Gyda mil o Lydawiaid ar bererindod yng Nghymru ym mis Awst bydd un o wasanaethau Brittany Ferries yn cael ei neilltuo'n llwyr i gludo'r pererinion sydd i fod i gyrraedd Casgwent ar Awst 6. Wedi bwrw noson yno byddant yn treulio noson wedyn yn Nhrefynwy, dwy noson yn Y Fenni a'r noson olaf ym Mrynbuga cyn dychwelyd i Lydaw ar Awst 12. Cofio Eisteddfod Y Fenni Hanner dydd, Awst 7, byddant yn ymgynnull yn Abaty Tyndyrn, un o'r canolfannau crefyddol a gysylltir â Dewi Sant. Hefyd, byddant yn dilyn rhannau o Glawdd Offa, yn cerdded ym Mynyddoedd Du Gwent ar Awst 9 ac yn cofio'r cysylltiadau a wnaed rhwng Cymru a Llydaw yn Eisteddfod y Fenni 1838. Y flwyddyn honno y daeth dirprwyaeth o Lydaw i'r Eisteddfod. Yn eu plith roedd y casglwr llên gwerin lliwgar Kervarker, gyda Carnhuawnawc, Gwenynen Gwent a'r Llydawr Francois-Alexis Rio oedd yn briod â merch Llanarth Court yn cymryd y lle blaenllaw yn y trefniadau. Pererindod o'r Canol Oesoedd Trefnir y bererindod gan Gymdeithas Llwybrau Tro-Breiz cymdeithas a sefydlwyd yn 1994 i atgyfodi pererindod enwocaf Llydaw y Canol Oesoedd. Yr adeg honno byddai pererinion yn ymweld â phob un o saith esgobaeth wreiddiol Llydaw mewn taith oedd bron iawn yn amgylchynu'r wlad. Yr esgobaethau oedd Kastell Paol, Landreger, Sant Brieug, Dol, Sant Malo, Gwened a Kemper. Cysylltiadau Cymreig Yr oedd i'r seintiau gysylltiadau Cymreig amlwg. O blith y rhain, roedd Peilyn yn Kastell Paol, Tudwal yn Landreger, Brioc yn Sant Brieg, Samson yn Dol a Malo yn Sant Malo i gyd o Dde Gymru. Nid oes sicrwydd ynglyn â Patern (Padarn?) sylfaenydd esgobaeth Gwened gyda rhai yn dweud ei fod yntau o Gymru tra bo eraill yn mynnu iddo gael ei eni yn Llydaw. Mae'n debygol, fodd bynnag, nad yr un gwr oedd Patern a Padarn. Corentin, nawddsant a sylfaenydd Kemper, yw'r unig un y gellir dweud yn bendant amdano nad oedd o Gymru. Rhannu'r daith dros flynyddoedd Wrth ystyried atgyfodi pererindod Tro-Breiz penderfynodd y trefnwyr nad oedd yn rhesymol yn yr oes brysur hon disgwyl i bobl gwblhau'r daith ar un cynnig felly trefnwyd y daith fesul wythnos bob blwyddyn gan gerdded o un Eglwys Gadeiriol i'r nesaf un flwyddyn, y darn nesaf y flwyddyn wedyn ac felly ymlaen. Cymerwyd o 1994 i 2000 i ail-gerdded y bererindod yn llawn. Yn 2001 dychwelwyd i ffynonellau crefyddol y bererindod gan gerdded y llwybr o Huelgoat i Abaty Sant Gwenole yn Landevennec. Eleni dychwelir i'r ffynhonnell hanesyddol i Gymru. Archwilio gwreidddiau "Tyfodd yn arfer yn yr oes hon i bobl ddychwelyd i archwilio'u gwreiddiau dyna ydyn ni'n wneud, dychwelyd i wlad ein geni," meddai'r trefnydd, Yannig Baron. "Mae gennym brofiad helaeth o drefnu'r teithiau hyn, bellach. Byddwn yn cerdded oddeutu 20 25 cilomedr y dydd ac erbyn hyn mae tua 10,000 wedi ymuno yn y teithiau hyn ar hyd llwybrau'r tadau." Ar y daith byddant yn aros mewn canolfannau chwaraeon ac ysgolion ac y mae'r daith wedi derbyn nawdd y Comisiwn Ewropeaidd drwy gynllun Diwylliant 2000. Ystyrir ei bod yn hybu Llydaw yn Llydaw a thu hwnt. Rhesymau gwahanol "Mae pobl yn ymuno â'r bererindod am wahanol resymau," ychwanegodd Yannig Baron. "Mae rhai yn gwneud am y pleser o gerdded a darganfod eu treftadaeth, eraill i gadarnhau eu hunaniaeth Lydewig a mwyfwy mae pobl yn darganfod yn y Tro-Breiz ryw atgyfnerthiad ysbrydol o'r newydd. "Mae'r mwyafrif llethol yn Llydawiaid sy'n byw yn Llydaw neu'n alltud o'u gwlad. "Rydym yn edrych ymlaen eleni at weld Brythoniaid Llydaw a'n brodyr a'n chwiorydd y Brythoniaid tu hwnt i'r môr' yn ymuno â ni mewn digwyddiad hanesyddol, ysblennydd." Am fwy o wybodaeth cysyllter â y gymdeithas.
|