|
|
|
Cofio Corwen 1929 Cystadleuydd eisteddfod gyntaf erioed yr Urdd ar y Maes |
|
|
|
GO brin fod gan neb ar y Maes ddydd Llun atgofion yn ymestyn yn 么l ymhellach na Beti Watson.
Yn 91 oed yr oedd Beti ymhlith y cystadleuwyr yn eisteddfod gyntaf yr Urdd, yng Nghorwen 77 o flynyddoedd yn 么l.
Adeg yr eisteddfod honno yn 1929 yr oedd Beti yn blentyn ym Metws Gwerfyl Goch ac yn chwarae rhan gwraig y prif gymeriad yn y ddrama John Homer yn un o gystadlaethau'r adran ddrama.
"Tua deuddeg oed oeddwn i, a dwi'n cofio hwyl yr ymarfer, a dwi'n cofio'r orymdaith, a gwneud baner fawr ar gyfer yr orymdaith," meddai.
"Mae gen i gof gwell o ddawnsio yn Eisteddfod Caernarfon y flwyddyn wedyn a chael blows newydd sbon i fynd i'r steddfod!" ychwanegodd.
Mae Beti yn byw yn Rhuthun ers deugain mlynedd erbyn hyn ac yn edrych ymlaen at weld ei gor-wyres, Erin Jones o Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych, yn cystadlu ar lwyfan go wahanol i'r un a droediwyd ganddi hi yr holl flynyddoedd yn 么l.
"Rydw i'n rhyfeddu at y gwaith sy'n cael ei wneud," meddai. "Yr oeddwn i yn y cyngerdd neithiwr ac yn rhyfeddu at y symudiadau a dwi'n amau a oes cystal yn Llundain hyd yn oed."
Gyda hi yn yr eisteddfod yr oedd gan Beti lun o'i chyfoedion o Fetws Gwerfyl Goch a fu'n cystadlu yng Nghorwen - gyda deuddeg ohonyn nhw yn dilyn gweithgareddau'r Eisteddfod gyda'r un diddordeb a Beti.
Ymhlith diddordebau Beti mae gwneud breichledau tlws allan o binnau cau er mwyn codi arian tuag at achosion da fel yr uned str么c mewn ysbyty lleol.
Dywedodd mai syniad a ddaeth o Dde Affrica yw ac mae'n defnyddio 80 o binnau cau ar gyfer pob breichled.
|
|
|
|
|
|