gan Gwyn Griffiths - Mehefin 2008 Mae'r canwr enwog o Lydaw, Alan Stivell, wedi ymateb yn ffyrnig am i Ffrainc wrthod cydnabod ieithoedd bychain yng nghyfansoddiad y wlad.
Gwrthododd Senedd Ffrainc gynnig i wneud newid digon pitw i Gymal Cyntaf Cyfansoddiad y Weriniaeth a fyddai'n mynegi cydnabyddiaeth o fodolaeth ieithoedd sy'n "rhan o dreftadaeth Ffrainc."
Ei syfrdanu Wrth ymateb yn chwyrn i'r penderfyniad anelodd Alan Stivell ei ddicter mwyaf tuag at yr Academi Ffrengig, a gyhoeddodd ddatganiad yn annog y Senedd i wrthod y cynnig a ddaeth oddi wrth Gynulliad Ffrainc.
"Cefais fy syfrdanu'n arbennig gan y datganiad a arwyddwyd yn unfrydol gan yr ysgolheigion - gan Erik Orsenna hyd yn oed," meddai.
Yr oedd syndod arbennig ynglŷn â safbwynt y llenor Orsenna gan ei fod yn un o wrthwynebwyr adnabyddus globaleiddio.
"Dengys nad yw ein hysgolheigion - os ydynt deilwng o'r enw - yn perthyn i wareiddiad y ddynoliaeth," meddai Stivell. "Nodwedd gyntaf honno yw iddi godi o ymateb greddfol yr anifeiliaid tuag at reswm. Gwelsom y twpdra dinistriol anifeilaidd at bopeth o'u cwmpas yn eu hofn greddfol, afresymol, hunan-ddinistriol.
"Daw gwareiddiad ar y dydd pan roddir heibio gyfrannu at ddinistr trysorau anadferadwy ac amhrisiadwy dynoliaeth - ydy'r Academi'n tybio y medrant werthuso diwylliant? Beth yw barn yr academwyr hyn am fomio delwau'r Bwda gan y Taliban - annerbyniol, ond eto sy'n is yn nhrefn pwysigrwydd?"
Trosedd driphlyg Disgrifiodd bleidlais y Senedd fel trosedd driphlyg: "Trosedd yn erbyn deddfau rhyngwladol i noddi lleiafrifoedd di-amddiffyn yn erbyn sefydliadau mawr.
"Trosedd yn erbyn cyfreithiau Ffrainc sy'n gwahardd pob ffurf o hiliaeth a gwahanieithu.
"A throsedd yn erbyn gwareiddiad - yn hyn nid ydynt wedi codi uwchlaw greddf yr anifail."
Trist
Ac meddai'r awdur a'r cyhoeddwr Bernard Le Nail o Roazon (Rennes):
"Mae'n wirioneddol drist meddwl bod ein hiaith yn marw a bod y dosbarth llywodraethol yn gwbl ddall i hynny."
Pleidleisiodd y Senedd ddydd Iau diwethaf o 216 i 103 yn gwrthod cynnig gan Gynulliad Ffrainc.
Ymunodd pleidiau'r canol, y Comiwnyddion a rhai Sosialwr gyda'r mwyafrif UMP i drechu'r cynnig.
"Mae'n plant yn defnyddio iaith testuno, a rhaid atgyfnerthu'r Ffrangeg. Nid trwy roi lle i ieithoedd rhanbarthol mae gwneud hynny," oedd sylw dilornus y Seneddwr UMP, Jean-Pierre Fourcade, Hauts-de-Seine, Paris - agwedd nodweddiadol o'r mwyafrif gelyniaethus i ieithoedd eraill Ffrainc gan gynnwys y Llydaweg.
Pleidlais arlein A phan drefnodd y papur dyddiol Le Monde bleidlais arlein ar y pwnc ddydd Gwener, Mehefin 20, 2008, cefnogodd 55% benderfyniad y Senedd gyda 40% yn erbyn gan gefnogi cydnabod yr ieithoedd llai.
Ni allai 5% benderfynu y naill ffordd na'r llall.
Ond yn ôl Maryvonne Cadiou o Asiantaeth Newyddion Llydaw yr oedd geiriad holiadur Le Monde yn amwys a chredai fod amryw wedi'u drysu gan ffurf y cwestiynau.
Gwyn Griffiths.
|