Mae blodeugerdd newydd o lenyddiaeth Lydewig yn codi cwr y llen ar y driniaeth enbyd a ddioddefodd y Llydawiaid ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae'r gyfrol Saesneg - The Turn of the Ermine - yn cynnwys cyfieithiadau o straeon byrion gan awduron o Lydawiaid sy'n disgrifio'n gignoeth y modd yr erlidiwyd gwladgarwyr oedd gefnogol i'r iaith a'r diwylliant.
Awduron oedd eu hunain wedi eu harteithio mewn carchar-wersylloedd ddiwedd y rhyfel, am ddim mwy na'u bod yn caru eu gwlad.
Golygwyd y gyfrol gan Jacqueline Gibson, Llydawes sy'n byw yn Aberystwyth ac yn gweithio yng Ngholeg y Brifysgol, a Gwyn Griffiths o Bontypridd sy'n awdur amryw lyfrau am Lydaw.
Llythyrau gwrth Lydawaidd Heblaw darnau o storïau o waith awduron fel Fañch Elies (Abeozen), Roperzh ar Mason, Per Denez a Valère Depauw o Fflandrys mae'r gyfrol yn cynnwys cyfieithiadau o ddetholion o blith cyfres o lythyron gwrth Lydawiaid a gyhoeddwyd yn Baner ac Amserau Cymru gan gychwyn yn Rhagfyr 1945, a pharhau'n ysbeidiol hyd ganol 1946.
Yr oedd y llythyrau bob un, ag eithrio un, yn tystio i gam-drin ac arteithio gan yr awdurdodau Ffrengig.
Yn ogystal â'r llythyrau clywodd y papur fod Roparz Hemon, ysgolhaig a llenor disgleiriaf a phrif ysgogydd y mudiad diwylliannol Llydewig yn yr ugeinfed ganrif, ar brawf ar gyhuddiad o gydweithio gyda'r Almaenwyr a'i fod yn debyg o gael ei ddienyddio.
Gyda chymorth Rhys J. Davies, gŵr o Lanelli oedd yn Aelod Seneddol Llafur Westhoughton, cafodd Baner ac Amserau Cymru ganiatâd arbennig i anfon gohebydd i'r llys yn Roazon (Rennes) lle yr oedd Hemon a brawf.
Gohebydd tramor Y gohebydd oedd myfyriwr ifanc o'r enw Dewi Watkin Powell - y Barnwr Watkin Powell wedi hynny.
"Yn ôl tystiolaeth a glywais gan Per Denez," meddai Gwyn Griffiths, "achosodd presenoldeb gohebydd 'tramor' gynnwrf mawr yn y llys, gwnaed galwadau ffôn brys i Baris, a'r canlyniad fu i Hemon yn y diwedd gael ei ryddhau heb ddim gwaeth na cholli ei hawliau dinesig.
"Aeth i Iwerddon lle treuliodd weddill ei fywyd fel ysgolhaig uchel ei barch."
Cafodd y Llydawiaid gwladgarol hynny a frwydrai i weld dysgu'r iaith yn yr ysgolion eu pardduo â chyhuddiadau o gydweithredu gyda'r Almaenwyr.
Yn ei Ragair i'r gyfrol mae'r llenor a'r cyhoeddwr Llydewig, Bernard Le Nail, yn gresynu bod yr hyn wnaeth dyrnaid o eithafwyr - amcangyfrifir bod tua 80 wedi cydweithio gyda'r Almaenwyr - yn cael ei ddefnyddio hyd y dydd heddiw, fel esgus dros erlid y Llydaweg.
Meddai Mr Le Nail: "Ar adeg pan oedd y rhan fwyaf o Ffrancwyr wedi ildio'u tynged i ddwylo Marshall Petain, dewisodd nifer fawr o Lydawiaid, mor gynnar â 1940, fynd i Loegr i barhau'r frwydr.
Ddiwedd 1940 Llydawiaid oedd 70 y cant o'r Gwrthsafiad er mai saith y cant o boblogaeth Ffrainc oedd y Llydawiaid."
Fel un gŵr Cododd Llydaw bron fel un gŵr yn erbyn yr Almaenwyr a'u gorfodi i barhau i ymladd yn Llydaw, onide buasai wedi bod yn llawer anos i'r Cynghreiriaid pan laniasant yn Normandi ym 1944.
Ond anghofiwyd am y dewrder a'r gwrhydri hwnnw wedi i'r brwydro ddod i ben. Ac y mae cysgod yr ensyniadau hynny yn drwm ar Lydaw hyd heddiw.
Nid y cyfnod modern yn unig a adlewyrchir yn y gyfrol. Mae'r ystod lenyddol a gynrychiolir yn y gyfrol swmpus a deniadol hon yn ymestyn o'r cyfnod Rhufeinig gan gynnwys disgrifiad Iwl Cesar o frwydr y Rhufeiniaid yn erbyn y Veneti.
Ceir cynrychiolaeth sylweddol o lenyddiaeth o'r cyfnod lle'r oedd hanes Cymru a Llydaw yn gorgyffwrdd, o blith gweithiau Gerallt Gymro a Sieffre o Fynwy, ymlaen i David Powel ac Edward 'Celtic' Davies nes cyrraedd yr ugeinfed ganrif gyda darnau o waith Dyfnallt ac Ambrose Bebb.
Dywed Gwyn Griffiths, sy'n byw ym Maesycoed, Pontypridd, iddo gael gwahoddiad i lunio'r gyfrol hon gan gwmni Francis Boutle yn 2001 yn fuan wedi cyhoeddi ei gyfrol Llydaw - Ei Llên a'i Llwybrau.
"Cytunais, ond yr oeddwn yn poeni nad oeddwn yn gymwys i fynd i'r afael â rhai agweddau o'r gwaith, ond un Sadwrn yr oeddwn yn rhoi darlith mewn ysgol undydd ar Lydaw ym Mhrifysgol Morgannwg," meddai.
"Un o'r darlithwyr eraill yn y gynhadledd oedd Jacqueline Gibson, o La Baule yn ne-ddwyrain Llydaw ond ei theulu'n dod Treguier yn y gogledd, a gofynnais iddi a fyddai ganddi ddiddordeb gydweithio ar gyfrol o'r fath.
"Cytunodd ar unwaith, ac er ei bod ar ganol traethawd doethuriaeth, rhoddodd y traethawd o'r neilltu."
Cafwyd mymryn o ragflas o gynnwys y gyfrol mewn darlith a rhoddodd Gwyn Griffiths i Gylch Cadwgan yn Creigiau ddechrau 2005.
Mae The Turn of the Ermine yn gyfrol hardd a swmpus, dros 500 o dudalennau. Fe'i cyhoeddir gan gwmni Francis Boutle, 272 Alexandra Park Road, Llundain N22 7BG,
Y pris yw £20.
|