|
|
|
Theatr yn cynnig cyfle Sgrifennu yn hobi i enillydd medal lenyddiaeth |
|
|
|
Cafwyd gair o ddiolch am y cyfleon y mae'r theatr Gymraeg yn ei gynnig i ysgrifenwyr newydd gan enillydd Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd 2006.
Yr oedd Manon Wyn yn siarad gyda'r wasg wedi iddi gael ei hurddo ar lwyfan y brifwyl yn dilyn canmoliaeth y beirniaid, Luned Emyr ac Elfyn Pritchard i'w gwaith.
Mater o ddyfal barhad fu hi yn achos Manon a chyrhaeddodd y brig y flwyddyn olaf y gall gystadlu a hithau'n awr yn 24oed.
Yr oedd eisoes wedi dod yn drydydd yn yr un gystadleuaeth ddwy flynedd a bu'n ail am y Goron ddwywaith yn olynol.
Dywedodd mai hobi yw sgrifennu iddi a'i bod yn sgrifennu bob cyfle gaiff hi.
Yn ystod cyfnod yn teithio ynysoedd Cefnfor yr India dywedodd iddi dreulio deufis yn sgrifennu.
Hyd yn hyn ym maes y ddrama y profodd ei llwyddiant pennaf gyda drama fer ganddi wedi ei llwyfannu gan Sgript Cymru ac yr oedd hi hefyd yn un o'r pedair a sgrifennodd ar gyfer arbrawf cynhyrchiad Dominos Theatr Genedlaethol Cymru - gyda'r cynhyrchiadyn cael croeso cyffredinol gan adolygwyr.
Y mae hi ar hyn o bryd yn gweithio ar waith comisiwn ar gyfer yr un cwmni a mynegodd ei gwerthfawrogiad o'r cyfleoedd sy'n cael eu gynnig i sgrifennwyr ieuanc ym myd y theatr y dyddiau hyn.
"Mae mwy o gyfleoedd i sgrifennu drama ond doedd hi erioed yn fwriad gen i sgwennu drama yn unig," meddai gan ychwanegu ei bod yn hoff o bob ffurf o ryddiaith.
"Mae sgwennu yn hobi imi," meddai.
Un o'r pethau a wnaeth argraff arfeirniaid y gystadleuaeth oedd ei chynildeb.
"Mae yna gynildeb yn y dweud, a'r awdur yn amlwg yn hyderus ac yn dotio wrth drin geiriau," meddent.
|
|
|
|
|
|