|
|
Ewrop
Senedd gyda gormod o gartrefi Dydd Gwener, Mehefin 9, 2000
|
Biwrocratiaeth a gwastraff arian yn bygwth Senedd Ewrop Mae'r sgandal ddiweddaraf ynglyn â'r Senedd Ewropeaidd yn Strasbwrg yn ergyd arall i'r Undeb Ewropeaidd. Pam na fuasen nhw wedi dewis un adeilad? yw cwestiwn Gwydion ap Gareth. Mae'n sgandal ond nid un annisgwyl. Dywr' newyddion fod yr adeilad seneddol yn Strasbwrg yn cael ei gau dros dro oherwydd yr afiechyd legionella yn synnu neb. Mae hanes yr adeilad, fel stori ddiweddara Pont Menai, yn gyfres o broblemau. Symbol crand nad oes ei angen Yn annhebyg i'r bont, doedd dim angen yr adeilad yn Strasbwrg o gwbwl. Fel symbol crand, maer adeilad seneddol yn crynhoi gwendidaur Undeb Ewropeaidd. Yng nghanol y chwe gwesty crand ar saith cant o swyddfeydd modern mae salwch. Gwastraff moethus yw'r adeilad. Ar gyfer un wythnos o'r mis yn unig y mae aelodau seneddol yr Undeb Ewropeaidd yn teithio'r holl ffordd o'r senedd arall ym Mrwsel i Strasbwrg, er mwyn cywiro a phleidleisio ar ddeddfwriaeth. Yna, wedi'r wythnos, dychwelant i Frwsel lle mae sylfaen y gwaith yn cael ei wneud. Yn y senedd grand ym Mrwsel mae'r gwaith pwysig yn cael ei wneud. Ynghyd â'r senedd yno mae'r Comisiwn Ewropeaidd a nifer o weision suful. Mewn tair gwlad 'Nôl yn 1981 dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol y Senedd Ewropeaidd, Michael Palmer, mai gwendid y senedd oedd iddi gael ei chanoli mewn tair gwlad, Ffrainc (Strasbwrg), Belg (Brwsel) a Lwcsembwrg. Ugain mlynedd wedyn, dydi pethau ddim wedi newid ac mae mwy a mwy o gwyno am wastraff arian yr Undeb Ewropeaidd. Gellir cymharu rhesymeg Palmer a brwydr Rhodri Morgan i leoli Cymulliad Cymru yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Dadleuai Palmer dros Frwsel oherwydd ei bod yn ddinas haws ei chyrraedd ac hefyd oherwydd bod nifer o sefydliadau yr Undeb Ewropeaidd yno. O gartrefu'r aelodau seneddol ym Mrwsel byddai'n haws iddyn nhw gadw golwg ar y gwasanaeth suful a'r Comisiwn Ewropeaidd. Yr un ddadl ag un Morgan dros gael siambr y Cynulliad y drws nesaf ir Swyddfa Gymreig ym Mharc Cathays. Biwrocratiaeth a gwastraff yn hen hanes Mae biwrocratiaeth a gwastraff arian yr Undeb Ewropeaidd yn hen hanes. Newydd gael ei ddal yn hawlio £500 am daith £160 y maer ASE Ceidwadol Robert Goodwill o Loegr. Dyw'r math yma o beth ddim yn anghyffredin. Mae'r gwleidyddion yn dechrau poeni am y peth. Mewn oes pan fo sicrhau gwerth eich arian mor bwysig mewn gwleidyddiaeth, mae geiriau Palmer ddechraur wythdegau, yn disgrifior symud o un senedd ir llall, yn broffwydol: "Ar wahan i ddiffygion y trefniadau presennol, mae costau enfawr yn gysylltiedig â symud staff, offer a dogfennau rhwng Lwcsembwrg, Strasbwrg a Brwsel. Maer gost i'r senedd o gynnal ei chyfarfodydd ar dri safle gwahanol yn gyfrifol am tua 15 y cant o'i chyllid. Golyga hyn fod y gost yn 1979 oddeutu £12 miliwn." Mae'n costio mwy rwan. Cyllid senedd Ewrop yn y flwyddyn 2000 yw £610 miliwn. Gan ddefnyddio ffigurau Palmer, mae cost symud o Frwsel i Strasbwrg yn £91.5 miliwn. Pobol yn dechrau sylwi ar y costau Mae pobol ym Mhrydain wedi dechrau sylwi ar gostau uchel yr Undeb Ewropeaidd. Ym Mhrydain, pe byddai refferendwm ar ymuno âr "Ardal Ewro", byddai rhwng 60 a 70 y cant yn erbyn. Yn yr Almaen, maer Canghellor eisiau ail-ystyried cyfraniad yr Almaen i gyllid yr Undeb Ewropeaidd. Yn Ffrainc maer Arlywydd Chirac yn llawer llai brwdfrydig na Francois Mitterand o'i flaen. Mae teimlad bod yr Undeb Ewropeaidd yn gwastraffu arian ar fiwrocratiaeth a phethau di-angen. Mae cenhedlaeth newydd Ewrop - a anwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd - yn amharod i ymuno â rhywbeth sydd wedi'i fwriadu, yn wreiddiol, i atal rhyfel Ewropeaidd. Os ywr Undeb Ewropeaidd am ddenu cefnogaeth, am resymau economaidd ac nid oherwydd rhyfel, y gwneir hynny. Pan oedd sgil-effeithiaur rhyfel yn dal i ddylanwadu ar bobl Ewrop y cychwynnodd y mudiad Ewropeaidd am undod. Yn eironig, methu wnaethon nhw â chytuno ar un lle ar gyfer y sefydliadau. Yn 1952, penderfynwyd y dylai'r Llysoedd fod yn Lwcsembwrg, a'r cynulliad yn Strasbwrg. Ers hynny maer tair gwlad wedi brwydro dros gadw eu sefydliadau, sydd yn helpu twristiaeth a buddsoddiad mewnol ond yn tagu statws yr Undeb Ewropeaidd. Dydy'r frwydr a fu rhwng Abertawe a Chaerdydd, Machynlleth a Chaernarfon, ddim mor wirion o ystyried hyn. Fel Cymro ifanc, mae sefyllfa seneddol yr Undeb Ewropeaidd yn fy syfrdanu. Pan gynhaliwyd yr ornest am leoli Cynulliad Cymru, dychmygwch pe baent wedi dewis Meddyliwch pe byddent wedi lleoli'r Cynulliad yng Nghaerdydd, Machynlleth a'r Fflint oherwydd na allent gytuno ar un lle. Dychmygwydd aelodaur Cynulliad i gyd yn symud efo'u gilydd o Gaerdydd i Fachynlleth am wythnos bob mis - ac yna'n methu dod o hyd ir gweision suful priodol am eu bod draw yn Y Fflint! Mae senedd Strasbwrg, fel y ddinas ei hun, yn drawiadol ond mewn oes pan fo angen yr Undeb Ewropeaidd i amddiffyn cenhedloedd Ewrop yn y byd maen drueni bod cymaint o wastraff arian. Diolch i'r fath foethusrwydd, mae dyfodol yr Undeb, fel y ceir ar Bont Menai, yn uchelgais yn hytrach na realaeth.
|
|