Ymateb a sylwadau Alan Llwyd
'Roedd yr haf Edwardaidd yn tywynnu'n
llachar o hyd, er i gyfnod teyrnasiad Edward y Seithfed (Iorwerth VII) ddod i ben yn swyddogol
ym 1911 pan goronwyd Si么r y Pumed yn frenin, ond 'roedd ysbryd yr oes Edwardaidd o ffyniant a chynnydd yn parhau hyd at ddechrau'r
Rhyfel Mawr. 'Roedd Cymru yn Gymry frenhinol, ymerodrol o hyd, er gwaethaf
dadeni Rhamantaidd a chenedlaethol diwedd y ganrif flaenorol a degawd cyntaf
yr ugeinfed ganrif. Pan ddaeth yr Eisteddfod i Gaerfyrddin ym 1911 daeth y beirdd
yno i ffarwelio ag un brenin ac i groesawu brenin arall, ond awdl warthus o
wael oedd awdl fuddugol 1911, er na ellid disgwyl dim byd gwahanol gyda'r
fath destun.
Y Goron Testun. Pryddest: 'Gwerin Cymru'
Enillydd: Crwys
Beirniaid: J. T. Job, J. J. Williams
Cerddi eraill: Wil Ifan oedd yr ail am y Goron.
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd
Mae'r bryddest hon yn enghraifft arall o Gwlt
y Werin, ac yn arwydd hefyd o dwf Sosialaeth yn y cyfnod. Portreadodd Crwys
werinwyr Cymru fel pobl ddiwyd, onest a chrefyddol a orthrymid gan landlordiaid.
Y Fedal Ryddiaith
Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|