|
|
|
Medal Dysgwyr i ferch Tryweryn Ceryddwyd ysgolion Cymru am beidio ag annog plant i gystadlu am fedal dysgwyr Eisteddfod yr Urdd.
|
|
|
|
Wrth draddodi beirniadaeth cystadleuaeth y fedal a enillwyd gan Lauren Matthews o Gil-y-Coed, Sir Fynwy, dywedodd Geraint Glyn Jones, yn ei bod yn siom iddo ef a'i gyd feirniad, Non ap Emlyn, mai dim ond "chwech yn unig" a ymgeisiodd o 227 o ysgolion yng Nghymru.
"Y mae'n hynod siomedig fod 224 o ysgolion heb ddangos diddordeb," meddai, er y byddai'r gystadleuaeth wedi bod yn baratoad gwych ar gyfer arholiadau.
Galwodd ar yr Urdd i ddefnyddio dysgwyr llwyddiannus y gystadleuaeth i'w hyrwyddo gyda'r alwad, "Gymry, deffrwch bendith tad ichi."
Ymhlith yr ymgeiswyr dywedodd fod dwy ifanc iawn a oedd yn efeilliaid hefyd a'i anogaeth iddynt hwy oedd iddynt gystadlu eto y flwyddyn nesaf gymaint eu haddewid.
Canmolwyd yr ymgeiswyr i gyda gan y beirniad ond am waith Lauren sy'n astudio Cymraeg, Athroniaeth a Daearyddiaeth yn ysgol Cil-y-Coed - Caldicot - dywedodd:
"Mae yma flagur o lenor ar waith . . .un sydd yn ei gwaith llafar a'i gwaith llenyddol wedi ein plesio."
Yn ystod cyfweliad "meistrolgar" ar gyfer y gystadleuaeth dywedodd i Lauren drafod gwaith yr athronydd Kant - rhywbeth y byddai rhywun a'i iaith gyntaf yn Gymraeg wedi ei gael yn anodd.
Anfonodd Lauren draethawd, stori a llythyr i'r gystadleuaeth y cyfan yn ymwneud â Thryweryn a boddi cwm Celyn.
Dywedodd Lauren mai erthygl a ddarllenodd am y pwnc yn y Western mail a'i sbardunodd.
"Darllenais yr erthygl a meddwl gfod y digwyddiad yn rhywbeth pwysig yn hanes Cymru," meddai.
Wedi cwblhau ei arholiadau lefel A eleni gobaith Lauren yw mynd i'r brifysgol yn Llanbedr-pont-Steffan i astudio Cymraeg.
Mewn ardal fwy Cymreig na'i chartref dywedodd ei bod yn gobeithio am fwy o gyfle i ymarfer ei Chymraeg hefyd. Hi yw'r unig un o'i theulu sy'n medru siarad yr iaith a bu'n ei dysgu yn yr ysgol ers yn chwech oed.
Yn gydradd drydydd yn y gystadleuaeth yr oedd dwy o ffrindiau ysgol Lauren, Aimee Jones a Kirsty Hardin a theithiodd pawb gyda'i gilydd i'r Eisteddfod gyda mam Lauren a'u hathrawes Gymraeg, Miss Davies.
|
|
|
|
|
|