Brawddeg y dydd heddiw gan Islwyn Evans, Cyfarwyddwr Ysgol Gerdd Ceredigion, Llywydd y Dydd.
Wrth bledio rhywfaint o bnerfusrwydd yn wynebu'r Wasg dywedodd:
"Fel rheol fy nghefn i sydd at y gynulleidfa."
Yn y llun mae parti Adran Emlyn yn ymarfer ar gyfer cystadleuaeth 'ensemble'.
Testun edmygedd yn un o'r mesydd parcio ger maes yr Eisteddfod yw triongl wedi ei adeiladu o fyrnau crwn (ydi hynny'n bosib dwch?) gan ffermwr lleol yn lliwiau'r Urdd.
Mae'r Cardis yn trio popeth i dynnu sylw at yr Wyl a hynny wedi creu cryn argraff ar deithwyr i'r Eisteddfod.
I gael canlyniad cystadleuaeth yn ystod Eisteddfod yr Urdd does ond rhaid tecstio Urdd+rhif y gystadleuaeth+66663.
Hwylus
Mae'n siom iddo ef, meddai un o lywyddion anrhydeddus yr Eisteddfod, Geraint Thomas, nad yw plant sy'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn aros yng nghartrefi ei gilydd erbyn hyn.
"Mae'n golled nad yw'r plant yn cael aros yn y broydd - ddim yn cael aros mewn cartrefi yn y gogledd ac yn y de," meddai mewn cyfarfod ar y maes ddydd Sul.
Darllen gweddill y cofnod
Mae'r darnau o sgyrsiau pobl eraill nad ydych fod i'w clywed bob amser yn ddifyr.
Dyma gychwyn y bore ma ein casgliad arferol o faes a chyffiniau'r Eisteddfod.
- Synnwyd rhai ymwelwy a phlasdy Llanerchaeron ddydd Sul gan yr holl firi a phebyll ar dir y plas.
Saesneg oedd y sgwrs rhwng tair hen wraig a dwy ffon yn cerdded tuag at y ty:
"A hundred thousand visitors they're expecting you know," meddai un.
"What, today?" meddai un arall.
"I don't know about today - it might be on all weekend," meddai'r gyntaf.
.
- Ac wrth basio tai bach ar y maes rhannodd un hen fachgen ar ei ffordd i'r cyngerdd agoriadol athroniaeth bywyd bwysig:
"Fe fyddai'n trioi, byth i basio toiled gwag. Jyst rhag ofn byddai angen un nes ymlaen!"
"Estyn dy law" oedd thema gwasanaeth crefyddol yr Eisteddfod fore Sul gyda phobl ifainc Ceredigion yn cymryd rhan.
Y dwylo yn y gwasanaeth, a luniwyd gan y Parchedig Dafydd Tudur, oedd llaw Duw, llaw Iesu Grist yn cael eu hestyn tuag at ddyn ac, yn addas iawn yng nghyd-destun yr Urdd, llaw dyn yn estyn cymorth tuag at gyd-ddyn.
Ar ein gwasanaeth iPlayer gellir gwrando arno ef yn sôn am y gwasanaeth ar Bwrw Golwg a ddarlledwyd fore Sul.
Beth bynnag arall ddaw o'r Eisteddfod hon mae un llwyddiant diamheuol weddi ei sicrhau yn barod.
Cyngerdd Plant y Fflam disgyblion ysgolion uwchradd yr ardal a berfformiwyd gyntaf nos Wener yn Theatr Felinfach gerllaw.
Darllen gweddill y cofnod
Mae'r wobr am yr arwydd cyntaf o Eisteddfod yr Urdd 2010 yn mynd i Dalybont rai milltiroedd i'r gogledd o Aberystwyth.
Yno y gwelais faneri coch gwyn a gwyrdd gyntaf a symbolau'r Urdd ar ochr y ffordd.
Darllen gweddill y cofnod
Teledu du a gwyn, newid byd Mike Phillips, dyfodol neuadd Gymraeg - rhai o'r pethau gafodd sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau ers dydd Gwener diwethaf.
Ein casgliad wythnosol o ddyfyniadau a gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr a'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr.
Darllen gweddill y cofnod
Dathlu daucanmlwyddiant geni pensaer a fu'n goruchwylio gwaith ar y Palas Crisial yn Llundain a bardd a siomwyd y mse rhifyn cyfredol papur bro Y Gadlas.
Cofio dyn go arbennig yn ei fro ei hun. Fe'i ganwyd yn nhafarn yr Harp, Llanfair Talhaiarn a bu'n gweithio i gwmni o benseiri eglwysig yn Llundain ar ôl ei brentisio cyn cael ei benodi i oruchwylio'r gwaith ar y Palas Crisial yn 1851.
Darllen gweddill y cofnod
Teimlad od ydi bod yn wahanol ac mi ddaeth hynny yn eglur i mi ar ôl bod yn gweld cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru - dwy ddrama fer un gan awdur newydd a'r llall gan Saunders Lewis.
Er yn ddigon difyr yn eu ffordd bu'n rhaid i mi gyfaddef na chefais i mo'n argyhoeddi fod hwn yn gynhyrchiad theatr genedlaethol gwlad ac yr oedd nifer y gynulleidfa y noson y bum yn gweld y dramâu yn codi'r cwestiwn a yw'r cwmni yn gwybod beth mae'r gynulleidfa Gymraeg ei eisiau.
Darllen gweddill y cofnod
Heb feirniaid fyddai yna ddim Eisteddfod wrth gwrs. Mae cymaint o'u hangen nhw ag sydd yna o angen cystadleuwyr!
Ond ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd fel hyn, a'r Eisteddfod Genedlaethol o fewn cwta hyd cae, cafwyd cwyn yr wythnos diwethaf nad yw beirniaid yn cael y parch a haeddant bob amser.
Darllen gweddill y cofnod
Roedd Rhian Price ar ddyletswydd gefn llwyfan ar ddiwrnod cyntaf Penwythnos Mawr Radio 1 yn Y Faenol Mai 22 2010.
Dyma bigion o'r diwrnod.
11:30 Fy nyletswydd yw loetran wrth y llwyfan dawns awyr agored, a bod yn barod ar amrantiad i ddatgan cyhoeddiadau diogelwch yn y Gymraeg petae argyfwng yn codi.
Negeseuon megis: 'Gyfeillion ... oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth, mae'n rhaid stopio'r sioe'.
Neu: 'I sicrhau diogelwch y rhai agosaf at y llwyfan, ar ôl Tri, a wnaiff pawb gymryd tri cham yn ôl'.
Bydd cyd-wirfoddolwr yn dod draw i gymryd fy lle o bryd i gilydd - fydd yn gyfle i mi ymweld a'r llwyfannau eraill.
Darllen gweddill y cofnod
Sgrifennu llythyrau, camp Caerdydd, cyfrinachau'r stafell wely - rhai o'r pynciau gododd eu pennau yn ystod yr wythnos wythnos yn y wasg ac ar y cyfryngau.
Dyma'r dyfyniadau:
Darllen gweddill y cofnod
Doniau'r ardal ei hun fydd yn rhoi cychwyn i Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron ymhen ychydig dros wythnos.
Ar lwyfan y cyngerdd agoriadol bydd enillwyr o Geredigion yn eisteddfodau'r Urdd yn y gorffennol - a'r hyn sy'n rhyfeddol yw faint o ddoniau amrywiol mae'r ardal hon wedi gynhyrchu.
Darllen gweddill y cofnod
Hyfryd oedd clywed o'r Å´yl Fedwen Lyfrau ddiweddar yn Llanrwst mai un a fu'n cadw siop llyfrau Cymraeg yn y dref honno am flynyddoedd lawer a enillodd y wobr y tro hwn am gyfraniad oes i'r diwydiant llyfrau Cymraeg.
Anodd dychmygu heddiw cymaint o fenter oedd agor siop llyfrau Cymraeg yr holl flynyddoedd hynny yn ôl ond mi fentrodd ac mi lwyddodd Arianwen Parry ac er bod y siop wedi newid dwylo dair blynedd yn ôl mae'n dal i fynd.
Darllen gweddill y cofnod
Yr oedd Guto'r Glyn a minnau yn yr ysgol efo'n gilydd - hynny yw yr oedd rhai o'i gywyddau yn destun astudiaeth ar y cwrs Cymraeg.
Yr oedd o'n dipyn o arwr i'r hogiau mewn gwirionedd yn mynd yn groes i'r darlun arferol oedd gan rywun o fardd yr adeg honno.
Darllen gweddill y cofnod
Steddfod, gwleidyddiaeth, awyrennu a gyrru gwallgof - ail flasu'r wythnos trwy gofio rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau ers dydd Gwener diwethaf.
A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr.
Darllen gweddill y cofnod
Yr wythnos diwethaf mi wnes i osgoi o fwriad gyfeirio yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at yr etholiad cyffredinol rhag sathru unrhyw gyrn gwleidyddol yn anfwriadol neu'n fwriadol.
Erbyn hwn, wrth gwrs, mae rhwydd hynt i rywun ddweud yr hyn a fyn heb ofni dylanwadu ar y canlyniad yn lleol, yn genedlaethol neu'n Brydeinig.
Darllen gweddill y cofnod
Ar ddiwedd wythnos sydd yn dirwyn i ben mewn ansicrwydd gwleidyddol cyfle i ail flasu rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau ers dydd Gwener diwethaf.
A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr â'r .
Darllen gweddill y cofnod
Un o gampau Sion Blewyn Coch Llyfr Mawr y Plant ers talwm oedd torri i mewn i gwt ieir Eban Jones a chyda hynny mewn cof roedd yn ddiddorol iawn darllen yn Y Ffynnon, papur bro Eifionydd, am gwt ieir a fyddai'n her i'r Blewyn Coch ei hun hyd yn oed.
Mae tipyn o hanes i'r campwaith:
Darllen gweddill y cofnod
Difyr gweld nad oeddwn yr unig un a siomwyd â seremoni cyhoeddi Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn ym Mangor ddechrau'r mis.
"Gwachul," yw disgrifiad y llenor a'r beirniad llenyddol John Rowlands o'r achlysur yn rhifyn Mai 2010 o - ef, wrth gwrs, yn un a allai fod wedi ennill y wobr pe byddai mewn bodolaeth pan oedd ar ei anterth.
Darllen gweddill y cofnod