Rwy'n prysur ddod i'r casgliad nad oes lle'n byd gwell a difyrrach na Profens yn ne Ffrainc i fwrw golwg dros fywyd yr hen Geltiaid.
"Ie, wel, Celtiaid i ni gyd yn y bôn," meddai dyn stondin hen lyfrau ym marchnad fore Sul Isle-sur-la-Sorgue.
Roeddwn i wrthi'n cyfri 60 ewro am anferth o hen fap ysgol - un i'w osod ar wal - yn dangos llwythau Celtaidd Gâl yng nghyfnod Iwl Cesar.
Ac er mai Profens oedd y rhanbarth cyntaf o Gâl i blygu glin i Cesar erys llu o olion Celtaidd ar hyd a lled y darn hwn o Ffrainc.
Provincia Romania - y Dalaith Rufeinig - oedd yr enw a roddodd y Rhufeiniaid ar ddarn o wlad a oedd gyda'r fwyaf hudolus yn eu golwg.
Gwlad sy'n dal i gynnig i deithwyr heddiw yr hyn oedd gymaint wrth fodd y Rhufeiniaid - hinsawdd hyfryd, gwinllannoedd, llawnder o ffrwythau, a'r coed olewydd.
Fil o flynyddoedd wedi Cesar, pan alltudiodd yr Eglwys Babyddol ei hun oherwydd y sefyllfa wleidyddol fregus o Rufain i Avignon, bu'n anodd dwyn perswâd ar y cardinaliaid a'r esgobion i ddychwelyd i ddinas Pedr gan fod bywyd mor braf a'r gwinoedd mor felys. Am gyfnod methwyd â chytuno a chafwyd dau Bab, un yn Rhufain a'r llall yn Avignon.
Yn wir, pan ddychwelodd Frederic Mistral, arwr adfywiad llên a diwylliant modern Profens, o ymweliad â'r Eidal yn 1891, honnodd fod yr olion Rhufeinig yn ei fro enedigol yn rhagori ar bopeth a welodd ar ei daith!
Dywedodd, hefyd, yn un o'i gerddi mai Galo-Rufeiniaid a boneddigion oedd gwŷr Profens, yn parchu henebion a threftadaeth.
Cael parch
Ac y mae olion y Galiaid - neu Geltiaid - yn cael parhau i gael parch a chydnabyddiaeth ym Mhrofens er eu bod weithiau yng nghysgod yr olion Rhufeinig diweddarach, mwy ysblennydd - fel ag yn achos olion Glanum ar gyrion tref Saint-Rémy-de-Provence.
Dro arall maent wedi eu claddu dan yr olion Rhufeinig - fel yn Vaison-la-Romaine - ond yr ydym yn ymwybodol o hynny diolch i haneswyr nad ydynt yn diystyru'r hen hanes fel rhai Lloegr sy'n anwybyddu popeth cyn Rufeinig a phorthi'r myth mai'r Rhufeiniaid yw sail ein gwareiddiad.
Yng ngeiriau un hanesydd Celtaidd o Ffrancwr, cawsom ein llyffetheirio gan ystrydebau dyddiau ysgol fel; "Yr oedd y Celtiaid yn byw mewn cutiau" ac mai y Rhufeiniaid wareiddiodd Orllewin Ewrop.
Ond mae bwrw golwg o gwmpas safleoedd Entremont ger Aix, Glanum a Roquepertus, ger Veloux (neu Velous), ynghyd â'r amgueddfeydd sy'n gysylltiedig â hwy yn agoriad llygad.
Gwelir fod gan yr Ymerodraeth Rufeinig ddyled enfawr i'r Celtiaid yn yr un modd ag y maent yn ddyledus i'r Groegiaid. Nid yn unig am greu'r ffyrdd y gwnaeth y Rhufeiniaid gymaint defnydd ohonynt a'u hawlio iddynt eu hunain wedyn.
Yr hyn a wnaeth Rhufain oedd addasu gwareiddiadau eraill i'w anghenion eu hunain.
Ystod rhyfeddol o hanes
Cychwynnais fy nheithiau mewn man oedd yn agos i'r lle y lletywn - Caer Buoux - neu Buous mewn Profonsaleg - ym mryniau'r Luberon. Tybed a oes safle yn unman sy'n cyfannu'r fath ystod ryfeddol o hanes?
Yn yr ogofeydd islaw'r gaer darganfuwyd olion dyn cyntefig, 100,000 o flynyddoedd Cyn Crist. Roedd y llu ogofeydd a'r gofod dan y ceulannau craig enfawr yn lloches ddelfrydol yn nyddiau cynnar gwareiddiad - mater bach oedd adeiladu'r un mur angenrheidiol i greu "stafell" ddiddos yn gysgod i deulu mawr.
Gwelais un neu ddwy a ddefnyddir hyd heddiw'n gorlannau defaid neu eifr gyda digon o le i dros gant o anifeiliaid.
Mae olion y gaer ei hun yn ddogfen o hanes - drwy'r Oesoedd Pres, Haearn, dyfodiaid y Celtiaid, y Rhufeiniaid a'r Saraseniaid.
Saif ar driongl o wastatir pensyfrdan o uchel uwchben y cymoedd culion o boptu. Bu'r lle'n lloches yn y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg i'r Vaudois neu'r Waldensiaid, hereticiaid - yng ngolwg Eglwys Rufain - oedd yn byw'n llythrennol yn ôl gorchymyn Crist; "Dos a gwerth yr holl sydd gennyt a dyro i'r tlodion."
Safle o bwys
Mae safle Glanum ger y Camargue yn enwog am fawredd ei olion Rhufeinig. Ond o'r chweched hyd yr ail ganrif Cyn Crist llwyth Celtaidd y Salluvii oedd yma gyda'u seintwar uwch y safle, y ffynnon nad yw byth yn hesb islaw a lle bu'r Celtiaid yn addoli wrth allor y duw, Glanis.
Mae'r allor, ynghyd â nifer o greiriau a ddarganfuwyd ar y safle, yn amgueddfa'r Hôtel de Sade yn Saint-Remy.
O gerdded o gwmpas y safle a syllu ar yr hen furiau hawdd credu y bu yma safle Geltaidd o bwys cyn dyfodiad y Rhufeiniaid.
Gwelir olion muriau mwy diweddar ar ben hen furiau, sy'n awgrymu bod safle'r Celtiaid yn sylweddol a bod y Rhufeiniaid wedi adeiladu arni.
Mae'n wahanol i lawer o hen geyrydd Celtaidd, sef ei bod mewn cilfach ym mhen uchaf cwm cul yn hytrach nag ar wastatir uchel - er bod y seintwar ei hun mewn darn o graig uchel.
Trefi a thai llydan Saif Entremont ar safle uwch tref Aix-en-Provence. Mae'n safle mawr sy'n brawf bod gan yr hen Geltiaid eu trefi, eu tai llydan, eu muriau cerrig, offer amaethyddol fel y melinau i wasgu sudd yr olewydd a'r rhesi o ffyrnau at wahanol bwrpasau.
Celfyddyd I weld celfyddyd yr hen Geltiaid rhaid taro i lawr i'r Musée Granet yn Aix lle diogelir y llu creiriau a ddarganfuwyd wrth gloddio yn Entremont - pethau sy'n amrywio o bileri lle arferid gosod pengoglau gelynion a laddwyd, i gerfluniau o bennau yr arwyr i luniau ceffylau a cherbydau rhyfel wedi eu naddu mewn carreg.
Hefyd, offer amaethyddol, pinnau cau a thlysau cain.
Yn wahanol Ger Veloux - neu Velous - tref fechan sy'n edrych allan dros lyn Berre ger y Camargue, ceir safle Roquepertuse.
Yn wahanol i'r ddau le arall y soniais amdanynt nid oedd neb yno yn gwarchod a dim tâl am ymweld â'r lle.
Un amser bu adeiladau ar y darn bach o wastatir ond yr unig olion a welir erbyn hyn yw muriau'r tai islaw.
Yng Nghymru buasai pwyllgor Iechyd a Diogelwch wedi cau'r lle ers blynyddoedd - a'r un modd Buoux o ran hynny.
Mae rhai o greiriau Roquepertus mewn amgueddfa fach ar frig pentre Veloux ond i weld y cyfan a gloddiwyd yno rhaid mynd i Marseilles a'r Vieille Charité, adeilad a godwyd i gartrefu'r tlodion yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chyrchfan twristiaid oherwydd ei arbenigedd.
Ond y mae'n gartref i amryw gasgliadau archeolegol, hefyd a'r mwyaf trawiadol o'r rhain yw creiriau Roquepertus, sy'n cynnwys pob math o bethau, gan gynnwys cerflun o'r duw Celtaidd Belenos - duw'r haul neu dduw goleuni.
Mewn enwau lleoedd Y mae olion Celtaidd eraill mewn amryw byd o enwau lleoedd fel Avignon - afon Ion (duw'r afon); Arles - ar laith ger tir corsiog y Camargue; a Ventoux - gwyn do lle mae'r mynydd yn wyn dan eira yn y gaeaf a'r garreg galch yn disgleirio yn yr haf.
Peth braf arall yw'r rhyddid a geir i grwydro'r mannau hyn - mae'r awdurdodau fel pe'n derbyn fod pobl yn gyfrifol a chall.
Hefyd, ar hyn o bryd, mae Ffrainc yn hybu diddordeb mewn treftadaeth, a hwnnw'n dreftadaeth bro.
|