Les Gallois ym Mharis
"Rwy'n caru Ffrainc, ond y broblem yw ei bod yn llawn Ffrancwyr."
Er gwaetha' geiriau sarhaus y newyddiadurwr ceir Jeremy Clarkson, mae Ffrainc yn parhau i ddenu mwy o dwristiaid nag unrhyw wlad arall yn y byd - 12 miliwn o wledydd Prydain bob blwyddyn.
Paris, wrth gwrs, yw un o'r prif atyniadau, yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd fel gwenyn i bot mêl.
Mae artistiaid a deallusion y byd yn dal i heidio i ddinas y goleuni am ysbrydoliaeth.
Profiad anffodus Er mod i'r peth pella' o fod yn artist neu'n ddeallusyn, ces innau fy nhemtio i redeg i Baris yn 2001.
Treuliais chwe mis arbennig yn byw yn ysblander y Quartier Latin tra'n astudio Ffrangeg ym Mhrifysgol y Sorbonne.
Er gwaethaf un profiad anffodus iawn yn ymwneud â sandalau a mynydd o faw ci ar balmant y Champs Elysée a bod yn argyhoeddedig fod pob gyrrwr car yn y ddinas yn ceisio fy lladd, dyma ddechrau perthynas glos â'r lle.
Ers hynny, rwyf wedi bod yn sychu'r llwch o'n beret ac yn dychwelyd yn rheolaidd i'r ddinas i ymweld â ffrindiau y bu i mi wneud tra'n astudio yno.
Dros y blynyddoedd, wrth gwrdd â phobl am y tro cyntaf, mae'r ymateb i'r geiriau "Je suis Gallois" wedi amrywio o, "Ah, Le Pays de Galles, le rugby!", i'r siomedig "Ah, zen yoo is ingleesh."
Felly, wrth drefnu fy mhenwythnos ddiweddara' yn y brifddinas Ffrengig, dyma fynd ati i feddwl beth oedd profiadau Cymry eraill y ddinas.
Cymry'r ddinas Fel dywed y gân, mae Paris ar ei gorau yn y gwanwyn, felly ar ôl cyrraedd Gare du Nord - ac yn dilyn y croeso cynnes arferol - sy'n cymryd tua thair awr ar ôl derbyn cusanau gan bawb - dyna fynd i grwydro a chwrdd ag un neu ddau o Gymry'r ddinas.
Un Cymro ifanc sydd wedi gwneud y gorau o'i gwta naw mis ym Mharis hyd yma yw Edward Jenkins, 20 oed, o Lan-y-Fferi ger Caerfyrddin.
Dros goffi, dywed mai "trwy fod yn y lle iawn yr amser iawn" y bachodd o'r "swydd ddelfrydol" yn gweithio fel gweinydd yn y Moulin Rouge, clwb cabaret hynaf ac enwoca'r byd.
Ymysg staff a dawnswyr y clwb - sy'n diddanu'r sêr a'r cyfoethog - mae'n cael ei adnabod fel y "Gallois". "Mae'n lle arbennig i weithio ac mae'n grêt gallu dweud bo fi'n byw a gweithio ym Mharis," meddai.
Ar ôl astudio'r Ffrangeg yng Ngholeg Glan Hafren, Caerdydd,, penderfynodd mai'r lle gorau i wneud defnydd o'i sgiliau ieithyddol fyddai'r brifddinas Ffrengig.
Er ei fod yn gweld eisiau Cymru - yn arbennig yr hiwmor - mae'r cyfle i siarad dim ond Ffrangeg bob dydd yn un arbennig meddai. "Mae lot o'm ffrindiau wedi gadael Caerfyrddin ac wedi symud i ddinasoedd fel Abertawe a Chaerdydd.
"Felly i fi, pam ddim jyst mynd ychydig bach ymhellach i ddinas fel Paris a dysgu iaith arall yr un pryd." Moulin Rouge - mae'n dweud ei fod yn blino weithiau gorfod egluro i rai nad yw Cymru yn rhan o Loegr. "Ond maen nhw'n deall y gwahaniaeth yn y diwedd. Gan bo fi'n siarad Ffrangeg a phan maen nhw'n deall bo fi ddim yn Sais, maen nhw'n lot mwy croesawgar."
Hawdd syrthio mewn cariad Mae Paris yn parhau i fod yn ganolfan academaidd bwysig.
Felly pa well le i gwrdd â myfyriwr am goffi (arall) yn y ddinas nag yn fy hen filltir sgwâr - ardal y prifysgolion - y Quartier Latin. Yn ôl Sara Davies, un arall o ardal Caerfyrddin, mae hi'n hawdd iawn syrthio mewn cariad â'r ddinas yma. "Mae hi'n ddinas hardd iawn. Wi'n meddwl fod na deimlad pentrefol yma ble mae pobol yn dod i nabod eu cymdogion fwy na sy'n digwydd gatre," meddai'r fyfyrwraig 21 oed.
Yn ystod ei blwyddyn yn y Sorbonne - sy'n rhan o'i gradd Ffrangeg yng Ngholeg Prifysgol Llundain - mae safon ei Ffrangeg, meddai hi, wedi gwella'n sylweddol.
Ond cymysg, meddai hi, yw'r ymateb i Gymru a'r Gymraeg ym Mharis. Wrth gofrestru yn y Sorbonne, awgrymodd un o weinyddwyr y coleg iddi wneud camgymeriad wrth ysgrifennu "Cymraeg" ar ei ffurflen - o dan ieithoedd eraill - ac mai Gaeleg y dylai hi fod wedi ei 'sgrifennu.
"Mae na rai yma yn dal i feddwl nad yw'r Gymraeg yn ddim byd mwy na Saesneg efo acen Gymraeg. Wi'n meddwl dechrau dosbarthu pamffledi rownd y ddinas i egluro'r gwahaniaeth."
Dysgu Cymraeg yn Ffrainc Un unigolyn sy'n corffori'r berthynas Franco-Gallois yw'r cerddor Jim Rowlands.
Yn wreiddiol o bentref Graigfechan ger Rhuthun, bu'r Cymro yn byw yn Ffrainc er 1993 ac wedi sefydlu ei hun yn ganwr yn perfformio ei frand o bop Celtaidd Cymraeg mewn cyngherddau ar hyd a lled Ffrainc.
Mwy trawiadol yw'r ffaith iddo ddysgu i siarad Cymraeg ar ôl cyrraedd Ffrainc - o lyfrau a thrwy wrando ar recordiau Dafydd Iwan a Meic Stevens - a'i fod wedi rhyddhau cryno ddisg uniaith Gymraeg yn Ffrainc.
Yn fab i Ffrances ac i Gymro di-Gymraeg maen awr yn byw ym Mharis ac erbyn hyn yn siarad ac yn cyfansoddi cerddoriaeth Gymraeg.
Mewn cyfuniad o Ffrangeg - perffaith - a Chymraeg, mae'n siarad yn angerddol am Gymru ac am newid delwedd Ffrancwyr o Gymru drwy ei gerddoriaeth. "Am ryw reswm, mae lot yma'n meddwl fod Elton John yn dod o Gymru," meddai gan chwerthin. "Dwi'n trio fy ngorau i addysgu Ffrancwyr am Gymru, felly rhwng caneuon dwi'n gallu eu hatgoffa nhw fod Cymru yn wlad unigryw lle maen nhw'n siarad iaith arall heblaw Saesneg."
Mae'r cerddor - sy'n gobeithio datblygu mwy o gysylltiadau cerddorol yng Nghymru a Llydaw - wedi rhyddhau sawl CD yn Ffrainc ac wedi perfformio â rhai o fawrion y sin Geltaidd.
Uchelbwyntiau iddo hyd yma fu perfformio yn y Stade de France cyn gêm Ffrainc Cymru a chanu efo Dafydd Iwan mewn cyngerdd gan Gymdeithas Cymry Paris.
"Mae Paris yn lle gwych i fyw ac i mi fel cerddor mae'n rhoi'r cyfle i allu cwrdd â chymeriadau diddorol a cherddorion eraill. A thrwy Gymdeithas Cymry Paris dwi'n gallu cwrdd â Chymry eraill a cheisio gwella fy Nghymraeg."
Dros gan mlynedd Mae'r gymdeithas hon wedi cynnig ffocws i rai o Gymry Paris am fwy na chan mlynedd.
Yn ogystal â'r cyngherddau a'r nosweithiau Cymraeg arferol, dathlodd y Gymdeithas ddydd Gŵyl Dewi y flwyddyn hon ym mwyty Cymraeg cyntaf Paris - Bwyty.
Er bod Ffrancwyr yn methu'n lân ag ynganu'r enw, derbyniodd y bwyty newydd hwn - wedi ei sefydlu gan Gymro o'r enw Gwilym Cox - adroddiadau gwresog gan feirniaid bwyd y brifddinas.
Wrth geisio ystyried faint o argraff y mae Cymry'n ei gael ar y ddinas, diddorol fyddai gwybod faint o drigolion Paris sy'n ymwybodol fod dau sydd wedi gadael eu marc ar Baris - y dyn busnes Syr Lindsay Owen-Jones a'r dylunydd dillad Julien Macdonald - yn hanu o Gymru.
Un ohonynt fel un o wŷr busnes amlycaf Ffrainc ac Ewrop ar ôl arwain y cwmni nwyddau cosmetig enfawr L'Oreal am 18 mlynedd, a'r llall yn dilyn cyfnod fel prif ddylunydd gyda'r sefydliad ffasiwn Ffrengig, Givenchy.
Anfodlonrwydd dwfn Ond er bod Paris yn parhau i apelio at ymwelwyr o'r fath, mae'n deg dweud i hon fod yn rhywfaint o année horrible i'r wlad.
Yn dilyn y bleidlais 'Na' yn y refferendwm Ewropeaidd, y cywilydd o golli i Lundain fel lleoliad Gemau Olympaidd 2012, terfysgoedd Hydref 2005 a'r protestiadau treisgar diweddar yn erbyn cynlluniau'r llywodraeth i daclo diweithdra uchel ymysg yr ifanc, bu'n rhaid i arlywydd Ffrainc, Jaques Chirac, gydnabod fod yna "anfodlonrwydd dwfn" o fewn cymdeithas y wlad.
Yn ôl rhai, mae'r helyntion diweddar yma'n atgyfnerthu'r teimlad nad yw Ffrainc wedi derbyn pwysau newydd gloabaleiddio a bod yna fwlch cynyddol rhwng y'r elite gwleidyddol a'r bobl gyffredin.
"Mae'r problemau diweddar wedi dangos fod yna styfnigrwydd, hunanbwysigrwydd ac ychydig o hiliaeth yn dal i fod yn y cymeriad Ffrengig," meddai Edward Jenkins. "Ond mae safon byw dda iawn yma felly wi'n deall pam eu bod nhw'n ceisio ei amddiffyn."
Mae'n ffasiynol ymysg rhai yng Ngwledydd Prydain i wawdio a chwyno am Ffrancwyr (à la Mr Clarkson), ond y rhain hefyd yw'r un bobl ag sy'n tyrru i'r wlad ar eu gwyliau - neu hyd yn oed yn symud yma'n barhaol - i fwynhau'r union safon o fyw y mae'r Ffrancwy'r yn ceisio'i amddiffyn.
Rwy'n dal i chwerthin wrth weld Americanwyr - yn eu hanoracs lliwgar - ger Notre Damme, fel plant bach gor gynhyrfus ar ôl yfed galwyni o goffi - am ddwbl y pris - yn arsylwi, "Wow, Pa-ree is, like, sooo awesome."
Ond dyma'n union pam y mae pobl yn tyrru yma, i smalio eu bod nhw'n Ffrancwyr.
Y ddelwedd o fod mewn caffi myglyd ar Lan Chwith y Seine yn trafod athroniaeth Sartre neu'n crwydro Monmartre i brynu baguette ffres.
Mae'n deg dweud fod bywyd ym Mharis yn gallu bod yn rhwystredig ar adegau ond er gwaetha'r streicio, y protestio a'r baw ci, mae hon yn dal i fod yn un o ddinasoedd arbennig y byd fydd yn parhau i hudo Cymry a mewnfudwyr o bob cwr o'r byd.
Wrth gymryd Métro am y Gare du Nord ac adre, diddorol oedd mynd heibio i grŵp o dwrisitiaid a'u harweinydd oedd ar gylchdaith Da Vinci Code o amgylch Paris.
Er bod olion y trais a'r protestiadau diweddaraf i'w gweld o hyd, mae'r ddinas yn symud yn ei blaen. Helynt un diwrnod, Hollywood y nesaf.
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
|