Ymateb a sylwadau Alan Llwyd
Er bod hadau'r Mudiad Rhamantaidd wedi eu
plannu cyn troad y ganrif, dyma flaenffrwyth y Mudiad. 'Roedd gwobrwyo dwy
gerdd ramantaidd eu naws a'u hysbryd yn nwy brif gystadleuaeth farddoniaeth
yr Eisteddfod yn hwb aruthrol i Ramantiaeth.'Roedd yr oes ramantaidd wedi
gwawrio.
Awdl ddramatig ac epigramatig wych oedd awdl fuddugol 1902, ac
'roedd y gynghanedd gynnil a'r delweddu diriaethol yn wrthbwynt i awdlau
clogyrnaidd a thraethodol y cyfnod. Dewiswyd testunau'r Gadair a'r Goron yn Eisteddfod Bangor gan John Morris-Jones, a oedd yn
benderfynol o arwain barddoniaeth Gymraeg allan o anialwch Oes Victoria.
Y Goron Testun.
Pryddest: 'Trystan ac Esyllt'
Enillydd.
R. Silyn Roberts
Beirniaid.
John Morris-Jones, Elfed
Cerddi eraill:
W.J. Gruffydd oedd yr ail. Cyhoeddwyd ei bryddest mewn llyfr ar y cyd ag awdl anfuddugol Alafon a thelynegion ail-orau Eifion Wyn ym
Mangor. Dywedodd Gruffydd mai protest oedd ei bryddest yn erbyn 'lol
llawer o'r beirdd newydd', sef y beirdd diwinyddol-athronyddol a ddilynai
Islwyn.
Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd
Pryddest ramantus ei chywair oedd y
bryddest fuddugol, ac ynddi lawer o fotifau a them芒u'r beirdd rhamantaidd,
fel anfarwoldeb serch a gwewyr serch.
Y Fedal Ryddiaith
Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|