|
|
|
Taith anffodus Profiad chwithig ar 么l ennill tlws |
|
|
|
Yr oedd ei diwrnod yn llywydd y dydd yn yr Eisteddfod yn gyfle i Manon Elis ddwyn i gof ddigwyddiad anffodus pan enillodd hi un o dlysau Eisteddfod yr Urdd.
Ac yn gyfle hefyd i rannu cyfrinach am gyd-ddigwyddiad yn gynharach yr wythnos.
Yn adnabyddus fel Michelle yn y gyfres deledu Rownd a Rownd yr oedd Manon yn gystadleuydd - ac yn enillydd - cyson yn adran lefaru Eisteddfod yr Urdd.
Ond yn Eisteddfod Merthyr yn 1987 bu tro anffodus yng nghynffon buddugoliaeth.
"Yr oeddwn i yn fuddugol am lefaru yn yr adran 10 i 12 oed ac wedi ennill Tlws Coffa Orleana Mary Jones," meddai.
"Yn anffodus allwn i ddim dychwelyd adref gyda gweddill y criw o'r ysgol oherwydd bod angen imi aros ar 么l i wneud darllediad byw ar gyfer HTV.
"Pan oeddem ni yn trafeilio adref o'r diwedd ar 么l y darllediad yr oeddwn i'n teimlo'n ofnadwy o s芒l ac mi wnes i gyfogi drosof fy hun a thros y tlws yr oeddwn i wedi ei ennill," meddai.
A'r cyd-ddigwyddiad? Enillwyd yr union dlws hwnnw yn yr Eisteddfod yr wythnos hon gan Bethan Elin Owen
sy'n cael ei hyfforddi gan Anwen Jones, mam Manon!
"Mae'n dda nad oedd Bethan yn sylweddoli fod merch ei hathrawes wedi cyfogi dros y tlws, yr oedd hi yn ei dderbyn, yn ystod y daith yna o Ferthyr!" meddai Manon.
Gyda llaw, mae pump o'r enillwyr y mae eu henwau ar y tlws wedi eu hyfforddi gan fam Manon!
Rhagor am Lywyddion y Dydd
|
|
|
|
|
|