Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:
Awdl ar fesur 'Madog' T. Gwynn Jones, ac awdl a oedd hefyd yn drwm dan
ddylanwad Gwynn Jones yn gyffredinol. Er ei bod wedi ei lleoli yng nghyfnod
Maelgwn Gwynedd, yn y chweched ganrif, 'roedd iddi hi neges amserol iawn, sef
dyfodol ysbrydol a diwylliannol Cymru ar 么l blynyddoedd barbaraidd yr Ail Ryfel
Byd. Mae hi'n pregethu cyfrifoldeb a gwir ymroddgarwch o safbwynt amddiffyn y
Dreftadaeth Gymreig yn un peth, ac mae hi hefyd yn cyffwrdd ag un o ddaleuon
mawr cyfnod yr Ail Ryfel Byd, sef y ddadl Militariaeth v Heddychaeth.
Y Goron
Testun. Pryddest: 'Jonah' neu 'Glyn y Groes'
Enillydd: G. J. Roberts
Beirniaid: Wil Ifan, Thomas Parry, Gwilym R. Jones
Cerddi eraill: Un o'r pryddestwyr aflwyddiannus oedd Rhydwen Williams, Prifardd coronog y flwyddyn flaenorol. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Pryddest gyffredin iawn. Y Fedal Ryddiaith Penderfynwyd ei dyfarnu ym 1948 am waith rhyddiaith gorau'r blynyddoedd 1945 a 1947.
Tlws y Ddrama Drama Hir
Enillydd: Plas Madog
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|