|
|
|
Cynllun gyrru diogel Canllawiau gyrru i'r ifanc |
|
|
|
Rhybuddiwyd mai pobl ifanc rhwng 17 a 25 oed yw'r rhai tebycaf i gael damwain wrth yrru ceir - oed llawer o'r rhai sy'n crwydro Maes Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon.
Ac er mwyn dangos pa mor ddifrifol y gall hynny fod yr oedd car faes yr Eisteddfod a fu mewn gwrthdrawiad pan yn teithio 40 milltir yr awr.
Yn y sedd flaen yr oedd model o yrrwr nad oedd yn gwisgo gwregys diogelwch wedi ei anafu'n ddifrïol ac yn waed diferol. Yn y sedd gefn yr oedd baban heb ei ddiogelu'n iawn, eto'n waed i gyd a'i ben wedi'i niweidio.
Gwahoddwyd pobl ifainc i ddysgu gwersi sylfaenol fel gwisgo gwregysau, defnyddio seddau diogel ar gyfer plant bychain ac i ganolbwyntio yn llwyr ar yrru trwy beidio â defnyddio ffôn symudol er enghraifft.
Ac er nad yw'n anghyfreithlon i blant eistedd mewn sedd flaen cafodd rhieni eu hannog i sicrhau sedd ddiogel yng nghefn y car iddynt.
Mae'r car ar y maes gydol yr wythnos ond ddydd Iau yr oedd y Gweinidog o'r Cynulliad, Alun Pugh, a Rosemary Thew, Prif Weithredwraig yr Asiantaeth Safonau Gyrru, yn bresennol ar gyfer digwyddiad a drefnwyd gan Pass Plus Cymru - corff sy'n cynnig hyfforddiant gyrru ychwanegol i yrwyr gyda chynllun wedi ei anelu yn arbennig at rai rhwng 17 a 25 oed ac yn cynnig 'gwersi' am gyfnod o naw awr.
"Mae Pass Plus Cymru wedi ei ddatblygu er mwyn ceisio lleihau niweidiau a marwolaethau ar ein ffyrdd ymysg gyrwyr yr oed hwn gan fod ystadegau yn dangos mai dyma'r grŵp tebycaf i fod mewn damwain - ac yn anffodus mae hynny'n ffaith bob yn ail ddiwrnod ar ffyrdd Cymru," meddai Tom Jones y Cyfarwyddwr Gweithgareddau wrth gyflwyno'r cynllun.
Pris arferol yr hyfforddiant yw £40 ond mewn rhai siroedd bydd am ddim.
"Mae hyn yn gyfraniad enfawr tuag at ddiogelwch gyrwyr o'r oedran yma," meddai Tom Jones.
Tynnodd sylw yn arbennig at effeithiau yfed a chyffuriau, blinder, pwysau gan gyfeillion, gyrru'n ymosodol, defnyddio ffôn symudol ac arferion gyrru gwael a goryrru.
|
|
|
|
|
|