³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth

Archifau Mawrth 2012

Traed Moch

Vaughan Roderick | 16:43, Dydd Iau, 29 Mawrth 2012

Sylwadau (1)

Mae 'na gyfnod yn dod ym mywyd pob Llywodraeth bron pan mae pethau'n dechrau mynd o le. Mae camgymeriadau polisi, ffaeleddau personol ac anlwc pur yn cyfuno i wneud i'r llywodraeth ymddangos fel un sydd wedi colli ei rheolaeth ar y sefyllfa.

Rhyw wythnos felly mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cael yr wythnos hon. Mae camgymeriadau camsyniadau a chamymddwyn wedi gosod pwysau difrifol ar David Cameron a'i weinidogion. Wrth reswm mae Llafur wedi elwa o hynny ond go brin y gall yr wrthblaid hawlio'r clod am y cleisiau ar ambell i aelod o'r Cabinet. Nhw eu hun sy'n gyfrifol am y rheiny!

Dydw i erioed wedi deall yr honiad bod George Osborne yn rhyw strategydd gwleidyddol o fri. Mae'n cael ei ail-adrodd gan rai o newyddiadurwyr San Steffan fel pe bai'n ffaith - ond os oedd y Canghellor yn gymaint o athrylith a hynny fe fyddai'r Ceidwadwyr wedi ennill etholiad 2010. Go brin fod unrhyw wrthblaid swyddogol wedi methu ennill mwyafrif mewn amgylchiadau mor ffafriol - ac eithrio Llafur yn 1992, efallai.

Mae peth o broblemau'r Llywodraeth yn deillio o gyllideb George Osborne ei hun. Go brin y byddai unrhyw wleidydd gwironeddol graff wedi methu sylwi ar beryglon cyfuno torri trethi'r cyfoethog tra'n cynyddu'r graddfeydd i bensiynwyr ac fe fyddai pethau fel y dreth ar basteiod wedi cynnu clychau larwm. Serch hynny, dim ond dechrau ar bethau oedd y gyllideb.

Dim ond Peter Cruddas all esbonio'r rhesymau iddo 'frolio' ynghylch dylanwadu ar bolisiau'r Llywodraeth gerbron dau newyddiadurwr oedd yn esgus bod yn ddarpar gyfranwyr i'r Blaid. Faint o weithiau y mae pobol yn y byd gwleidyddol wedi cerdded mewn i drap tebyg dywedwch?

Mae'n bosib mai ymdrech i ddenu i sylw i ffwrdd o'r sgandal hwnnw oedd y penderfyniad i rybuddio'r cyhoedd ynglŷn â pheryglon streic gan yrwyr tanceri. Mae'r Llywodraeth yn gwadu hynny. Beth bynnag oedd y cymhelliad, mae naws Corporal Jones-aidd y rhybuddion wedi pery pryder diangen i fodurwyr ac argyfwng lle nad oedd un yn bodoli.

Fe ddywedais i ar y dechrau bod cyfnodau fel hyn yn digwydd ym mywyd sawl Llywodraeth ond gan amlaf maen nhw'n digwydd ar ôl blynyddoedd lawer mewn grym - wrth i hen benderfyniadau gael effeithiau annisgwyl ac wrth i gyn-weinidogion chwerw gronni ar y meinciau cefn.

Dyw Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim yn ddyflwydd oed eto. Fe ddylai hi o hyd fod yn profi cariad cyntaf yr etholwyr. Nid felly mae pethau.

Pam hynny? Efallai ei bod yn deillio o'r ffaith mai llywodraeth glymblaid yw hon neu efallai, dim on efallai, dyw yw ambell i Weinidog ddim hanner mor glyfar ac maen nhw'n ei feddwl.

Codi Cwestiynau

Vaughan Roderick | 15:41, Dydd Mawrth, 27 Mawrth 2012

Sylwadau (0)


Anaml iawn rwy'n sgwennu adolygiad o un o sesiynau'r Cynulliad - ond roeddwn i'n teimlo bod sesiwn gwestiynau'r Prif Weindiog heddiw yn un ddadlennol - nid yn gymaint oherwydd y cynnwys ond oherwydd yr hyn yr oedd yn ei dweud ynghylch cyflwr gwleidyddiaeth Cymru a chryfderau a gwendidau'r pedair plaid a'i harweinwyr.

Mae Carwyn Jones wrth gwrs yn hynod o gyffyrddus mewn sesiynau cwestiynau. Byddai dyn yn disgwyl hynny gan fargyfreithiwr. Serch hynny wedi ei gelu ynghanol un o'i atebion heddiw roedd 'na gyfaddefiad ac ymddiheuriad. Cyfaddef bod 'na wallau gramadegol a sillafu yng nghais Llywodraeth Cymru am y Banc Buddsoddi Gwyrdd wnaeth Carwyn ac ymddiheuro i'r Cynulliad.

Fe fyddai'r Banc wedi bod yn wobr wych i Gymru ei hennill er bychan oedd y gobeithion o wneud hynny o'r cychwyn. Serch hynny roedd cyhoeddi dogfen oedd heb hyd yn oed wedi ei phrawf ddarllen yn gywir yn adlewyrchu'n gythreulig o wael ar y Llywodraeth - yn enwedig yr Adran Fusnes a Menter.

Mae dyn yn clywed achwyn cyson am yr adran honno'r dyddiau yma. Mae'r Pwyllgor Dethol Cymreig, Cyn-gadeirydd y WDA ac Adam Price ymhlith y rhai sydd wedi bod yn uchel eu cloch yn ddiweddar.

Mae sicrhau bod adran Edwina Hart yn gweithio'n effeithiol yn saff o fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Wedi'r cyfan, heb son am bwysigrwydd yr economi, pa wleidydd fyddai'n mwynhau gorfod ymddiheuro am gam-gymeriadu elfennol rhai o'i weision sifil?

Daeth yr ymddiheuriad wrth i Carwyn ateb cwestiynau gan Andrew RT Davies. Roedd honno'n fuddugoliaeth fach i Andrew ond dyna oedd yr unig un. Fe wastraffodd yr arweinydd Ceidwadol ei gwestiwn cyntaf a thrwy ofyn dau gwestiwn hirwyntog ac aml gymalog fe wnaeth hi'n hawdd i Carwyn eu swatio i'r neilltu.

Pan etholwyd Andrew yn arweinydd roedd hyd yn oed cefnogwyr Nick Ramsey yn credu y byddai'n ddyrniwr effeithiol. Mae'r ffaith ei fod yn methu codi cleisiau yn broblem gynyddol i'r blaid.

Leanne Wood oedd yr ail arweinydd i gwestiynu Carwyn. Mae nifer o bleidwyr yn credu mai ar lawr gwlad yn hytrach nac yn y siambr y bydd Leanne yn profi ei gwerth ac ennill ei phlwyf. Serch hynny mae'n rhaid iddi berfformio yn y Cynulliad.

Yn y ddwy sesiwn gwestiynau ers ei hethol yn arweinydd mae Leanne wedi gofyn cwestiynau adeiladol - tacteg sydd yn gwneud hi'n anodd iawn i Carwyn danio magnelau i'w chyfeiriad.

Roedd gwneud hynny er mwyn cyrraedd gwyliau'r Pasg heb roi'r cyfle i Carwyn geisio ei thanseilio yn gwbwl synhwyrol ond rhywbryd, yn hwyr neu'n hwyrach, fe fydd yn rhaid i Leanne ddechrau ymosod.

Yn sicr fe wnaeth Kirsty Williams hynny'n effeithiol heddiw wrth holi ynghylch problemau trigolion rhai ardaloedd wrth geisio cael gafael ar ddeintydd gwasanaeth iechyd. Mae Kirsty wedi cael cyfnod bach da yn ddiweddar - efallai oherwydd newidiadau yn staffio ystafell gefn ei phlaid. Beth bynnag yw'r rheswm gallai Andrew a Leanne ddysgu gwersi wrth ei gwylio.

Heb gar na chyfaill yn y byd...

Vaughan Roderick | 11:08, Dydd Gwener, 23 Mawrth 2012

Sylwadau (0)

Doeddwn i ddim wedi bod i gwrs Ffos Las cyn ddoe. Os ydych chi'n mynd na rhyw dro defnyddiwch fap. Mae dilyn yr arwyddion ffordd yn eich arwain ar daith 'diddorol' o gwmpas hanner pentrefi de Sir Gâr!

Mae cynhadledd Plaid Cymru yn un o ddau ddigwyddiad y bydd ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru'n darlledu'n fyw ohonyn nhw'r penwythnos yma. 'Rali' y Ceidwadwyr yn Llanelwy yw'r llall.

Oherwydd y frwydr am yr arweinyddiaeth, Plaid Cymru sydd wedi bod yn hawlio'r sylw yn ddiweddar, ond mae ambell i beth diddorol yn mynd ymlaen yn rhengoedd y Ceidwadwyr hefyd.

Mae'n ddigon hawdd anghofio mai rali'r Ceidwadwyr yw cyfle cyntaf Andrew RT Davies i annerch y blaid Gymreig fel arweinydd. Dyna pam yr oedd cymaint o fawrion y blaid mor flin ynghylch penderfyniad y bwrdd Cymreig i ganslo'r gynhadledd ar fyr rybudd. Dyw 'poeri gwaed' ddim yn dechrau cyfleu maint y dicter!

Mae 'na ryw anniddigrwydd rhyfedd yn rhengoedd y Ceidwadwyr ar hyn o bryd. Nid ynghylch perfformiad llywodraeth David Cameron mae'r anhapusrwydd ond yn hytrach ynghylch perfformiad y blaid Gymreig a rhai o'i ffigyrau amlwg.

'Pam na fynnodd Andrew gael cynhadledd?' yw'r cwestiwn ar wefusau rhai - 'beth mae hynny'n dweud am ei awdurdod dros y blaid? medd eraill. Mae 'na anniddigrwydd hefyd ynghylch perfformiad yr arweinydd yn ystod sesiynau cwestiynu'r Prif Weinidog lle mae cwestiynau aml gymalog yn tueddu cael ei swatio i'r neilltu gan Carwyn Jones.

Os ydy rhai'n amheus ynghylch Andrew beth yw'r farn ynghylch perfformiad Ysgrifennydd Cymru?

Rwyf wedi clywed ambell i Geidwadwr yn cyfeirio at swyddfa'r Aelodau Seneddol Cymreig fel 'the real Wales Office'. Mae hynny'n arwyddocaol. Rwyf hefyd yn meddwl bod parodrwydd ambell i Aelod Seneddol i wyntyllu safbwyntiau a syniadau nad ydynt yn bolisi swyddogol yn ddiddorol.

I fod yn eglur dydw i ddim yn meddwl bod 'na rhyw hollt enfawr ar fin ymddangos neu fod arweinyddiaeth Andrew na swydd Cheryl o dan unrhyw wir fygythiad. Dweud ydwyf fod rhai o'r trwps yn grwgnach - a dyw hynny ddim yn beth da i unrhyw blaid.

Y ddau brif siaradwr yn rali Llanelwy yw Cheryl Gillan ac Andrew RT Davies. Fe fydd hi'n ddiddorol gweld faint sy'n troi mas i'w clywed.

Ecstras

Vaughan Roderick | 15:17, Dydd Mercher, 21 Mawrth 2012

Sylwadau (2)

Dyw cyllidebau San Steffan ddim beth oedden nhw.

Mae'r dyddiau pan oedd cymeriadau fel Gerald Naborrow a Leo Abse yn gwisgo i fyny ar gyfer y diwrnod mawr wedi hen ddiflannu. Diolch byth, medd rhai.

Mae'n ymddangos hefyd bod y'r arfer o 'purdah' - os ydy'r gair hwnnw o hyd yn wleidyddol dderbyniol - wedi diflannu. Erbyn hyn mae nid mater o air i glust newyddiadurwyr yw rhoi rhagflas o'r gyllideb. Mae'r Canghellor a'i weinidogion yn ddigon parod i ymddangos ar raglenni a radio o flaen llaw i drafod y peth.

Roedd 'na amser, dim mor bell yn ôl hynny pan fyddai gollwng y manylyn lleiaf o'r gyllideb yn golygu'r sac.

Dyna ddigwyddodd i'r Canghellor Llafur Hugh Dalton ar ôl iddo daro sgwrs a newyddiadurwr ar y ffordd i'r senedd. Roedd mwy o achos yn erbyn Jimmy Thomas, yr arweinydd undeb o Gasnewydd. Gwerthu gwybodaeth i bartner busnes ei fab - gwr a'r enw gwych Alfred Cosher Bates - oedd y cyhuddiad yn erbyn hwnnw.

Natur Llywodraeth glymblaid sy'n gyfrifol am y newid, mae'n debyg. I raddau mae'r ddau bartner yn defnyddio'r wythnosau cyn y gyllideb i fargeinio'n gyhoeddus a rheoli disgwyliadau ynghylch pwy all gymryd y clod neu'r bai am wahanol agweddau o gynlluniau'r Canghellor.

Fel newyddiadurwr wrth gwrs does gen i ddim gwrthwynebid i'r newid. Os oeddwn i'n Aelod Seneddol efallai y byswn i'n teimlo'n wahanol.

Does dim disgwyl i'r aelodau gwisgo i fyny'r dyddiau hyn one a dweud mai'n fwy o sioe i'r cyhoedd nac oedd hi yn y dyddiau hynny gydag aelodau seneddol yn fawr mwy na rhan o'r llwyfannu.

A Leanne Amoure

Vaughan Roderick | 10:43, Dydd Gwener, 16 Mawrth 2012

Sylwadau (3)

Un o raglenni newydd S4C sydd heb gael rhyw lawer o sylw yw cyfres Rhydian Bowen Phillips 'Fi di Duw'. Efallai bod pobol yn rhy brysur yn rhacsio ambell i raglen newydd arall i dalu sylw i gyfres fach ddifyr a dymunol!

Yn bersonol does gen i ddim uchelgais i fod yn ben ar y nefolaidd gôr ond rwyf am chwarae fersiwn bach arall o gêm Rhydian - un sy'n ymwneud â chorff sydd ychydig yn is na'r angylion - ond dim ond ychydig, cofiwch!

'Fi di Pwyllgor Gwaith Plaid Cymru' yw'r gêm a'r bwriad yw ceisio dyfalu pa strategaeth y dylai'r blaid fabwysiadu yn sgil ethol Leanne Wood fel ei harweinydd.

Does dim angen bod yn athrylith i wybod sut bydd y pleidiau eraill yn ymateb i ddewis aelodau Plaid Cymru. Fe fyddant yn ceisio ei diffinio ym meddyliau'r cyhoedd cyn iddi hi ei hun gallu gwneud hynny. Mae hynny'n bolitics 101.

Fe fydd ymchwilwyr y pleidiau eraill yn chwilio trwy ei holl gyfraniadau yn y siambr a'i cholofnau yn y Morning Star a chyfnodolion eraill. Eu bwriad fydd canfod deunydd i geisio dylunio arweinydd newydd Plaid Cymru fel gwleidydd sydd allan o brif lif gwleidyddiaeth Cymru ac sydd allan o'i dyfnder.

Sut ddylai Plaid Cymru ymateb i hynny?

Mae rhan o'r ateb, dybiwn i, i'w ganfod ar wefan Leanne Wood ei hun. Roedd rhyddhau dogfennau polisi manwl fel ei chynllun i'r cymoedd yn fodd i gyfleu'r syniad ei bod yn wleidydd o sylwedd i aelodau Plaid Cymru. Pwy o wÅ·r faint o ddarllen oedd arnyn nhw -ond mewn sawl ystyr roedd ei bodolaeth yn bwysicach na'u cynnwys.

Fe fyddai'n gwneud synnwyr i ddilyn yr un trywydd yn ystod y misoedd nesaf ond mewn meysydd nad ydynt yn gysylltiedig â'r arweinydd newydd - rhywbeth fel maniffesto i fusnesau bach er enghraifft.

Mae'n rhaid i'r blaid dderbyn hefyd bod Leanne yn gallu bod yn wan mewn cyfweliadau. Gwyliwch Dragon's Eye neithiwr os am brawf o hynny. Dyw rhoi cyfeiriad gwefan ddim yn ateb i gwestiwn. Fe fydd yn rhaid iddi ddysgu'n gyflym sut mae delio â phobol fel fi!

Fe fydd angen paratoi trylwyr ar gyfer siambr y Cynulliad hefyd. Does ond angen edrych ar berfformiad arweinydd y Ceidwadwyr yn ystod sesiynau gwestiynau'r Prif Weinidog i sylweddoli nad yw siarad o'r frest neu ar fympwy bob tro yn syniad da.

Dyna ddigon am wendidau. Mae gan Leanne Wood gryfderau mawrion hefyd. Dyna'r rheswm y gwnaeth hi ennill y ras ac fe ddylai Plaid Cymru geisio manteisio arnyn nhw.

Does ond angen gwylio'r arweinydd newydd yn ymgyrchu i wybod ei bod yn dda iawn iawn wrth ddelio â phobol wyneb yn wyneb. Mae ei phersonoliaeth wresog a siarad di-flewyn ar dafod yn rhoi apêl naturiol iddi.

Trwy ymgyrchu ar y ffyrdd a'r caeau y mae gobaith gorau Leanne Wood o lwyddo i gynyddu apêl y blaid, dybiwn i. Gellid gadael peth o'r gwaith yn y Cynulliad i eraill er mwyn cael yr amser i wneud hynny. Mae 'na fwy o bleidleisiau i'w hennill ar y stryd fawr nac yn y Senedd!

'High risk - high reward' oedd y disgrifiad o Leanne Wood gan rai yn ystod yr ymgyrch. Rwy'n meddwl bod hynny'n gywir. Amser a ddengys p'un ai y bydd gambl aelodau Plaid Cymru yn talu ai peidio ond i'r arweinydd newydd a'i thîm nawr mae'r gwaith caled yn cychwyn.


I'r pant...

Vaughan Roderick | 13:57, Dydd Mercher, 14 Mawrth 2012

Sylwadau (1)

Mae ffigyrau GDP Eurostat yn fel ar fysedd newyddiadurwyr Cymru gan roi cyfle blynyddol i gymharu cyflwr economi Cymru a gweddill yr Undeb Ewropeaidd. Pwy allai wrthsefyll y temtasiwn i ysgrifennu pennawd fel un y Western Mail bore ma -"Two Thirds of Wales poorer than Romania reveal new GDP figures"?

Fel y Western Mail ar y cymariaethau a rhannau o ddwyrain Ewrop a dirywiad cyson y mesur yma o'r economi Gymreig y gwnes i ganolbwyntio wrth ohebu ynghylch yr ystadegau ddoe.

Nid dyna oedd yr unig ongl bosib. Dyma i chi un arall. Beth am weld beth sydd gan yr ystadegau i ddweud ynghylch anghyfartaledd rhwng gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig?

Yn ôl Eurostat roedd GDP Cymru yn 2009 yn 79.8% o gyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r ffigwr yna'n gostwng i 68.4% y Gorllewin a'r Cymoedd, y parth economaidd, artiffisial braidd, sy'n derbyn cymorth arbennig i'r Undeb Ewropeaidd.

Mae'r sefyllfa yn wahanol iawn mewn rhannau eraill o Brydain. Yn wir mae tri rhanbarth o Brydan ymhlith yr ugain mwyaf cyfoethog o fewn yr Undeb.

O ganlyniad i'r diwydiant olew a nwy gogledd ddwyrain yr Alban yw un o'r rheiny. Fe fydd neb yn synnu o wybod bod Swydd Rhydychen Berkshire a Buckinghamshire yn un arall.
Y cyfoethocaf ohonyn nhw i gyd yw canol Llundain - y rhanbarth fwyaf cyfoethog yn yr Undeb gyfan, lle'r oedd y GDP y pen yn 332% o'r cyfartaledd. I roi'r peth yn y ffordd fwyaf syml posib mae gwerth economaidd unigolion yng nghanol Llundain pedair gwaith yn fwy nac unigolion yng Nghymru.

Y ffaith syml ac ysgytwol yw hyn. Mae'r gwahaniaeth mewn cyfoeth rhwng rhanbarth tlotaf Prydain sef Gorllewin Cymru a'r Cymoedd a'r cyfoethogaf sef Canol Llundain yn fwy o beth wmbreth na'r ffigyrau cyffelyb mewn unrhyw wlad arall yn yr Undeb.

Llai na chwater canrif ar ôl cwymp wal Berlin yn 1989 78% o wahaniaeth sydd na rhwng maint economi'r rhanbarth tlotaf yr hen Almaen ddwyreiniol a'r fwyaf cyfoethog yn yr hen orllewin. Wyth gan mlynedd ar ôl uno Cymru a Lloegr mae'r gwahaniaeth mewn cyfoeth rhwng Gorllewin Cymru a'r Cymoedd a chanol Llundain yn 250%!

Os 'oes 'na gwestiwn felly ynghylch methiant yr Undeb Ewropeaidd i sicrhau cyfartaledd economaidd rhwng rhanbarthau'r Undeb onid oes 'na gwestiwn hyd yn oed yn fwy ynghylch parodrwydd llywodraethau'r Deyrnas Unedig i ganiatáu'r fath anghyfartaledd?

I'r pant y rhed y dŵr meddai nhw a diddorol oedd gweld y yn y papurau'r bore 'ma.

Caniatawyd i newyddiadurwyr gael cipolwg ar ffrwyth cynllun gwerth £550 miliwn i foderneiddio gorsaf King's Cross. Fel y gellid disgwyl ar ôl gwario cymaint mae'r lle'n ysblennydd ac mae'n sicr y bydd y 27 miliwn o deithwyr sy'n defnyddio'r orsaf bob blwyddyn yn gwerthfawrogi'r trawsnewid.

Mae rhyw bymtheg miliwn o deithwyr yn defnyddio'r ddwy orsaf yng nghanol Caerdydd bob blwyddyn. Fe fyddai'r rheiny mae'n debyg yn gwerthfawrogi gwell cyfleusterau hefyd.

I fod yn deg mae gan Network Rail gynlluniau i'w gwella. Cewch eu gweld yn . Teg yw dweud eu bod ychydig yn llai uchelgeisiol na chynllun King's Cross!

Fel y dywedais i yn y deyrnas hon i'r pant y rhed y dŵr - neu i'r de-ddwyrain y rhed y pres!

Calan Mai

Vaughan Roderick | 12:49, Dydd Iau, 8 Mawrth 2012

Sylwadau (4)

Mae 'na bron i ddeufis i fynd tan yr etholiadau lleol ond os ydych chi'n byw mewn ward gystadleuol mae'n debyg bod ambell i daflen wedi dechrau cyrraedd. Yn fy ward fach i mae'n ymddangos mai Llafur, Plaid Cymru a'r Blaid Werdd sy'n brwydro o ddifri. 'Anarferol' yw'r gair cywir i ddisgrifio'r ornest honno, dybiwn i!

Ar ôl dweud hynny, y gwir amdani yw bod gornestau 'anarferol' bron yn arferol ar draws Cymru y tro hwn a hynny oherwydd yr hyn ddigwyddodd yn 2008.

Yn y flwyddyn honno dioddefodd Llafur ei chanlyniad gwaethaf ers i'r cynghorau presennol gael ei ffurfio yn 1994. Does dim modd cymharu a chanlyniadau cyn 1995 yn uniongyrchol ond mwy na thebyg rhain oedd y canlyniadau lleol gwaethaf i Lafur ers hanner canrif a mwy.

Fe gollodd Llafur 124 o seddi o gymharu â 2004 ac am y tro cyntaf roedd y cyfanswm Llafur o 342 yn llai na chyfanswm yr aelodau Annibynnol / Eraill o 381.

Y crasfa gafoodd Llafur a dadeni'r traddodiad annibynnol yn ardaloedd trefol Cymru oedd stori fawr etholiad 2008. I fod yn deg roedd 'na lewyrch i'r tair plaid arall hefyd gyda Phlaid Cymru'n ennill 205 sedd (+31), y Ceidwadwyr 174 (+63) a'r Democratiaid Rhyddfrydol 162 (+21).

Mae natur yr ornest yn y wardiau lle mae 'na frwydrau traddodiadol rhwng y pleidiau yn ddigon hawdd i broffwydo y tro hwn. Fe fydd Llafur yn ymosod ar bawb gan geisio o leiaf adennill y seddi a'r cynghorau a gollwyd yn 2008. Ceisio gwrthsefyll llif i Lafur tra'n ceisio cipio seddi oddi ar ei gilydd bydd y pleidiau eraill.

Fe fydd Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn gobeithio digolledi unrhyw golledion i Lafur trwy drechu ymgeiswyr annibynnol yn yr ardaloedd gwledig lle mae'r traddodiad hwnnw ar drai.

Y cwestiwn mawr yn yr etholiad hwn yn fy meddwl i yw beth fydd ffawd y cynghorwyr annibynol a etholwyd yn 2008 yng nghadarnleoedd traddodiadol y blaid Lafur - llefydd fel Merthyr, Torfaen a Sir Fflint. A fydd y rheiny i gyd yn sefyll y tro hwn a pha mor wydn yw eu cefnogaeth?

Fe fydd Llafur yn gobeithio y bydd y bleidlais annibynnol yn diflannu fel y gwnaeth hi ym Mlaenau Gwent yn Etholiad Cyffredinol 2010 ac Etholiad Cynulliad 2011. Does 'na sicrwydd y bydd hynny'n digwydd. Gallai cynghorwyr annibynol effeithiol fod yn anodd iawn i'w trechu. Gallu Llafur i wneud hynny fydd y gwahaniaeth rhwng noson addawol i'r blaid a noson i ddathlu go iawn.

Sion a Sian

Vaughan Roderick | 14:18, Dydd Mercher, 7 Mawrth 2012

Sylwadau (1)

Un o'r pynciau y byddwn yn trafod ar CF99 heno yw'r nifer o fenywod yn y Cynulliad a'r Senedd. Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched yfory yw'r rheswm neu'r esgus dros wneud yr eitem yr wythnos hon ond mae 'na stori go iawn i'w adrodd wrth i dir a enillwyd gan fenywod o gwmpas troad y ganrif cael ei golli.

Cymerwch y Cynulliad yn gyntaf. O ganlyniad i fesurau mewnol a gymerwyd gan y blaid Lafur a Phlaid Cymru pan ddaeth y Cynulliad i fodolaeth yn 1999 etholwyd 24 o fenywod yn aelodau. Yn 2003 fe gododd y nifer i ddeg ar hugain gan olygu mae deddfwrfa Cymru oedd yr un cyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb union rhwng y ddau ryw.

Gydag ethol Trish Law yn isetholiad Blaenau Gwent yn 2006 am gyfnod byr roedd menywod yn y mwyafrif ond yn ethyoliad 2007 syrthiodd y nifer i 28 ac yn 2011 i 24 - yr union fan lle cychwynnodd hi ddeuddeg mlynedd yn gynt.

Mae'r sefyllfa'n ddigalon braidd i'r rheiny oedd yn gobeithio y byddai sicrhau cydraddoldeb mewn un neu ddau etholiad yn torri asgwrn cefn y broblem. Mae'n debyg felly y bydd Llafur, Plaid Cymru ac erbyn hyn, y Ceidwadwyr yn addasu eu strwythurau ar gyfer etholiad 2016 er mwyn sicrhau enwebu rhagor o fenywod.

Mae'r sefyllfa yn y Cynulliad yn bell o fod yn argyfyngus - yn enwedig o gymharu â'r hyn allai ddigwydd i gynrychiolaeth seneddol yn 2015.

Mae'n ffaith weddol adnabyddus mai dim ond pedair menyw oedd wedi cynrychioli Cymru yn NhÅ·'r Cyffredin cyn 1997. Mae eu henwi nhw yn gwestiwn reit gyffredin yn fath o gwisiau tafarn sydd ond yn digwydd y Mae Caerdydd!

Ar ôl 1997, diolch bron yn llwyr i ymdrechion y Blaid Lafur, dechreuodd y sefyllfa wella. Yn etholiad 2005 roedd naw allan o'r deugain ymgeisydd llwyddiannus yn fenywod - wyth aelod Llafur ac un Democrat Rhyddfrydol. Yn 2010 gydag ymddeoliad Betty Williams a threchi Julie Morgan fe ostyngodd y nifer i saith a gellir disgwyl i'r nifer ostwng ymhellach o ganlyniad i adrefnu'r ffiniau seneddol.

Dyw'r ffiniau terfynol ddim wedi eu cytuno eto ond mae un cyn-swyddog Llafur o'r farn mae dim ond tair o'r saith bresennol gall fod yn hyderus ynghylch sicrhau enwebiad eu plaid ac yna ennill sedd o dan y drefn newydd. Rwy'n cymryd mai Madeline Moon, Siân James a Nia Griffith yw'r rheiny. Mae eraill megis Susan Elan Jones yn wynebu cwffio am enwebiad yn erbyn Aelod Seneddol arall neu fel Jenny Willott yn gorfod brwydro mewn etholaeth fydd yn galed ei hennill.

Oes 'na unrhyw beth y gall y pleidiau wneud ynghylch y sefyllfa? Yn achos Llafur mae'n ymddangos mai'r ateb yw 'dim llawer'. Mae'r cyn-swyddog Llafur yn credu mai sedd newydd Dwyrain Caerdydd fydd yr unig 'sedd wag' yn 2015 - a'r unig un felly lle y byddai'n bosib llunio rhestr fer o fenywod yn unig.

Yr eironi yw mai dyna'r union etholaeth y disgwylir i Jenny Willott sefyll ynddi!

Gair am air

Vaughan Roderick | 14:34, Dydd Mawrth, 6 Mawrth 2012

Sylwadau (0)

Un o'r pethau cyntaf y mae cyw wleidyddion yn dysgu yw dewis eu geiriau'n ofalus. Nid son am y pwysigrwydd o beidio rhoi troed ynddi ydw i yn fan hyn ond y ffaith bod dewis geiriau'n ofalus yn gallu bod yn hanfodol er mwyn ennill dadl neu frwydr.

Cymerwch fel enghraifft y ffrwgwd presennol ynghylch priodasau hoyw.

Mae hon yn ddadl gymharol newydd yn y Deyrnas Unedig. Yn y wlad hon dim ond ar ôl ennill y frwydr dros bartneriaethau sifil y dechreuodd rhai ymgyrchwyr hoyw alw am yr hawl i briodi. Yn wir, mae'n ddigon posib na fyddai'r alwad wedi dod o gwbwl oni bai am y cymal yn y Ddeddf Partneriaeth Sifil sy'n gwahardd cynnal seremonïau partneriaeth sifil mewn adeiladau crefyddol - hyd yn oed os ydy'r perchnogion yr adeiladau hynny yn dymuno gwneud. Yn yr ystyr hynny brwydr dros hawliau grwpiau crefyddol megis y Crynwyr a'r Iddewon Diwygiedig yw'r frwydr dros briodasau hoyw ym Mhrydain.

Mae'r sefyllfa'n wahanol mewn rhai gwledydd eraill - yr Unol Daleithiau ac Awstralia yn eu plith. Yn y rheiny penderfynodd ymgyrchwyr hoyw o'r cychwyn nad oedd cyfaddawd ynghylch partneriaethau sifil yn dderbyniol. Rhaid oedd sicrhau'r defnydd o'r gair 'priodas' yn ogystal ar hawliau a chyfrifoldebau oedd yn deillio ohoni.

Hyd yma yn yr Unol Daleithiau mae saith talaith wedi cyfreithloni priodasau hoyw ac ymhob achos fe wnaed hynny trwy'r broses ddeddfwriaethol. Mae pob talaith sydd wedi cynnal refferendwm ynghylch y syniad wedi ei wrthod, er o fwyafrifoedd digon bychan mewn rhai achosion.

Yr hyn sy'n ddiddorol yw defnydd y ddwy ochor o eiriau.

Mae cefnogwyr priodasau hoyw yn son byth a hefyd am 'ymestyn yr hawl i briodi'. Anodd yw dadlau yn erbyn ymestyn yr un hawl i bawb wedi'r cyfan.

Mae gwrthwynebwyr y newid yn fframio'r ddadl yn wahanol trwy sôn am 'ail-ddiffinio' priodas. Mae gwneud hynny yn cyfleu'r syniad nad rhoi hawl i leiafrif mae priodasau hoyw ond trawsnewid sefydliad mewn modd sy'n andwyol i'r mwyafrif.

Mae'n werth nodi wrth fynd heibio bod grwpiau ffocws ac arolygon barn wedi dangos bod 'na nifer sylweddol o bobol yn yr Unol Daleithiau a fyddai'n cefnogi 'ymestyn' priodas ond yn gwrthwynebu ei 'hailddiffinio' er bod y ddau derm yn golygu yn union yr un peth!

Mewn ymdrech i brofi mai israddio sy'n gywir fe gododd Simon Thomas ar ei draed yn ystod sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog heddiw. Roedd dogfen drafod y bwrdd yn dangos yn eglur meddai mai Uned Triniaeth Brys fyddai gan ysbyty Llanelli pe bai'r newid yn digwydd yn hytrach na'r Uned Damweiniau Argyfwng sy'n bodoli ar hyn o bryd.

Ymatebodd Carwyn trwy fynnu bod 'na fawr o wahaniaeth rhwng y ddau o safbwynt y claf. Ond os felly pam newid yr enw? Fe fyddai'n ddigon posib newid rhywfaint ar y gwasanaeth a pharhau i'w alw'n 'Uned Damweiniau ac Argyfwng'. Beth ar y ddaear fyddai'r pwynt rhoi argraff o 'israddio' trwy newid enw os nad oedd israddio i fod mewn gwirionedd?

Fe fyddai hyd yn oed y cyw wleidydd mwyaf dibrofiad yn gwybod hynny.

Dan Lach Leighton

Vaughan Roderick | 10:59, Dydd Gwener, 2 Mawrth 2012

Sylwadau (2)

Digwyddodd rhywbeth anarferol braidd ddoe. Nid son am ddathliadau Gŵyl Ddewi ydw i yn fan hyn ond rhyw nam wnaeth ladd y rhyngrwyd am gyfnod o rai oriau mewn canolfannau ar hyd a lled y ³ÉÈËÂÛ̳.

Dim ond o'i golli mae ei werthfawrogi meddai nhw ac roedd bod heb gysylltiad â'r we yn fodd i sylweddoli cymaint y mae dyn yn dibynnu arni'r dyddiau hyn.

Mae'r pwyslais y mae newydd y Llywodraeth yn gosod ar dechnoleg newydd yn debyg o gael croeso felly, ac ar y cyfan mae'r ymateb i'r ddogfen wedi bod yn bositif.

Dydw i ddim am fynd ar ôl cynnwys y strategaeth yn fan hyn. Yn hytrach rwyf am wneud pwynt neu ddau ynghylch yr hyn mae Leighton Andrews yn dweud yn ei ragair - pwyntiau y byswn i wedi gwneud ddoe pe bai modd i mi wneud!

Fel mae'n digwydd roedd y rhagair eisoes wedi ymddangos fel erthygl yn y Western Mail rai wythnosau yn ôl ac mae 'na ambell i beth ynddi sy'n hynod ddiddorol.

Y peth cyntaf sy'n sefyll mas yw pwyslais y Gweinidog ar y ffaith mai adeiladu ar strategaethau a pholisïau Llywodraeth 'Cymru'n Un' y mae'r cynllun - llywodraeth lle'r oedd y portffolio iaith yn nwylo Plaid Cymru. Mae e hyd yn oed yn dewis enwi ei ragflaenydd Alun Ffred Jones a diolch iddo am ei waith.

Pam gwneud hynny?

Mae Leighton yn cynnig un ateb i'r cwestiwn hwnnw ei hun trwy son am bwysigrwydd parhau a chonsensws gwleidyddol ynghylch yr iaith ond mae 'na ffactor arall posib, dybiwn i. Ystyriwch y paragraff yma o'r rhagair.

"Rhaid i ni fod yn uchelgeisiol; i fyny bo'r nod. Ni allwn adael dyfodol yr iaith yn nwylo'r sefydliadau hynny sydd eisoes wedi ennill eu plwyf ac sydd wedi datblygu diwydiant ar sail eu hanghenion cyfyng eu hunain yn ystod y blynyddoedd diwethaf. "

Cyfeirio at y cyfryngau newydd mae'r sylw - ond mae'n nodweddu steil gwleidyddol y Gweinidog Addysg. Mae hwn yn ddyn sy ddim yn ofni herio sefydliadau a'u gorfodi i newid. Cewch dystiolaeth o hynny gan ambell i Is-ganghellor Prifysgol!

Dyw'r strategaeth ddim yn mynd i fanylion ynghylch pa sefydliadau y mae'r gweinidog yn bwriadu eu herio.

Mae'n rhoi slapad i S4C fel 'sefydliad sy'n perthyn i'r oes cyn datganoli o ran ei feddylfryd' ond yn mynegi hyder y bydd arweinwyr newydd S4C yn ymateb i'r pryderon hyn. Nid S4C yw'r targed felly.

Mae'n hysbys bod 'na ddim llawer o Gymraeg rhwng Leighton a'r Bwrdd Iaith ond mae hwnnw yn e i ddyddiau olaf. Nid y Bwrdd sydd dan sylw.

Pwy all ddisgwyl fod dan lach Leighton felly?

Fe gawn weld - ond rwy'n synhwyro ei fod yn teimlo y byddai cael cefnogaeth Plaid Cymru yn y brwydrau o'i flaen yn ddefnyddiol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.