|
|
|
Bore cyntaf Eisteddfod "wahanol" Sir Ddinbych |
|
|
|
Cyn saith o'r gloch y bore yr oedd cystadleuwyr wrth eu cannoedd yn heidio i faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ger Rhuthun.
Er llawenydd i bawb trodd cawod drom, gynnar, yn heulwen ac awyr las wrth i gystadleuwyr a'u rhieni heidio i'r maes, rhai a'u hesgidiau glaw am eu traed, eraill yn eu cario - rhag ofn.
Dechrau da Cafodd y Steddfod gychwyn da gyda chyngerdd agoriadol nos Sul yn deyrnged i Caryl Parry Jones a phob un o'r 1,600 o seddau yn y pafiliwn newydd yn llawn.
Pafiliwn yn un go wahanol i'r un a ddefnyddiwyd pan ymwelodd Eisteddfod yr Urdd a'r caeau hyn ddiwethaf, 14 o flynyddoedd yn ôl.
Gyda nenfwd uchel uwchben y llwyfan ni fydd goleuadau yn amharu ar olwg neb o'r gynulleidfa ar y gweithgareddau.
Creu yfory newydd Y perfformiad cyntaf un yn y pafiliwn oedd y sioe gerdd Plas Du gan Hywel Gwynfryn a Robat Arwyn nos Sadwrn ac un o linellau y sioe honno a ddefnyddiwyd gan gadeirydd yr Urdd, Rhiannon Lewis, wrth gyfarch y Wasg mewn cynhadledd bnawn Sul, "Creu yfory newydd bod dydd."
"A dyna mae'r Urdd yn ei wneud i bobl ieuanc a ieuenctid mewn adrannau, mewn aelwydydd a chyda gweithgareddau a chwaraeon," meddai gan gyfeirio at gyfraniad y mudiad yn meithrin doniau ieuenctid Cymru "er mwyn creu yfory newydd."
Ychwanegodd y bydd mwy o gystadleuwyr yn Rhuthun yr wythnos hon nag yn y Gemau Olympaidd a hynny "gyda dipyn llai o ffws" nag a wneir ynglŷn â'r rheini.
Hel arian Hyd yn oed cyn i'r giatiau agor gwelwyd arwyddion o lwyddiant ariannol yn ôl Sian Eirian, cyfarwyddwr yr Ŵyl a ddywedodd i bobl yr ardal gasglu £220,000 ar gyfer y gronfa leol.
Cafwyd £300,000 gan Gyngor Sir Ddinbych hefyd.
Y llynedd Yn fuan iawn daeth yn amlwg na fydd osgoi cymharu'r Eisteddfod hon ag un wahanol iawn Bae Caerdydd y llynedd wrth i'r eisteddfod ddychwelyd at yr hyn a alwodd Sian Eirian ei "gwreiddiau yng nghefn gwlad".
Ond prysurodd cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol, Alun Edwards, i ddweud nad cystadlu a'r llynedd fu nod Sir Ddinbych o'r cychwyn ond cynnal ei steddfod ei hun.
"Fu hi erioed yn fwriad gennym ni gystadlu â Chaerdydd. Eisteddfod wahanol fydd hon. Fydd hi ddim yn waeth a fydd hi ddim yn well - un wahanol fydd hi," meddai.
Talodd Mr Edwards deyrnged i weithgarwch pwyllgorau lleol:
"Mae'r pwyllgorau lleol wedi bod yn hel at ei gilydd ers dwy flynedd bellach, ac mae'r gwaith paratoi wedi bod yn frwd a manwl. Rydym wedi gwneud popeth posib i wneud hon yn Eisteddfod fythgofiadwy, ac edrychwn ymlaen i groesawu plant a ieuenctid Cymru i'r fro yr wythnos yma."
|
|
|
|
|
|