae 'na fanteision ac anfanteision mewn gwneud hynny ond fe fyddai'n sicrhau Cynulliad llawer mwy cyfrannol ac yn ei gwneud hi'n hyd yn oed anoddach i Lafur sicrhau mwyafrif.

Nawr, San Steffan gyda'i mwyafrif Ceidwadol / Democrataidd Rhyddfrydol sy'n penderfynu'r pethau yma ond pe bai canlyniadau Mai'r 5ed yn arwain at atgyfodi'r syniad o glymblaid enfys mae'n ddigon posib y byddai system bleidleisio'r Cynulliad yn rhan o'r trafodaethau.

Os ydych chi wedi anghofio sut mae'r gyfundrefn bleidleisio yn gweithio dyma fideo cŵl gan y Cynulliad i'ch atgoffa.


Bet un ffordd (bron)

Vaughan Roderick | 10:15, Dydd Gwener, 22 Ebrill 2011

Sylwadau (2)

""Yn fy ugain mlynedd o osod prisiau ar gyfer etholiadau Cymru dydw i ddim wedi gweld dim byd tebyg!"

Nid fy ngeiriau i ond rhai Karl y bwci. Mae Karl wedi sylwi bod modd betio ar ganlyniad un etholaeth yng Nghymru a allai gynhyrchu elw sylweddol iawn heb beryglu'ch waled.

Yr etholaeth yw Aberconwy a'r cyfan sydd angen gwneud yw gosod betiau gyda dau gwmni sy'n cynnig prisiau tra gwahanol i'w gilydd.

Dyma brisiau Victor Chandler

Llafur 10-11
Plaid Evs
Ceid. 12-1
Dem Rh. 100-1

A dyma rai Paddy Power

Plaid 1-10
Llafur 7-1
Ceid. 10-1
Dem Rh. 125-1

Ffeifar yr un ar Plaid a'r Ceidwadwyr gyda Victor Chandler, a ffeifar ar Lafur gyda Paddy Power yw'r cyngor. Buddsoddwch pymtheg punt felly ac fe fyddwch yn colli ffeifar os ydy Plaid Cymru yn ennill, fe fyddai'r elw yn £35 os oedd Llafur yn fuddugol a £120 os oedd y Ceidwadwyr yn cipio'r sedd.

Dilyn fy nhrwyn

Vaughan Roderick | 11:08, Dydd Iau, 21 Ebrill 2011

Sylwadau (5)

Peth peryg yn y busnes yma yw greddf. Efallai eich bod yn cofio fy ymateb i - a phob wan jac arall oedd yn darlledu ar noson etholiad 2010 i ganlyniad yr arolwg barn a gyhoeddwyd wrth i'r gorsafoedd pleidleisio gau.

"Dim ffiars o beryg!", "Y Democratiaid Rhyddfrydol am golli seddi, does bosib". Fe ddaeth y corws o stiwdio radio a theledu ar hyd a lled y Deyrnas wrth i ni wrthod derbyn bod yr wythnosau o Cleggofrwydd (h. V Roderick 2010) wedi arwain at ddim byd llawer yn y diwedd.

Yr arolwg oedd yn gywir wrth gwrs. Fel y dywedais i mae greddf yn beth peryg. Ar y llaw arall byddai 'na fawr o bwynt i'r blog pe bawn i ond yn ail adrodd esgryrn sychion ffeithiol y tudalennau newyddion yn fan hyn.

Gyda phythefnos i fynd felly beth mae fy ngreddfau'n dweud? Wel y teimlad sy gen i yw nad yw Llafur yn gwneud cystal ac mae'r arolygon barn - yn sicr arolwg RMG Clarity - yn awgrymu. Yr arolwg hwnnw wnaeth ganfod cefnogaeth Lafur o dros 50%. Mae'n werth darllen beth sy gan UK Polling Report i ddweud amdano.

"Looking at the demographics, something very odd appears to be going on with age - of a sample of 1,040 there are only 42 respondents under 35, and the tables imply they were only weighted up to 80 people, which seems a very low target. That said rmg:clarity did perfectly well in the recent Welsh referendum, getting exactly the same figures as YouGov and ICM."

Beth am ffigurau YouGov/ITV Wales felly? Mae'r rheiny'n dangos Llafur ychydig yn is. Amser a ddengys pa mor gywir yw'r darlun cenedlaethol ond y broblem yn fan hyn yw mai darlun cenedlaethol yw'r un sy'n cael ei gyhoeddi.

Chwi gofiwch efallai bod Llafur wedi gwneud llawer iawn yn waeth yn ei chadarnleoedd nac yr etholaethau ymylol traddodiadol yn 2007 a 2010. yn 2007, er enghraifft 37% wnaeth gefnogi Llafur ym Merthyr a 36.4% yng Nghaerffili. Os ydy'r cynnydd yn y bleidlais Lafur yn digwydd yn bennaf yn y cadarnleoedd fe fydd e o fawr o fudd i'r blaid yn nhermau seddi.

Beth sy'n digwydd yn y llefydd sy'n cyfri felly? Wel, mae'n ymddangos nad yw'r pleidiau eraill wedi rhoi'r gorau iddi yn un man ac mewn ambell i le megis Gogledd a Chanol Caerdydd mae Llafur yn ymddangos yn fwy petrusgar na'i gwrthwynebwyr.

Mae gwleidyddion yn gallu twyllo eu hun ac yn gallu twyllo newyddiadurwyr wrth reswm!
Y cyfan dywedaf i yw bod y frwydr yma'n bell o fod ar ben - yn enwedig o gofio bod yr arolygon Prydain gyfan diweddaraf (heb sôn am rai'r Alban) yn awgrymu bod pethau'n llai ffafriol i Lafur nac oedden nhw rhai wythnosau yn ôl.

Yr Ail Bleidlais

Vaughan Roderick | 09:14, Dydd Mawrth, 19 Ebrill 2011

Sylwadau (1)

Un o'r pethau y bydd Dewi, Dicw a finnau'n gwylio amdano ar noson Fai'r 5ed (a phrynhawn y 6ed os nad yw Mr Mehmet yn newid ei feddwl) yw perfformiad y pleidiau llai. Yn benodol byddwn yn cadw llygad ar berfformiad UKIP yn y Gogledd a rhanbarthau'r De-ddwyrain a'r Gwyrddion yn rhanbarth Canol De Cymru.

Mae'n ddigon posib y bydd o leiaf un o'r ddwy blaid yn ennill cynrychiolaeth yn y Cynulliad y tro hwn - er wrth gwrs y bydd llawer yn dibynnu ar ddidoliad y seddi etholaeth. Mae'r posibilrwydd hwnnw'n codi oherwydd bod y pleidiau llai wedi dechrau deall sut mae chwarae'r gêm o safbwynt yr ail bleidlais - a bod pleidleiswyr yn ei deall yn well hefyd.

Dyna'r rheswm y mae'r ddwy blaid wedi penderfynnu peidio enwebu ymgeiswyr etholaethol gan arddel y sloganau "Ail Bleidlais - Gwyrdd" a "Give UKIP your 2nd Vote".

Nid dyna yw'r unig ffordd o geisio sicrhau mantais o'r system ddwy bleidlais. Mae tactegau'r SNP yn yr Alban yn yr etholiad hwn yn hynod ddiddorol ac os ydy'r arolygon barn yn gywir yn profi'n effeithiol.

Mae'r Blaid yn cynghori'r etholwyr i ddefnyddio'r "bleidlais gyntaf" (sef yr un ranbarthol!) i ddewis rhwng Alex Salmond ac Iain Gray fel Prif Weinidog a'r ail bleidlais i gefnogi eu plaid. " "Scottish National Party (SNP) - Alex Salmond for First Minister" yw disgrifiad y blaid ar y papur pleidleisio.

Clyfar? Cyfrwys? Anonest? Cewch chi farnu.

Nawr yn yr amgylchiadau presennol mae'n annhebyg y byddai tacteg yr SNP yn gweithio i un o'r pleidiau Cymreig ond yn etholiadau'r dyfodol mae'r system yn caniatáu posibiliadau eraill.

Cymerwch un enghraifft. Beth pe bai dwy blaid yn cytuno i glymbleidio cyn i etholiad gael i alw?

Does dim gorfodaeth ar unrhyw blaid i enwebu ymgeisydd ym mhob etholaeth a phob rhanbarth. Fe fydda'i gwbl ddilys i un blaid beidio enwebu ymgeiswyr rhanbarthol ac i'r blaid arall gadw draw o'r rasus etholaethol.

Meddyliwch beth allai ddigwydd pe bai Llafur a'r Gwyrddion, er enghraifft, yn cyrraedd cytundeb felly.

Croesi llinell

Vaughan Roderick | 10:32, Dydd Llun, 18 Ebrill 2011

Sylwadau (1)

darren millar

"Does dim byd llawer yn digwydd, mewn gwirionedd". Nid fy ngeiriau i ond geiriau cyd-ohebydd wrth bwyso a mesur yr ymgyrch hyd yma.

Mae 'na hen ddigon o bethau yn digwydd wrth gwrs - cyhoeddi maniffestos, cynadleddau newyddion, cyfleoedd ffilmio ac ymgyrchu ar lawr gwlad. Yr hyn sy ddim wedi digwydd yw unrhyw beth a allai gael effaith sylfaenol ar ganlyniad ar yr etholiad

Efallai mai dyna yw'r rheswm bod y pleidiau mewn ambell i fan wedi dechrau defnyddio tactegau braidd yn amrwd. Mae'n fater o farn bersonol p'un ai ydy'r rhain yn enghreifftiau o ymgyrchu clyfar neu o fryntni.

Daw'r "photoshop" o ben Darren Millar ar gorff babi o daflen o'r enw "billion dollar baby" a gynhyrchwyd gan Lafur. Mae'r daflen yn cyhuddo'r Ceidwadwr o wneud gwerth biliwn o doleri o addewidion mewn datganiadau newyddion lleol heb roi unrhyw awgrym o ble y byddai'r yr arian yn dod.

Beth bynnag yw'r gwirionedd am hynny mae'r ddelwedd yn blentynnaidd braidd ym mhob ystyr o'r gair ond mae hi hefyd yn drawiadol. Diddorol yw nodi bod y "daflen" wedi ei chynhyrchu gan bencadlys Llafur Cymru yng Nghaerdydd yn hytrach na'r blaid leol. Ai ar gyfer y wasg yn bennaf yn hytrach na'r etholwyr y cynhyrchwyd hi?

Mae'n ymddangos felly i mi. Fe lyncodd y Western Mail yr abwyd.

Mae'r daflen ar y chwith yn cael ei dosbarthu yn y byd real yng Nghanol Caerdydd - ond gan bwy? Mae'n ymddangos fel taflen Lafur ar yr olwg gyntaf ond a fyddai Llafur yn cynnwys paragraff fel hwn mewn taflen?

"Local residents have been left shocked after it was revealed that Labour's election candidate has a home in a London suburb."

Oes angen dweud pwy sy'n gyfrifol am hon? Fe'i cyhoeddwyd gan "Dominic Hannigan ar ran Nigel Howells". Yn ogystal â bod yn asiant etholiad roedd Dominic yn aelod o staff llawn amser y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad diwethaf.

Dyw'r daflen ddim yn torri unrhyw reol ond mae'n esbonio unwaith yn rhagor pam y mae dirmyg tuag at dactegau etholiadol y Democratiaid Rhyddfrydol yn un peth sy'n uno aelodau'r pleidiau eraill.


Y Llywydd yn lloerig

Vaughan Roderick | 14:06, Dydd Iau, 14 Ebrill 2011

Sylwadau (3)

Diwrnod arall - "teipo" arall! O leiaf roedd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gallu sillafu enwau eu pleidiau. Nid felly Llafur Cymru neu "Llanfur Cymru" os ydych chi'n credu'r maniffesto!

Nid methiant i ddarllen proflenni'n unig sy'n uno'r pleidiau. parhau mae'r ffrwgwd ynghylch penderfyniad swyddogion cyfri'r Gogledd i beidio cyfri'r pleidleisiau ar noson yr etholiad.

Y datblygiad diweddaraf yw homar o lythyr gan Dafydd Elis Thomas i Kay Jenkins, pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru. Ynddo mae'r Llywydd yn dyfynnu o adroddiad y comisiwn yn sgil etholiad 2007 sy'n datgan na ddylai trefniadau cyfri fod yn "fater preifat, lleol".

Yn ôl y Llywydd mae'r Comisiwn wedi methu ymgynghori a'r Cynulliad na'r cyfryngau. Mae'n cwpla'i lythyr trwy ddweud hyn;

|"Yn anffodus mae'r Comisiwn a swyddogion cyfri'r Gogledd wedi dewis ymdrin â'r etholiad fel 'mater preifat, lleol' a thrwy hynny wedi methu gweithredu yn unol â buddiannau'r etholwyr sy'n dymuno gwybod canlyniad etholiad cyn gynted a bo modd ar ôl i'r gorsafoedd bleidleisio gau.

Byswn yn ddiolchgar pe bai'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfri Rhanbarthol yn ail-ystyried y sefyllfa ar fyrder"

Rwy'n amau bod llinellau ffôn y Comisiwn yn grasboeth y prynhawn yma ond fel mae pethau'n sefyll ar hyn o bryd fe fydd yn rhai aros tan brynhawn Gwener i wybod a ydy Llanfur Cymru wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffreddinol.

Diawch, rwyf wedi cael fy heintio gan "deipos"! Gwell i mi heglu hi am Arberth cyn i bethau fynd yn waith!

Cyffreddinoli

Vaughan Roderick | 12:58, Dydd Mercher, 13 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Ces i dipyn o sbort ddoe ar sail un 'teipo' bach mewn datganiad gan Blaid Cymru. Roeddwn i'n teimlo braidd yn ffwdanllyd wrth godi'r peth - ond roedd e'n eironig.

Dydw i ddim yn teimlo unrhyw rwystredigaeth wrth dynnu sylw at y camgymeriadau di-ri ym maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Dyma'r clawr.


I fod yn deg mae'r fersiwn Saesneg yn llawn gwallau hefyd. Cymerwch y paragraff yma fel esiampl.

"Welsh schools and education system were once the envy of the UK. Now, international comparisons shows that that Wales' results in reading and maths have fallen significantly behind and that Welsh students are falling behind their counterparts in
England, Scotland and Northern Ireland."

I ddyfynnu

" I hope somebody has proof read the Welsh Liberal Democrat manifesto, which is being launched tomorrow."

5/10 Gwelwch fi ar ddiwedd y wers.

Mwy o Afu

Vaughan Roderick | 14:30, Dydd Mawrth, 12 Ebrill 2011

Sylwadau (4)

Fe wnes i ysgrifennu ddoe ynghylch natur anweledig braidd yr ymgyrch etholiadol - y tu allan i Geredigion o leiaf! Serch hynny mae'r ymgyrch etholiadol yn fwrlwm o gyffro o gymharu â'r ymgyrchu ar gyfer pleidlais arall Mai'r 5ed, y refferendwm ynghylch y bleidlais amgen.

Mae 'na ambell i boster o gwmpas - yn swyddfeydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn bennaf ond ar wahân i'r rheiny bach iawn o ymgyrchu sy'n digwydd hyd y gwelaf i.

Dyw hynny ddim yn syndod. Roedd hi'n anorfod y byddai gweithwyr y pleidiau yn blaenoriaethu'r etholiad ond yn ôl un o hen bennau ymgyrch Ie refferendwm Mis Mawrth mae'r ymgyrch Ie wedi ychwanegu at y broblem.

Mae'r ymgyrch Ie swyddogol wedi mabwysiadu polisi o beidio defnyddio gwleidyddion fel llefarwyr. Defnyddio "pobl gyffredin" yw'r polisi er bod defnyddio'r gair "cyffredin" i ddisgrifio Eddie Izzard yn dipyn o strets!

Yr un oedd bwriad ymgyrch Ie mis Mawrth ond, o fewn byr o dro, newidiwyd y polisi ar ôl i'r trefnwyr sylweddoli bod nifer sylweddol o etholwyr yn awchu i gael arweiniad gwleidyddol gan eu pleidiau.

A fydd yr Ymgyrch Ie i Afu yn gorfod gwneud yr un peth? Fe gawn weld ond does dim llawer o amser ar ôl.

Wedi'r cyfan mae'n rhaid i'r ymgyrch Ie ennill y ddadl feddyliol os am ennill y bleidlais. Hau hadau ansicrwydd yw tasg llawer haws yr ymgyrch Na.

Hilariws

Vaughan Roderick | 13:36, Dydd Mawrth, 12 Ebrill 2011

Sylwadau (5)

"Mewn addysg, mae'r Blaid yn addo haneru cyfraddau anllythrnenedd i blant sy'n gadael yr ysgol gynradd yng Nghymru erbyn 2016 a dileu'r broblem bron yn gyfan gwbl erbyn 2020. Mae'r Blaid yn addo bod yn llawdrwm ar safonau gwael mewn addysg ac ymdrin â thangyllido ysgolion." -

Datganiad Newyddion Plaid Cymru.

Sut mae delio ac anllythrennedd swyddogion y wasg, tybed?

Taro'r Post

Vaughan Roderick | 13:17, Dydd Llun, 11 Ebrill 2011

Sylwadau (4)

Mae hi braidd yn gynnar eto - ond ai fi yw'r unig un sy'n teimlo bod yr etholiad yma braidd yn anweledig? Gyrrais lawr o Gaernarfon i Gaerdydd ddoe ac, ac eithrio'r posteri arferol ym mherthi Brycheiniog a Maesyfed, prin oedd unrhyw arwydd o ymgyrchu.

Efallai bod hynny'n ddealladwy mewn ambell i etholaeth - Dwyfor Meirionydd efallai, neu Ferthyr - er bod pleidleisiau rhanbarthol y rheiny yn bwysig. Ond sut mae esbonio'r diffyg posteri mewn llefydd fel Llanbrynmair a Llanidloes neu Riwbeina ac Ystum Taf?

Yn achos Gogledd Caerdydd dywed cyfaill ei fod ond wedi derbyn un daflen hyd yma. Taflen gan Jonathan Morgan oedd honno gydag enw'r ymgeisydd yn llawer mwy amlwg nac enw ei blaid.

Mae ymgyrchoedd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghanol Caerdydd, Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin ac ambell i un arall yn destun cenfigen y pleidiau eraill ond eithriadau yw'r rheiny.

Cyn i chi ddweud bod 'na dair wythnos a hanner i fynd mae'n werth cofio y bydd y papurau pleidleisio post yn cael eu dosbarthu ymhen ychydig ddyddiau ac fe fydd nifer sylweddol wedi eu dychwelyd erbyn dechrau wythnos nesaf.

Sut mae esbonio natur anweledig yr ymgyrch felly?

Yn sicr mae mae technoleg gwybodaeth yn rhan o'r peth. Cyfeirio at ganfasio ffon ydw i wrth ddweud hynny. Mae'r rhyngrwyd bellach yn bwysig yn drefniadol ond hyd yma dyw'r we ddim wedi profi'n arf ymgyrchu effeithiol.

Mae 'na ffactor arall sy'n effeithio ar natur yr ymgyrchu mewn etholiadau Cynulliad sef bod y gyfundrefn bleidleisio yn cynyddu'r cyfleoedd i'r pleidiau ddefnyddio'r Swyddfa Bost i ddosbarthu taflenni.

Trwy ddanfon gwahanol daflenni ar ran ymgeiswyr etholaeth ac ymgeiswyr rhanbarth a'u cyfeirio at unigolion yn hytrach na chyfeiriadau mae modd i'r pleidiau fombardio'r etholwyr heb unrhyw ddosbarthu drws i ddrws gan y blaid leol. Gallwch ddisgwyl y don gyntaf o bapur yn ystod y dyddiau nesaf!

Fe fydd sawl un o'r taflenni hynny yn cynnwys poster ond y gwir amdani yw mai ychydig o bobol sy'n arddangos taflenni. Ffrwyth canfasio wyneb yn wyneb yw posteri ac mae eu presenoldeb neu eu habsenoldeb yn fesur da o effeithlonrwydd trefniadaeth leol y pleidiau.

Ar hyn o bryd mae'n ymddangos bod y drefniadaeth honno'n glwc iawn.

Barn y bwcis

Vaughan Roderick | 10:51, Dydd Llun, 11 Ebrill 2011

Sylwadau (1)

Mae'n bedair blynedd union ers lansio'r blog yma yn ystod cyffro ymgyrch etholiad 2007. Pen-blwydd Hapus i fi. Hwn yw post rhif 1670. Sut mae ei ddefnyddio i nodi'r achlysur?

Wel beth am ddychwelyd at un o'r cyfresi mwyaf poblogaidd yn nyddiau cynnar y blog sef "Siop Rithwir Jack Brown" - myfyrdodau Karl Williams cyn-osodwyr prisiau gwleidyddol y bwcis Jack Brown.

Mae Jack Brown wedi hen ddiflannu ond mae Karl o hyd yn broffwyd craff ac yn aml yn agosach at fod yn gywir na'r holl newyddiadurwyr ac academyddion peniog.

Derbyniais nodyn ganddo dros y Sul yn cynnig prisiau rhithwir. Dyma rai etholaeth Maldwyn.

Ceidwadwyr 5-6
Dem. Rhydd. 10-11

Does 'na ddim llawer o arian i'w hennill yn yr ornest yna! Rwy'n cytuno a Karl y bydd hon yn un agos.

Cyn i ni droi at broffwydoliaeth Karl ynghylch y nifer fydd yn pleidleisio dyma brisiau go iawn Ladbrokes ar gyfer Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro.

Llafur 4-6
Plaid 5-2
Ceidwadwyr 4-1
Dem. Rhydd. 100-1

5-1 oedd Plaid Cymru ond mae'r pris wedi newid yn sgil betio lleol.

Yn ôl a ni at Karl. Mae'n proffwydo y bydd y nifer sy'n troi allan yn uwch nac erioed o'r blaen.

49%-50% 3-1
47%-48% 2-1 ffefryn
45%-46% 5-2
43%-44% 7-2
41%-42% 5-1

Eto, rwy'n cytuno. Mae diflastod rhai cefnogwyr Llafur ynghylch record ei llywodraeth yn San Steffan yn pylu ac mae refferendwm y Bleidlais Amgen yn debyg o ddenu nifer o bobol asgell dde i'r gorsafoedd pleidleisio. Gallai'r ail ffactor yna fod yn newyddion da i'r Ceidwadwyr ac UKIP - yn enwedig yn nhrefi glan mor y Gogledd.

Yn agos at y gwynt

Vaughan Roderick | 11:12, Dydd Iau, 7 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Fe wnes i grybwyll y dydd o'r blaen bod arolwg barn gan gwmni ar wahân i YouGov ar fin ei gyhoeddi ac y byddai hwnnw yn rhoi rhyw syniad i ni os oedd YouGov yn agos at y gwir o safbwynt cryfder y bleidlais Lafur.

Wel fe ddaeth canlyniadau RMG Clarity ac maen nhw hyd yn oed yn fwy ffafriol i Lafur na rhai YouGov. Yn ôl yr arolwg mae 50.8% o bleidleiswyr tebygol yn bwriadu cefnogi Llafur, 20.3% yn ffafrio'r Ceidwadwyr, 16.7% yn cefnogi Plaid Cymru a 7.6% am bleidleisio i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Ychydig iawn o gefnogaeth sy 'na i bleidiau eraill. Mae 'na reswm am hynny ac fe wna i drafod hynny ond gair am y cwmni a'r fethodoleg yn gyntaf.

Cwmni o Gaerdydd yw RMG Clarity sy'n aelod o'r "UK Polling Council" ac mae'r arolwg yn cwrdd â safonau'r corff hwnnw. Holwyd 1005 o bobol ar y pedwerydd a'r pumed o Fawrth.

Gwendid mawr yr arolwg yw nad yw'n gwahaniaethu rhwng y bleidlais etholaeth a'r bleidlais ranbarthol. Mae'r gwendid y pleidiau llai yn awgrymu bod y rheiny a holwyd wedi cynnig eu dewis etholaethol.

Er y gellid tybio y byddai'r gefnogaeth i Lafur ychydig yn llai ar yr ail bleidlais does dim dwywaith bod hwn yn goblyn o ganlyniad da i'r blaid gan awgrymu cynydd yn y gefnogaeth i Lafur o 18.6% ers 2007. Yn fwy arwyddocaol efallai mae gefnogaeth 10.8% yn uwch nac oedd hi yn 2003 pan enillodd y blaid etholaethau fel Llanelli, Preseli, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro a'r hen Gonwy.

Rwyf wedi sôn droeon am ba mor anodd yw hi i Lafur ennill mwyafrif gweithredol. Roedd yr honiad hwnnw'n cymryd yn ganiataol na fyddai 'na ddaeargryn wleidyddol - mae ar ddechrau oedd yr adfywiad Llafur nid ar fin cyrraedd ei benllanw.

Ond os ydy RMG Clarity a YouGov yn agos at fod yn gywir, ac maen nhw'n tueddu cadarnhau ei gilydd, gallai llawer mwy o seddi - gan gynnwys seddi rhestr - fod o fewn cyrraedd Llafur nac oeddwn i na strategwyr y blaid ei hun yn credu.

Gellir lawrlwytho y manylion i gyd yn (pdf).

Iechyd Da

Vaughan Roderick | 16:11, Dydd Mercher, 6 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Yfory fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnal digwyddiad "i gadarnhau ymroddiad y blaid i bresgripsiynau am ddim yng Nghymru". Gellir mesur dyfnder yr ymroddiad yna o'r dyfyniadau canlynol - y rhan fwyaf o wefan y Blaid.

"Free prescriptions 'tantamount to free Beechams Powders for millionaires"

"Prescriptions: Targeting money better than NHS free for all"

"Free Prescriptions for All 'a Ticking Time Bomb' ; Concern About the Hidden Costs to the Nhs of Universal Free Prescriptions in Wales Prompted Lib Dem Am Jenny Randerson to Campaign for What She Sees As a Fairer System."

Ac yn y blaen ac yn y blaen. Nawr, does dim byd yn bod ar newid polisi ac fe wnaeth y blaid ei thro pedol mewn ffordd agored a democrataidd mewn cynhadledd yn 2009.

Ar ôl dweud hynny ni fydd yn rhaid i ymchwilwyr y pleidiau eraill chwilio'n bell am fwledi i danio yfory!


Storom Awst

Vaughan Roderick | 14:09, Dydd Mercher, 6 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Efallai eich bod yn cofio un agwedd hynod ddigalon o etholiad Cynulliad 2003. Rhywbryd yn ystod yr ymgyrch treuliwyd diwrnod cyfan yn ffrio ynghylch pyllau nofio Cymru. Roedd un blaid am ddarparu nofio am ddim i blant, un arall am gynnig nofio am ddim i bensiynwyr ac un arall am wneud y ddau beth.

Ni ddeffrowyd Owain Glyndŵr o'i drwmgwsg ond efallai ei fod wedi troi yn ei fedd!

Rhyw ddiwrnod felly yw heddiw wrth i'r Torïaid a Phlaid Cymru gystadlu a'i gilydd i daflu arian i gyfeiriad defnyddwyr pont ac ail groesfan Môr Hafren.

Addo rhewi'r tollau am y pum mlynedd nesaf mae'r Ceidwadwyr. Dyw cyfrifoldeb dros y pontydd ddim wedi datganoli. Am wn i mae'r blaid yn credu y byddai'n bosib cyrraedd rhyw fath o gytundeb gyda "Severn River Crossing" - y cwmni preifat wnaeth godi'r groesfan a thrwy hynny cael yr hawl i godi tollau ar y ddwy bont tan tua 2017.

Efallai'n wir y byddai hynny'n bosib ond go brin y byddai'r cwmni yn fodlon goddef unrhyw gwymp yn ei elw sylweddol. Fe fyddai'n rhaid digolledi'r cwmni o'r coffrau cyhoeddus - yn wir, allan o cyllideb y Cynulliad.

Dadlau dros drosglwyddo'r cyfrifoldeb am y pontydd, neu ran ohono, i'r Cynulliad mae Plaid Cymru. Gallai hynny ond digwydd ar ôl i'r cytundeb presennol ddod i ben yn 2017. Yn ôl y blaid pe bai hynny'n digwydd gallai tollau i geir ddisgyn i ryw ddwy bunt - y swm sy'n angenrheidiol i gynnal a chadw'r croesfannau.

Mae'n ddigon posib y byddai adran drafnidiaeth y DU yn ddigon parod i olchi eu dwylo o'r pontydd. wedi'r cyfan dyn a ŵyr pa fath o waith cynnal a chryfhau bydd angen wrth iddyn nhw heneiddio.

Ar y llaw arall fe fyddai'n sefyllfa braidd yn rhyfedd. Wedi'r cyfan, mae hanner yr ail groesan a'r cyfan o Bont Hafren yn Lloegr. Cofiwch, os oes 'na wirionedd yn chwedl Awstin Sant ac Esgobion Cymru does 'na ddim llawer o gynsail i gytundeb rhwng y Cymry a'r Saeson ym mhentref Awst!

Tric brwnt - ond gan bwy?

Vaughan Roderick | 12:54, Dydd Mawrth, 5 Ebrill 2011

Sylwadau (2)

Taflen Hain

Mae hon yn stori ryfedd ac mae angen talu sylw i'r manylion.

Ddydd Iau diwethaf (Mawrth 31ain) ymddangosodd post ar Flog Menai yn cynnwys y daflen hon - taflen yr oedd awdur Blog Menai, Cai Larsen wedi derbyn mewn e-bost. Nid Cai greodd y daflen a dywed yn y post nad yw'n cytuno a'r cynnwys.

Cymerwch eiliad i edrych ar y daflen. Mae'n ymddangos mai sgan o daflen bapur yw hwn. Gellir gweld yn eglur lle'r oedd y daflen wedi ei phlygu. Fe'i cyhoeddwyd gan grŵp o'r enw "United and Welsh" ac mae'n cymell pleidleisio tactegol yn erbyn Llafur. Nid yw'r daflen yn cynnwys unrhyw wybodaeth am y grŵp nac unrhyw ffordd o gysylltu â nhw.

Nawr os ydych chi'n chwilio'r we fe wnewch chi ganfod bod 'na sy'n honni bod yn eiddo i'r grŵp. Mae'n safle digon cyntefig - yn ddim byd mwy na thudalen flaen a dolen i'r daflen. Mae'n amlwg mai'r sgan o'r daflen oedd ar Flog Menai sy'n cael ei defnyddio ar y gwefan nid y gwaith celf gwreiddiol. Mae hynny'n awgrymu i mi nad yr un bobol neu berson oedd yn gyfrifol am y daflen a'r wefan.

Cofrestrwyd y wefan ar y cyntaf o Ebrill - y diwrnod ar ôl i'r daflen ymddangos ar Flog Menai. Fe gofrestrwyd y wefan gan "United and Welsh" gan roi cyfeiriad swyddfa a rhif ffôn swyddfa Ieuan Wyn Jones yn Llangefni.

Gan ddefnyddio'r hawl i ddweud beth a fynno yn NhÅ·'r Cyffredin honnodd Chris Bryant bod hi'n amlwg "mai pobol yn swyddfa Ieuan Wyn Jones oedd yn gyfrifol am y wefan". Fe gafodd ei geryddu gan y llefarydd am wneud y sylw.

Mae 'na esboniad arall wrth gwrs - sef bod rhywun wedi defnyddio delwedd o flog Menai i greu gwefan gan ddefnyddio cyfeiriad swyddfa Plaid Cymru. Mae Plaid Cymru'n gwadu'n blwmp ac yn blaen bon unrhyw gysyltiad rhwng y blaid a'r wefan na'r daflen.

Fel mae'r pennawd yn dweud - tric brwnt ond gan bwy?

Afu a Winwns

Vaughan Roderick | 14:06, Dydd Llun, 4 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Beth ddylwn ni alw'r refferendwm yma ynghylch y bleidlais amgen dywedwch? Y refferendwm PA? Y refferendwm BA? Y refferendwm Afu? Af i am Afu, dwi'n meddwl!

Mae'n debyg eich bod chi'n weddol gyfarwydd â'r dadleuon o blaid ac yn erbyn y newid erbyn hyn ond mae 'na un ffactor benodol Gymreig sydd heb gael rhyw lawer o sylw. Effaith y newid ar y Ceidwadwyr Cymreig yw hynny.

Yn ôl ymchwil gan y Gymdeithas Newid Etholiadol pe bai etholiad 2010 wedi defnyddio'r bleidlais amgen fe fyddai'r canlyniad yn ddigon tebyg i'r un a gafwyd o safbwynt Llafur a Phlaid Cymru. Fe fyddai Llafur wedi ennill 25 sedd - un yn llai na o dan y drefn bresennol a Phlaid Cymru wedi ennill yr un tair sedd. Fe fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol ar y llaw arall wedi dyblu eu cynrychiolaeth i chwech. Chwe sedd hefyd fyddai gan y Ceidwadwyr - dwy yn llai nac enillwyd yn yr etholiad go iawn.

Dyw hynny ddim yn newid chwyldroadol ond arhoswch eiliad. Nid deugain sedd fydd gan Gymru yn yr etholiad nesaf ond deg ar hugain. Fe fydd llawer yn dibynnu ar yr union ffiniau wrth reswm ond mae'r newid bron yn sicr o leihau nifer y seddi Ceidwadol ymhellach. Mae'n anodd iawn dychmygu unrhyw ffiniau fyddai'n galluogi i'r Ceidwadwyr ennill dwy sedd yng Ngorllewin Cymru, er enghraifft.

Nawr efallai eich bod chi'n un o'r rheiny sy'n awchu am fap o Gymru heb y mymryn lleiaf o las arni. Efallai eich bod chi, ar y llaw arall, yn credu nad yw sefyllfa lle nad oes gan dalp o etholwyr asgell dde yng Nghymru gynrychiolaeth seneddol yn beth iach. Dyna oedd y sefyllfa rhwng 1997 a 2005 wrth gwrs.

Beth bynnag yw'ch barn fe fyddai'r sefyllfa honno yn fwy tebygol pe bai 'na gyfuniad o'r bleidlais amgen a lleihad yn nifer y seddi. Oes rhywun yn gwybod y cyfieithiad cywir o "law of unintended consequences"?

Ta beth mae'n esbonio pam y mae Ceidwadwyr Cymru mor ffyrnig yn erbyn y newid.

Cadw Cownt

Vaughan Roderick | 13:20, Dydd Llun, 4 Ebrill 2011

Sylwadau (4)

Fe ddywedodd rhyw un rhyw dro bod dim ond un peth gwaeth na cheisio darogan canlyniadau etholiad heb unrhyw arolygon barn. Ceisio darogan canlyniad ar sail arolygon un cwmni yw hynny.

Dyna yw'r sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd gyda newyddiadurwyr a gwleidyddion fel ei gilydd yn dibynnu bron yn llwyr ar YouGov. Mae gan y pleidiau ei ffigyrau canfasio wrth gwrs ond peth peryg yw gwneud penderfyniadau strategol ar sail y rheiny.

Nawr os ydw i neu newyddiadurwr arall yn cam-ddarllen sefyllfa ar sail arolwg does neb yn cael ei ladd. Mae ond yn fater o wy ar wep. I'r pleidiau ar y llaw arall gall arolwg camarweiniol esgor ar gamgymeriadau tactegol - gwastraffu adnoddau mewn sedd amhosib ei hennill neu beidio amddiffyn sedd sydd mewn peryg.

Dyw hyn oll ddim yn feirniadaeth o YouGov. Fe fyddai'r un peth yn wir am unrhyw gwmni. Ar ôl dweud hynny mae 'na academyddion sydd o'r farn bod YouGov yn gorfesur y gefnogaeth i Lafur a'r nifer sy'n debygol o droi allan i bleidleisio. Gyda llaw, gallai'r cynnydd yn y nifer hwnnw esbonio'r y cwymp yn y gefnogaeth i Blaid Cymru yn arolygon diweddar y cwmni.

Da o beth felly yw gwybod bod cwmni arall allan yn y maes ac yn bwriadu cyhoeddi canlyniadau yn ystod y dyddiau nesaf. Os ydy'r rheiny yn cytuno a YouGov fe fydd hynny'n ychwanegu at hygrededd y darogan. Os ydyn nhw wahanol - wel fe fyddwn ni mewn picl!

Alas Smith a Vaughan

Vaughan Roderick | 11:29, Dydd Llun, 4 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Roedd Radio Cymru a Radio Wales wedi dewis darlledu'n fyw o'r Senedd y bore 'ma i nodi cychwyn yr ymgyrch. Does gen i ddim gwrthwynebiad o gwbl i dreulio bore cynnar yn y Bae er bod fawr o neb o gwmpas ac eithrio un cadno busneslyd yn twrio o gwmpas y biniau.

Wrth drafod yr etholiad fe wnes i grybwyll y byddai'r bleidlais i raddau yn refferendwm ar record Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ogystal ag un Cymru. Gellir dadlau hyd syrffed nad felly y dylai pethau fod heb newid dim ar y ffaith mai fel yna maen nhw.

Oes 'na unrhyw un yn credu mai amhoblogrwydd Rhodri Morgan a record ei lywodraeth oedd yn gyfrifol am ganlyniad hanesyddol o wael Llafur Cymru yn 2007? Doeddwn i ddim yn meddwl bod yna. O gofio hynny does dim angen i Lafur deimlo'n rhy euog wrth odro amhoblogrwydd clymblaid San Steffan.

Serch hynny fe deimlodd Owen Smith yr angen i ymosod ar fy nadansoddiad yn y Gynhadledd Newyddion Lafur y bore 'ma cyn symud ymlaen i draethu ynghylch y ffordd yr oedd Llafur yn "darian i Gymru" yn erbyn erchyllderau Llywodraeth Cameron a Clegg.

Nawr, mae Owen yn hen gyfaill ac fe fyddai'n ymosod ar fwgan brain pe bai'n cael y cyfle. Dydw i ddim yn poeni'n ormodol am ei sylwadau felly ond fe gododd pwynt arall sy'n dra ddiddorol.

Honnodd mai Llafur bellach yw unig wir-blaid unoliaethol gan fod elfennau o fewn y Blaid Geidwadol yn fwy o genedlaetholwyr Seisnig na gwladgarwyr Prydeinig erbyn hyn. Mae'n anodd gwadu bod 'na sylwedd i'r ddadl ar ôl darllen cofnodion yn San Steffan ynghylch cwestiwn Gorllewin Lothian.

Mae hynny'n gadael cwestiwn arall wrth gwrs - cwestiwn Pontypridd efallai! Os ydy'r undeb yn beth mor dda ym marn Llafur - pam ar y ddaear y mae angen tarian i amddiffyn Cymru rhag ei Llywodraeth?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.