³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth

Archifau Chwefror 2008

Podlediad

Vaughan Roderick | 13:41, Dydd Gwener, 29 Chwefror 2008

Sylwadau (1)

Mae 'na bodlediad newydd a'r gael sy'n cynnwys "Dau o'r Bae" a John Stevenson yn bwrw golwg ar yr etholiadau lleol yng Ngogledd Cymru. Gwasgwch y botwm ar y dde.

O'r Pulpud

Vaughan Roderick | 13:35, Dydd Gwener, 29 Chwefror 2008

Sylwadau (1)

Gan nad yw'r rhain yn cael rhyw lawer o sylw gan amlaf dw i wedi penderfynu cyhoeddi ambell i ddatganiad Gŵyl Dewi gan ein harweinwyr crefyddol. Dau yn arbennig sy wedi denu fy sylw. Hwn yn gyntaf gan Esgob Tyddewi.

"Yr wyf yn llongyfarch y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog yn eu swyddi allweddol yn llywodraeth glymblaid newydd Cymru. Cefais y pleser o arwain Esgobion yr Eglwys yng Nghymru i fabwysiadu cyfres o gynlluniau ledled Cymru wedi eu sylfaenu ar fframwaith strategol Cymru'n Un. Yr ydym o ddifrif ynglŷn â Chymru'n Un, ac yr ydym yn sicrhau holl aelodau'r cabinet a'r Cynulliad o'n cefnogaeth wrth wynebu'r sialensiau sydd o'n blaen."

Mae'n ymddangos bod yr Eglwys yng Nghymru, er gwaetha'r degawdau ers y datgysylltiad o hyd yn hoff o ymddwyn fel Eglwys Sefydledig! A fydd cytundeb Cymru'n Un yn rhan o'r gyffes ffydd maes o law?

Nawr dyma ddatganiad gan yr Annibynwyr;

Bydd y Cymry yn darfod fel cenedl os na awn ni nôl at ein gwreiddiau Cristnogol - dyna rybudd difrifol Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y Parchg Dewi Myrddin Hughes yn ei neges Gŵyl Ddewi. "Fe wnaeth y ffydd Gristnogol a'r genedl gyrraedd gyda'i gilydd - tua mil a hanner o flynyddoedd yn ôl," meddai "ac mae'r ddau wedi cynnal ei gilydd fyth ers hynny."

"O gyfnod Dewi Sant tan ein dyddiau ni, mae'r genedl Gymreig wedi wynebu peryglon mawr. Fwy nag unwaith, bu ond y dim inni ddiflannu. Ond rhoddodd Duw bobl ardderchog i'n dysgu ac i'n harwain : Dewi Sant ei hun a'r holl seintiau eraill sydd a'u henwau'n fyw yn ein 'Llannau' hyd heddiw ; William Morgan, a ymestynnodd oes yr Iaith Gymraeg drwy gyfieithu'r Beibl ; merthyron fel John Penri, ac emynwyr mawr fel Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths."

Ond eto, meddai Mr Hughes, er gwaetha'r hyder newydd a ddaeth yn sgil datganoli gwleidyddol, digon bregus yw bywyd y genedl. "Mae'r wasgfa yn fawr, a gyda'r iaith Saesneg yn ymwthio i bobman, ac mor gryf, ofnwn weld y Gymraeg yn cael ei thagu. Rydym ninnau yn aml yn wangalon ; nid yw'r taerineb i gadw'r iaith yn fyw yn ddigon cryf ynom. Rhaid i ni ddal ein gafael yn yr iaith, y ffiol hon sydd wedi cynnal y ffydd ar hyd y canrifoedd."

Ydy'r Iaith a Christnogaeth mor ddibynnol ar ei gilydd erbyn hyn? Os fu 'na gynnydd ym myd y Capeli yn ystod y blynyddoedd diwethaf yng Nghapeli Efengylaidd Saesneg a Chapeli'r Bedyddwyr Saesneg y mae e wedi bod. Mae'r syniad y byddai adfywiad crefyddol yn arwain at adfywiad ieithyddol wastad wedi taro fi fel un weddol ddi-sail. Wedi'r cyfan gwnaeth diwygiad 04-05 fawr ddim i atal dirywiad yr iaith yn hanner gyntaf y ganrif ddiwethaf. Ta beth am hynny fe fyddai'n Nhad-cu yn falch fy mod wedi rhoi mensh i’r hen enwad!

Pregeth gan Peter

Vaughan Roderick | 15:24, Dydd Iau, 28 Chwefror 2008

Sylwadau (3)

Mae Peter Hain wedi mentro yn ôl i'r llwyfan cyhoeddus gydag araith yn Nhŷ’r Cyffredin ac e-daflen yn amlinellu ei weledigaeth ynghylch dyfodol Cymru. Fe fydd y daflen yn ymddangos ar safle yn y man.

Mae'r cyn-ysgrifennydd yn ofalus i beidio â beirniadu llywodraeth y cynulliad one mae e yn mynegi pryder ynghylch dyfodol economi Cymru oherwydd yr hyn mae fe'n gweld fel gorddibyniaeth ar y sector gyhoeddus.

Dyw'r ffigyrau y mae Peter yn eu dyfynnu ddim yn rhai newydd ond maen nhw'n werth eu hail-adrodd. Mae gwariant cyhoeddus yn 59% o GDP Cymru o gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig o 44%. Yn ôl aelod Castell Nedd dyw e hi ddim yn bosib adeiladu economi ffyniannus heb leihau’r orddibyniaeth yna ar y sector gyhoeddus. Er mwyn cau'r bwlch mae'n dadlau y dylai llywodraethau Bae Caerdydd a San Steffan geisio sicrhâi bod y sector breifat yng Nghymru yn tyfu'n gynt nac yng ngweddill Prydain.

Sut mae gwneud hynny? Wel mae gan Peter gyfres o awgrymiadau ond efallai mai'r mwyaf dadleuol yw hwn; "penderfyniadau anodd ynghylch gwariant cyhoeddus gyda moratoriwm ar gynlluniau rhad ac am ddim er mwyn buddsoddi mewn creu economi gystadleuol."

Nawr dw i ddim am roi geiriau yng ngheg Peter ond dw i'n meddwl ei fod yn cyfeirio yn fan hyn at rai o'r polisïau sydd wedi nodweddi "dwr coch clir" Rhodri Morgan pethau fel dileu taliadau presgripsiwn a theithio rhad i bensiynwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus. Dw i'n sicr nad yw Peter yn dadlau dros ddileu'r cynlluniau hynny, yn hytrach mae'n rhybuddio y dylai llywodraeth y cynulliad ochel rhag y temtasiwn i brynu poblogrwydd yn y dyfodol.

Mae'r neges yn un amserol. Roedd 'na duedd ym mlynyddoedd cynnar y cynulliad i wleidyddion y Bae geisio profi eu gwerth trwy ddelifro cynlluniau symbolaidd. Gydag arolwg barn y ³ÉÈËÂÛ̳ a gyhoeddir heddiw yn awgrymu bod datganoli bellach yn cael ei dderbyn gan y mwyafrif llethol o bobol Cymru efallai bod yr amser wedi dod i fuddsoddi ar gyfer y tymor hir.

Ffrindiau o'r diwedd?

Vaughan Roderick | 12:10, Dydd Iau, 28 Chwefror 2008

Sylwadau (1)

Mae'r dirprwy weinidog dros adfywio, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi y bydd Dr Tim Williams yn cymryd rôl blaenllaw yng nghynlluniau adfywio llywodraeth y cynulliad.

Heb os mae hwn yn benodiad da. Does bron neb yn fwy profiadol yn y maes na Tim. Ar y llaw arall mae 'na rywbeth braidd yn eironig yn fan hyn. Roedd Leighton wrth gwrs yn un o brif strategwyr yr ymgyrch IE yn refferendwm 1997. Roedd Tim, ar y llaw arall, yn un o'r llond dwrn o Gymry Cymraeg ac aelodau Llafur oedd yn ymgyrchu dros bleidlais NA. O am fod yn bry ar wal.

Un i'r anoraciaid

Vaughan Roderick | 11:05, Dydd Iau, 28 Chwefror 2008

Sylwadau (3)

Dyma gwestiwn bach diddorol. Ym mha etholaeth yn y Deyrnas Unedig mae nifer yr etholwyr wedi cynyddu fwyaf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? Pe na bawn i'n gwybod yr ateb byswn yn mentro swllt ar ryw le fel De Caerdydd a Phenarth neu etholaeth debyg yn un o ddinasoedd Lloegr lle mae fflatiau wedi bod yn codi fel madarch yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ond nage wir. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol o'r chwe chant a rhagor o etholaethau yr un sydd a'r cynnydd mwyaf yw Cwm Cynon. Yn ôl y swyddfa mae'r nifer ar y gofrestr wedi cynyddu 5,523 neu ddeuddeg y cant. Gorllewin Belfast sydd nesaf ar y rhestr gyda chynnydd o ddeg y cant ond gan fod trigolion mynwentydd yr etholaeth honno â record dda am bleidleisio dw i ddim yn meddwl bod hi'n cyfri.

Beth sy'n gyfrifol am y cynnydd rhyfeddol yng Nghwm Cynon? Oes 'na ryw fflatiau moethus yn sydyn wedi ymddangos yn Abercwmboi? A welwyd stad enfawr o dai yn codi dros nos yng Nghwmbach? Go brin. Yr esboniad, dybiwn i, yw bod rhywun wedi bod yn recriwtio pleidleiswyr. Digwyddodd yr un peth yn y Rhondda rhai blynyddoedd yn ol gan ail-sefydlu'r ddau gwm fel cadarnleoedd Llafur. Os ydy Llafur yn gwneud yr un peth yng Ngwm Cynon mae gan Blaid Cymru le i fecso.

Cyn i unrhyw un fy nghamddeall mae unrhyw ymdrech gan unrhyw blaid i berswadio pobol i gofrestru a phleidleisio yn beth da ond does dim dwywaith bod pleidlais uchel yn Rhondda Cynon Taf wastad yn ffafrio Llafur.

Mae 'na fran i bob deryn du ac mae'n ymddangos bod y sefyllfa yn gwbwl gwahanol yng Nghaerffili- y fwrdeistref drws nesaf. Yr etholaeth lle mae'r nifer o bleidleiswyr wedi gostwng fwyaf yn y flwyddyn ddiwethaf yw Islwyn (-10.4%) a chanlyniadau wardiau'r etholaeth honno sydd yn draddodiadol yn penderfynu p’un ai Llafur ai Plaid Cymru sy'n rheoli yn Ystrad Fawr.

Dathlu Dewi

Vaughan Roderick | 17:58, Dydd Mercher, 27 Chwefror 2008

Sylwadau (0)

Ydy, mae'r amser yna o'r flwyddyn wedi cyrraedd eto. Wythnos Gŵyl Ddewi a mudiadau ar hyd a lled Cymru yn cystadlu a'i gilydd i lunio styntiau i nodi'r achlysur. Dyma ddau sydd wedi ein cyrraedd heddiw.

YMUNWCH Â 'TEGWEN Y FUWCH' I DDATHLU’R IAITH GYMRAEG

"Bydd model maint llawn o fuwch odro, a elwir yn Tegwen, yn cael lle blaenllaw pan fydd Undeb Amaethwyr Cymru a Hybu Cig Cymru yn dathlu’r iaith Gymraeg ym Marchnad Ffermwyr Aberystwyth ar Dydd Gŵyl Dewi .
Mae Tegwen, sydd wedi’i phaentio’n lliwiau baner Cymru, yn un o 14 o ‘wartheg godro’, sy’n cynrychioli pob gwlad sy’n aelod o Fwrdd Llaeth Ewrop, a wnaethpwyd yn arbennig ar gyfer pwysleisio’r alwad am bris teg am laeth i ffermwyr yr Undeb Ewropeaidd."

CLWB RYGBI XIII Y CRUSADERS

"Ar hanner amser fe fydd criw o Goleg Pen-y-bont yn ceisio torri'r record byd am bic ar y maen. Y nod yw coginio cacen pum troedfedd ar draws i'w rhannu rhwng y dorf. Dywed Carwyn Jones "os ydy'r myfyrwyr yn llwyddo fe fydd hwn yn orchest ragorol i Gymru."

Rwy’n addo i chi dydw i ddim yn gwneud y pethau yma i fyny. Ni allaf ddianc rhag hon.

CF99

Vaughan Roderick | 15:19, Dydd Mercher, 27 Chwefror 2008

Sylwadau (0)

Duw, mae 'na bobol bwysig ar CF99 heno! Dylan Jones Evans, Geraint Talfan Davies a Winston Roddick QC yw'r gwesteion.
Ymhlith y pynciau mae sut mae gwerthu Cymru dramor a rôl cymdeithas sifil yn ein gwleidyddiaeth. Yn fyw o'r senedd ar S4C heno am 9.30.

Ffeit!

Vaughan Roderick | 11:45, Dydd Mawrth, 26 Chwefror 2008

Sylwadau (1)

Mae Dydd Gŵyl Dewi'n dod. Roedd 'na Ddraig Goch ar y wal a daffodils ar y ddesg yng nghynhadledd newyddion y llywodraeth heddiw a Rhodri Morgan mewn hwyliau da wrth draethu ar bopeth o lwyddiant y tîm rygbi i hawliau dynol yn Tsiena.

Ond roedd 'na eithriad, un pwnc lle'r oedd ymateb y Prif Weinidog yn ddigon swrth. Pan ofynnais iddo beth oedd yn digwydd ynghylch yr ELCO iaith a'r strategaeth addysg Gymraeg dyma oedd ei ymateb "Mae'n anodd iawn gwneud running commantary ar y pethau 'ma...mae'r strategaeth hefyd yn mynd ymlaen". Nawr, o gofio safonau arferol Rhodri a'i barodrwydd i barablu am unrhyw beth dan haul bron mae'r ateb cwta hwnnw yn rhyfeddol.

Pam felly yr oedd Rhodri mor amharod i draethu? Wel, mae 'na esboniad syml. Yn enwedig yn sgil yr helynt ynghylch "Y Byd" mae Plaid Cymru yn benderfynol o ddelifro ELCO fydd yn plesio cenedlaetholwyr ieithyddol. Mae Llafur ar y llaw arall yr un mor benderfynol na ddylid cymryd unrhyw gam allai arwain at orfodaith yn y sector breifat. Mae'n debyg bod sawl trafodaeth faith rhwng y Prif Weinidog a'i Ddirprwy wedi methu sicrhâi cyfaddawd hyd yn hyn a dyw geriad aneglur y cytundeb clymblaid o ddim cymorth.

Mae'r Ceidwadwyr yn gwneud eu gorau glas i fanteisio ar y sefyllfa. Heddiw cyhoeddodd y blaid y bydd 'na gyfieithu ar y pryd am y tro cyntaf erioed yn ei chynhadledd yr wythnos hon. Yn ogystal addawyd y byddai llywodraeth Geidwadol yn cynyddu'r cymorth i'r Wasg Gymraeg i'r chwe chan mil o bunnau yr oedd "Y Byd" yn deisyfu. O safbwynt yr ELCO galwodd y blaid am gais syml fyddai'n trosglwyddo'r hawliau deddfu ieithyddol cyflawn o San Steffan i Gaerdydd.

Pryd y'n ni'n debyg o weld yr ELCO felly? "Yn y Gwanwyn" yw'r ateb swyddogol. Wel y tro diwethaf edrychais i mae'r blodau mas a'r corau meibion yn dechrau canu "Moliannwn". Mae amser yn mynd yn brin!

Sibrydion

Vaughan Roderick | 13:21, Dydd Iau, 21 Chwefror 2008

Sylwadau (0)

Mae'n ymddangos bod y llywodraeth yn dechrau colli amynedd gyda rheolwyr y gwasanaeth iechyd. Mewn llythyr di-flewyn ar dafod mae'r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart yn ymosod yn chwyrn ar fethiant y gwasanaeth i gyrraedd targedi aros am driniaeth yn adrannau damweiniau’r ysbytai. Roedd yr ymddiriedolaethau i fod i gyrraedd y targedi hynny yn 2004. Hyd yn hyn does dim un wedi llwyddo.
Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn dathlu ei phen-blwydd yn drigain yn yr haf. Ydy'r llywodraeth efallai am achub ar y cyfle am dipyn o lawdriniaeth wleidyddol? Ar hyn o bryd mae ymddiriedolaethau’n cael eu huno ond ydy hi'n bosib ei bod ar fin diflannu'n gyfan gwbwl? Ydy'r ffaith bod pennaeth newydd y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru yn arbenigo ar y gwasanaeth iechyd yn arwyddocaol?

Pam nad yw Jane Davidson yn dymuno bod yn brif weinidog ar ôl Rhodri? "Mae 'na rai ohonom sy'n hoffi cwffio gwleidyddol ac eraill, fel fi, sy'n hoff o gyflwyno newidiadau polisi sylfaenol." Dyna oedd esboniad y Gweinidog Amgylchedd yr wythnos hon. Fe fydd hynny'n pery dipyn o sioc i rai o'i chyd- weinidogion gan fod Jane yn ei chael hi'n ddiarhebol o anodd i ennill cefnogaeth y cabinet i'w chynlluniau.

Mae'r ymosodiadau ar lywodraeth gan rai o fawrion Plaid Cymru yn dwysau. Heno fe fydd Dragon's Eye yn canolbwyntio ar helyntion "Y Byd". Mae'n cynnwys manylion am feirniadaeth hallt o benderfyniad Rhodri Glyn Thomas gan, ymhlith eraill, Owen John Thomas, cyn-lefarydd diwylliant y blaid a'r cyn aelod seneddol ac aelod cynulliad Cynog Dafis.

Ai hon yw'r stỳnt wleidyddol waethaf erioed? Ar drothwy cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol mae Llafur wedi cyhoeddi ei bod am gyflwyno "ASBO" i Nick Clegg. Beth yw'r "ASBO" hynny? Wel, taflen ddigon amaturaidd yr olwg yn cyhuddo Mr Clegg o "Absoultely Shambolic Behaviour". Gwan, bois, gwan.

CF 99

Vaughan Roderick | 12:38, Dydd Iau, 21 Chwefror 2008

Sylwadau (0)

Ydy Plaid Cymru mewn peryg o golli cefnogaeth rhai o'i hoelion wyth? Dyna oedd y cwestiwn ar CF99 neithiwr. Cewch wylio yn fan hyn.

Gwasgfa ar Rhodri Glyn

Vaughan Roderick | 13:24, Dydd Mawrth, 19 Chwefror 2008

Sylwadau (2)

Dw i ddim eisiau dychwelyd at y pwnc yma'n rhu aml ond mae 'na ambell i ddatblygiad yn y ffrwgwd ynghylch y wasg Gymraeg. Tra bod Cymdeithas yr Iaith yn trefnu yn galw ar y llywodraeth i neilltuo swm digonol yn benodol ar gyfer sefydlu papur dyddiol mae'r Torïaid hefyd wedi bod yn ychwanegu at y pwysau. Mewn cynhadledd newyddion heddiw dychwelodd Nick Bourne at y pwnc gan ddweud bod angen rhywle rhwng chwe chan mil a miliwn o bunnau i sefydlu papur ac y byddai'r Torïaid yn pwyso am hynny.

Yn y cyfamser mae 'na sibrydion ymhlith newyddiadurwyr y cynulliad bod cwmni Trinity Mirror yn paratoi cais am arian. Mae'n bosib y bydd y cais hwnnw yn seiliedig ar ffurf estynedig o atodiad "Herald Cymraeg" y Daily Post gyda'r Western Mail hefyd yn ei ddosbarthu. Fe gawn weld.

Burnham v Black

Vaughan Roderick | 13:04, Dydd Mawrth, 19 Chwefror 2008

Sylwadau (0)

Mae'n ddiwrnod digon tawel heddiw, cyfle felly i bori trwy agenda cynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Ar ôl gadael cynhadledd Llafur Cymru i Betsan dw i'n rhyw dybio mai fi fydd yn heglu hi lan yr A470 i Landudno'r wythnos hon.

Pa ddanteithion sy'n fy nisgwyl felly? Mae'n rhaid cyfaddef nad yw'r gweithdy ar ymgyrchu trwy ddefnyddio ffons symudol yn apelio rhyw lawer! Dw i ddim yn rhagweld llawer o wrthdaro yn y ddadl ar lywodraeth leol chwaith lle mae'r cynnig yn galw am gynrychiolaeth gyfrannol a threth incwm lleol; dau bolisi sydd, mae'n ymddangos, yn bynciau gorfodol yng nghynadleddau’r Rhyddfrydwyr.

Y sesiwn orau heb os fydd y ddadl ar sut mae'r blaid yn dewis ei harweinydd. Ar hyn o bryd mae angen enwebiad gan ddau aelod cynulliad er mwyn cael sefyll. Os ydy'r gynhadledd yn cymeradwyo’r cynnig ger ei bron fe fydd enwebiad gan un aelod cynulliad neu seneddol a thrideg o aelodau cyffredin yn ddigon. Fe fydd y drws yn agored i Elinor Burnham a Peter Black felly. Brysied y dydd!

Ffarwel Fidel

Vaughan Roderick | 11:32, Dydd Mawrth, 19 Chwefror 2008

Sylwadau (2)

Mae gan Castro ei ffans yma yng Nghymru. Fedrai ddim dweud fy mod yn ymwelydd cyson a stondin Cymru Ciwba ar faes yr Eisteddfod ond mae 'na hen ddigon o'n gwleidyddion sy'n fodlon diystyried record llywodraeth Havanna ar hawliau dynol a rhyddid mynegiant wrth drafod y wlad honno.

Un o rheini yw'r Gweinidog Amgylchedd Jane Davidson. "Fe fydd ymddeoliad Castro yn golled enfawr i bobol Ciwba" yn ôl Ms. Davidson. Hi ddylai wybod. Wedi'r cyfan fe gafodd y gweinidog gyfarfod wyth awr o hyd a'r dyn ei hun gan fethu cael bron un gair i mewn wrth i'r Arlywydd bregethu.

Ar ôl y profiad hwnnw mae'n siŵr bod hi'n Rhodri Morgan yn ymddangos fel gwleidydd cynnil ei eiriau!

Podlediad

Vaughan Roderick | 13:30, Dydd Gwener, 15 Chwefror 2008

Sylwadau (1)

Pennaeth cyfathrebu'r cynulliad Non Gwilym yw'r gwestai ar y podlediad heddiw. Mae'n datgelu cynlluniau uchelgeisiol i ail-ddatblygu adeiladau'r cynulliad yn y Bae. Pwysych y botwm ar y dde i wrando neu danysgrifio.

Problem Plaid

Vaughan Roderick | 11:41, Dydd Gwener, 15 Chwefror 2008

Sylwadau (5)

Rwyf wedi bod i ffwrdd am gwpwl o ddyddiau. Beth ydw i wedi colli, dywedwch?

Wel doedd dim angen bod yn Eseia i broffwydo bod cyhoeddiad Dyddiol cyf bron yn anorfod. Serch hynny waith i mi frolio fy mod wedi darogan diwedd y Byd yn fan hyn. Tra fy mod yn chwythu fy nhrymped fy hun fe wnâi nodi y byddai "Llais y Bobol" yng Ngwynedd wedi gwybod na fyddai'r enw hwnnw'n dderbyniol i'r Comisiwn Etholiadol ym mhell cyn hyn pe bai nhw wedi bod yn talu mwy o sylw i'r blog! Ta beth "Llais Gwynedd" yw'r enw newydd ac fe fydd llwyddiant neu fethiant y grŵp yma yn un o straeon diddorol Mai'r cyntaf.

Dydw i ddim wedi sgwennu o'r blaen am helynt ysgolion Gwynedd. Mae hynny'n rhannol oherwydd nad wyf yn gwbwl gyfarwydd â'r holl ddadleuon. Dw i hefyd yn un sy'n credu bod y cyfryngau Cymraeg yn tueddu rhoi gormod o sylw i straeon o'r Gogledd Orllewin yn yr un modd ac mae'r cyfryngau Saesneg yn dyrchafu straeon digon pitw o Gaerdydd.

Serch hynny dw i yn dechrau meddwl bod Llais Gwynedd yn dynodi rhywbeth mwy arwyddocaol na gwrthryfel bach lleol ynghylch addysg. Mae hi'n ymddangos erbyn hyn bod arweinyddiaeth Plaid Cymru naill ai trwy hap neu drwy fwriad yn pechu rhai o'i chefnogwyr traddodiadol mwyaf pybyr. Does ond eisiau darllen Maes-e neu ddatganiadau diweddar Cymdeithas yr Iaith i wybod bod y ffrae addysg, helynt "Y Byd" a lefel ariannu'r Coleg Ffederal Cymraeg wedi cynddeiriogi nifer sylweddol o Genedlaetholwyr.

Nawr mae'n ddigon posib mai realiti llywodraethu neu bwysau gan Lafur a'r gwasanaeth sifil sy'n gyfrifol am benderfyniadau llywodraeth y cynulliad ond mae cynllun ysgolion Gwynedd (lle nad yw'r esboniadau yna'n tycio) yn awgrymu newid mwy sylfaenol.

Trwy gydol ei hanes mae Plaid Cymru wedi bod yn rhyw gymysgedd rhyfedd rhwng plaid wleidyddol a mudiad protest. Roedd Gwynfor Evans yn mynnu bod hynny'n gryfder gan honni bod y Blaid yn rhan o "Fudiad Cenedlaethol" ehangach oedd yn cynnwys bron pob dim oedd a wnelo unrhyw beth â'r iaith Gymraeg a Chymreictod. O bryd i gilydd roedd hynny'n achosi trafferthion wrth i'r arweinyddiaeth geisio sicrhâi teyrngarwch y selogion wrth apelio am bleidleisiau'r rheiny oedd yn amheus o ffwndamentaliaeth ieithyddol y garfan honno. Roedd Gwynfor ei hun a Dafydd Wigley yn feistri a'r gadw'r ddysgl yn wastad. Doedd gan Dafydd Elis Thomas ddim o'r amynedd ac mae'n ymddangos nad oes gan Ieuan Wyn Jones yr awydd i wneud hynny.

Yn sgil digwyddiadau’r wythnosau a'r misoedd diwethaf y cwestiwn sy'n codi yw hwn. Ydy arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi penderfynu (yn ymwybodol neu'n isymwybodol) nad oes angen y "Mudiad Cenedlaethol" arni bellach? Ydy'r Blaid yn bwriadu cefnu ar ei chenedlaetholdeb ieithyddol hanesyddol a chanolbwyntio ar fod yn blaid wleidyddol draddodiadol yn chwennych grym ar ei thelerau ei hun?

Trwy gyfrwng y cyfrwng

Vaughan Roderick | 13:13, Dydd Mawrth, 12 Chwefror 2008

Sylwadau (3)

Yn wyneb yr holl gythrwbl ynglŷn â'r papur dyddiol Cymreig mae'n werth darllen yr erthygl gan Andrew Neil yn croniclo dirywiad y wasg Albanaidd. Mae'r sefyllfa mae'n darlunio yn ddigalon.

"From a historic perspective, the decline of Scotland's indigenous newspapers is breathtaking. In the late 1970s, at the height of the first modern clamour for devolution, the (then Glasgow) Herald peaked at almost 130,000 and the Scotsman at almost 100,000. Both papers have lost almost half their sales in a generation; no London-based quality has done anything like as badly."

Nid yr Herald a'r Scotsman yw'r unig bapurau sy'n dioddef. Mae'r papurau trwm eraill hefyd yn colli darllenwyr ac ymhlith y papurau poblogaidd mae'r papur llwyr Albanaidd y Daily Record wedi colli ei choron i'r fersiwn lleol o'r Sun. Wrth reswm mae'r wasg Albanaidd yn parhau'n gryfach na'r wasg Gymreig ac mae'n rhaid cofio hefyd bod y papurau Llundeinig sy'n llwyddo yno yn cynhyrchu rhifynnau Albanaidd. Serch hynny dyw'r darlun ddim yn un gobeithiol.

Yma yng Nghymru, byrhoedlog fu'r ymdrechion diweddar i gyhoeddi rhifynnau Cymreig o bapurau Prydeinig gyda'r Welsh Mirror a'r Welsh Daily Star yn diflannu'n fuan wedi eu geni. O safbwynt y papurau cynhenid crebachu mae nifer y darllenwyr. Mae'r Western Mail a'r Daily Post yn gwerthu llai na 75,000 mil o gopïau rhyngddyn nhw ac mae cyfanswm cylchrediad y pedwar papur nos yn rhyw 130,000. Mae'n bosib darllen y ffigyrau manwl yn .

Nid fy lle i yw barnu neu feirniadu cynllun busnes Dyddiol cyf ond teg yw dweud bod lansio unrhyw fusnes yn anoddach mewn marchnad sy'n crebachu nac un sy'n ehangu.

Beth felly yw'r rhagolygon ar gyfer papur dyddiol Cymraeg? Wel mae'n anodd anghytuno a safbwynt ac eraill bod hi bron yn amhosib dychmygu sefyllfa lle mae Dyddiol yn gallu addasu ei model busnes i weithio o ystyried yr arian cyhoeddus cyfyng. Mae'n bosib torri cot yn ôl y brethyn ond go brin fod 'na ddigon o frethyn fan hyn i linio gwasgod.

Os ydy cyhoeddi papur yn amhosib i Dyddiol oes 'na rywun arall a fyddai'n gallu llwyddo? Ar yr olwg gyntaf fe fyddai cwmnïau fel Trinity Mirror neu Tindle (perchnogion Y Cymro, y Cambrian News a Radio Ceredigion) yn gallu cynhyrchu papur llai costus na'r Byd. Byddai ddim angen cyflogi tîm gwerthu hysbysebion ac fe fyddai'n bosib dyblu i fynnu ar y newyddiaduraeth.

Y broblem 'da cynllun o'r fath yw bod 'na hen ddigon y dystiolaeth bod 'na dalp o Gymry Cymraeg wnaeth ddewis y fersiwn Saesneg os oes na gyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg tebyg i'w gilydd- y "Caernarfon & Denbigh" yn hytrach na'r Herald Cymraeg, yr Holyhead and Anglesey Mail yn hytrach na Herald Môn. Mae'r un patrwm yn eglur yma ar dudalennau "Cymry'r Byd"- y tudalennau Cymraeg unigryw yw'r rhai sy'n tueddu denu'r nifer fwyaf o ddarllenwyr.

Un rheswm am lwyddiant y papurau bro yw'r ffaith nad yw eu cynnwys ar gael yn Saeneg yn unman. Dyna'r rheswm hefyd y tu ol i benderfyniad golygyddol gan y Daily Post i lenwi "Yr Herald" ar ei wedd bresennol a sgwennu gwreiddiol yn hytrach na chrynodeb newyddion.

Gwefan amdani, mwy na thebyg, felly. Ond os ydy'r wefan am lwyddo mae'n rhaid iddi fod yn un rhad ac am ddim. Un agwedd o gynllun Dyddiol oedd yn fy mhoeni oedd y syniad y byddai darllenwyr electronig yn fodlon tanysgrifio i'r wefan. Mae sawl papur ar hyd a lled y byd wedi ceisio codi am wefan ac wedi methu. Hyd y gwn i, dim ond y "Financial Times" a'r "Wall Street Journal" sy'n dal i wneud. Ychydig wythnosau yn ôl rhoddodd y New York Times y gorau i'r arfer. Os na fedrith yr NYT ddarbwyllo darllenwyr i dalu am wefan go brin y byddai'r Byd, Golwg, Y Cymro neu bwy bynnag yn gallu llwyddo.

Scots Wha Hae

Vaughan Roderick | 15:03, Dydd Gwener, 8 Chwefror 2008

Sylwadau (3)

Dyma ddolen fach ddifyr. Mae Senedd yr Alban wedi lansio (os mai dyna yw'r gair cywir) i redeg yn gyfochrog a'r safleoedd Saesneg a Gaeleg. Mae Stormont hefyd yn cydnabod Scoteg fel iaith ar wahân.

Dw i ddim am fentro i'r tir peryglus o drafod sut yn union mae diffinio'r gwahaniaeth rhwng iaith a thafodiaith. Wedi'r cyfan roedd Serbo-Croat yn cael ei ystyried yn un iaith cyn i Iwgoslafia ddatgymalu. Fe drodd yn ddwy ac yna'n dair ar ol i lywodraeth Montenegro ddatgan y llynedd bod y dafodiaith syn cael ei siarad yn y wlad honno hefyd yn iaith ar wahân.

Ta beth, os ydych chi'n cael trafferth deall yr Albanwyr yn y gêm yfory gallai hynny fod yn brawf ei bod hi'n iaith ar wahân... neu fod y chwisgi'n llifo yn nhafarndai Caerdydd!

Podlediad

Vaughan Roderick | 14:30, Dydd Gwener, 8 Chwefror 2008

Sylwadau (0)


Mae 'na bodlediad newydd ar gael trwy wasgu'r botwm ar y dde. Yn ogystal â rhifyn newydd o "Dau o'r Bae" mae'n cynnwys cipolwg ar waith cyfieithwyr y cynulliad.

Penblwydd Hapus

Vaughan Roderick | 13:35, Dydd Gwener, 8 Chwefror 2008

Sylwadau (0)

Ces i a fy nghyd-newyddiadurwyr gyfle i nodi wyth mlynedd Rhodri Morgan wrth y llyw yng nghwmni’r Prif Weinidog heddiw. Roedd 'na gacen pen-blwydd i ni a bara brith (heb fenyn) i Rhodri. Achubodd ar y cyfle i wneud ei fwriadau ynghylch ei ymddeoliad yn fwy eglur. Pe bawn i'n egotistaidd byswn yn awgrymu bod ambell i bostiad ar y blogs a chynnwys "Dragon's Eye neithiwr wedi ei ddarbwyllo fod hi'n bryd iddo ddweud rhywbeth.

Medi'r nawfed ar hugain, 2009. Dyna ddyddiad penblwydd Rhodri yn 70. Ar y dyddiad hwnnw neu yn agos ato y bydd e'n ymddiswyddo fel Prif Weinidog ac Arweinydd Llafur Cymru. Ychwanegodd na fyddai'n ymddiswyddo o'r cynulliad ar yr un pryd a dywedodd y byddai'n gwrthod sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi pe bai un yn cael ei chynnig.

Ydy'r hwyaden un-goes bellach yn chwaden gloff?

Cwffio am y Goron

Vaughan Roderick | 14:59, Dydd Iau, 7 Chwefror 2008

Sylwadau (2)

Ddydd Sadwrn fe fydd Rhodri Morgan yn dathlu wythfed pen-blwydd ei ddyrchafiad i fod yn Brif Weinidog Cymru. Fe fydd na ddathliad arall flwyddyn nesaf mwy na thebyg ond hwnnw fydd yr olaf. Yn wahanol i Tony Blair dyw Rhodri ddim yn bwriadu hongian o gwmpas i ddathlu’r deg. Rhywbryd flwyddyn nesaf fe fydd yn rhoi'r twls ar y bar am y tro olaf ac yn camu yn ôl o reng flaen gwleidyddiaeth.

Y cwetsiwn mawr yw pwy fydd yn ei olynu ac mae'n debyg y bydd hynny'n destun sawl sgwrs yng ngwestai a thai bwyta Llandudno yn ystod y gynhadledd Lafur wythnos nesaf. Mae'n gynnar i ddechrau darogan beth allai ddigwydd ond waeth i ni wneud!

Y dauphin, wrth reswm, yw Carwyn Jones, un o gyfathrebwyr gorau'r blaid a phâr saff o ddwylo yn y cabinet. Os ydy'r blaid o ddifri mai ei phrif amcan yw adennill tir i'r Gorllewin o afonydd Clwyd a Llwchwr, Carwyn, mae'n debyg, fyddai'r dyn i wneud hynny. Mae sawl un o'i gyd weinidogion eisoes wedi arwyddo, naill ai'n gyhoeddus neu yn breifat nad ydynt yn bwriadu sefyll yn ei erbyn. Yn eu plith mae dwy a allai fod yn ymgeiswyr cryf sef Edwina Hart a Jane Davidson.

Mae Andrew Davies yn cadw ei bowdwr yn sych ar hyn o bryd ond mae'n sicr ei fod o leiaf yn ystyried sefyll. Er nad yw e'n ddyn carismataidd does neb yn deall yn well sut mae'r peiriant Llafur yn gweithio a gallai ei apêl fel tecnocrat fyddai'n canolbwyntio ar wella'r gwasanaethu cyhoeddus fod yn effeithiol yn enwedig ymhlith aelodau Llafur sy'n llugoer ynglŷn â datganoli.

Yr hyn a allai gyfri yn erbyn Andrew yw newid yn y rheolau Llafur sy'n golygu na fydd gan farwniaid yr undebau'r hawl i fwrw pleidlais bloc heb gynnal pleidlais ymhlith a'u haelodau. Dyw "ficsio" etholiad Llafur ddim mor hawdd ac oedd hi yn nyddiau Alun Michael. Os nad ydy Andrew'n sefyll gallai Leighton Andrews gamu i'w adwy fel yr wrth-Garwyn o'r meinciau blaen.

Ar y meinciau cefn does dim amheuaeth y byddai Huw Lewis yn ystyried sefyll gan ddefnyddio'r aelodau hynny oedd yn wrthwynebus i'r glymblaid â Phalid Cymru fel milwyr troed ei ymgyrch. Ond mae gan Huw un broblem bosib. Er mwyn cael ei enwebu mae'n rhaid i ymgeisydd sicrhâi cefnogaeth chwe aelod cynulliad a dw i ddim yn sicr y byddai Huw yn gallu cyrraedd y trothwy.

Hyd yn hyn mae'r enwau dw i wedi crybwyll i gyd ymhlith yr "usual suspects" ond mae 'na un enw arall, enw newydd sydd yn dechrau cael ei grybwyll yng nghoridorau TÅ· Crughywel. Meddyliwch am y senario yma. Beth os oedd Rhodri yn ymddeol nid yn unig o'r llywodraeth ond o'r cynulliad gan achosi is-etholiad yng Ngorllewin Caerdydd, o bosib ar yr un diwrnod ac etholiad cyffredinol?

Pwy fyddai'n sefyll yn yr is-etholiad hwnnw? Wel beth am rywun sy'n byw yn yr etholaeth ac yn weithgar yno? -rhywun sy'n gystal cyfathrebwr a Carwyn, sydd â blynyddoedd o brofiad seneddol ac sy'n adnabyddus ar hyd a lled Cymru. Rhywun fel Eluned Morgan.

A beth os oedd Llafur yn oedi ychydig cyn dewis olynydd parhaol i Rhodri? Mae pethau rhyfedd yn gallu digwydd weithiau.

Oce... Pryd?

Vaughan Roderick | 14:32, Dydd Mercher, 6 Chwefror 2008

Sylwadau (6)

Un o'r pynciau sy'n codi ei ben yn gyson wrth sgwrsio a'n gwleidyddion yw pryd yn union y bydd y refferendwm ar bwerau ychwanegol i'r cynulliad yn cael ei gynnal- ac yn wir a fydd y bleidlais honno yn cael ei chynnal yn unol â gofynion cytundeb Cymru’n Un? Mae'r cytundeb hwnnw yn datgan y dylai'r refferendwm gael ei gynnal "ar ddiwedd y tymor cynulliad hwn neu cyn hynny". Ond er bod 'na bron i dair blynedd cyn diwedd y tymor presennol mae'n ymddangos bod nifer o'r 'ffenestri' posib ar gyfer pleidlais yn prysur gau.

Mae'n ymddangos i gychwyn bod 'na gonsensws cynyddol na ddylid cynnal y refferendwm ar yr un diwrnod ac etholiad y cynulliad yn 2011. Dyna yw barn y Comisiwn Etholiadol. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi datgan na fyddant yn ymgyrchu dros bleidlais Ie o dan y fath amgylchiadau. Nawr, mae'r pleidiau eraill wedi cael lot o sbort yn sgil y penderfyniad hwnnw gan ofyn sut y gall plaid wleidyddol ddifrifol ddadlau ei bod yn ffyrnig o blaid rhywbeth- ac eithrio ar un dyddiad penodol.

Ta beth am hynny, mae'r Ceidwadwyr hefyd o'r farn na ddylid cynnal y ddwy bleidlais ar un diwrnod gan ddadlau y byddai'n drysu'r etholwyr ac yn cymhlethu pethau i'r pleidiau. Dw i ddim yn sicr fy mod yn deall y ddadl. Mewn rhai gwledydd mae'n gwbwl arferol i gynnal sawl pleidlais ar yr un diwrnod. Yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, mae'n gyffredin i ddegau o etholiadau gael eu cynnal ar yr un diwrnod gyda sawl refferendwm ar y papur pleidleisio'n ogystal. Ydy pobol Cymru yn dwpach na'r Americanwyr? Dyna, mae'n ymddangos, yw barn rhai o'n gwleidyddion a'r Comisiwn Etholiadol.

Os ydy'r Comisiwn yn cael ei ffordd pa opsiynau eraill sy 'na? Wel, o gymryd y bydd angen blwyddyn i ddeunaw mis i'r Confensiwn Cyfansoddiadol gwblhau ei gwaith mae'n debyg y bydd hi'n amhosib cynnal pleidlais cyn Hydref 2009 man cyntaf. Dim ond un amgylchiad dw i'n gallu rhaggweld a fyddai'n arwain at gynnal y bleidlais y pryd hwnnw.

Fe fyddai'n dibynnu'n llwyr ar benderfyniad gan Gordon Brown i alw'r Etholiad Cyffredinol nesaf yn hanner cyntaf 2009 a bod yr etholiad hwnnw yn arwain at Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Yn yr amgylchiadau hynny, a'r amgylchiadau hynny'n unig, gallai Llywodraeth y Bae benderfynu mynd amdani gyda Rhodri Morgan yn arwain yr ymgyrch fel rhyw fath o "daith ffarwel" cyn ymddeol.

Y broblem a'r senario yma wrth gwrs yw bod hi'n ddibynnol ar ffactorau y tu hwnt i reolaeth gwleidyddion Cymru. Ac os oedd hi'n ymddangos y byddai Llafur yn colli etholiad oni fyddai Gordon Brown yn dewis aros tan wanwyn 2010 cyn galw etholiad can gau pob ffenestr bosib cyn hynny?

Ond beth am sefyllfa lle mae Llafur yn San Steffan yn llwyddo i ennill yr etholiad nesaf boed hwnnw yn 2009 neu 2010. Wel yna fe fyddai problem arall yn codi ei phen. Gyda Rhodri'n ymddeol fe fyddai gan Lafur Cymru arweinydd newydd a Chymru Brif Weinidog newydd. A fyddai'r person hwnnw yn fodlon rhoi ei ben neu ei ben ar y bloc yn ei flwyddyn gyntaf trwy alw refferendwm yn 2010? Dw i'n amheus.

Cwestiwn syml felly, os nad yw'n dderbyniol i gynnal y refferendwm ar yr un diwrnod ac etholiad 2011 pryd ar y ddaear mae'n mynd i gael ei gynnal?

Cwestiwn arall. Os nad oes 'na refferendwm sut ar y ddaear y bydd arweinyddiaeth Plaid Cymru yn esbonio hynny i'w haelodau? Wedi'r cyfan onid y gallu i alw refferendwm oedd eu prif ddadl (neu eu hunig ddadl efallai) dros gefnu ar yr Enfys a'r cyfle i arwain llywodraeth Cymru?

Y Gwir yn Erbyn "Y Byd"

Vaughan Roderick | 15:51, Dydd Mawrth, 5 Chwefror 2008

Sylwadau (4)

BLOGIO BYW

15.50; Fe fydd y datganiad ynglŷn â'r wasg Gymraeg yn dechrau ymhen ychydig funudau. Blogio byw amdani.

15.52; Mae Ned Thomas, cadeirydd Dyddiol cyf. wedi gadael yr adeilad ar ôl cwrdd â'r gweinidog. Gwrthododd ddweud gair wrth newyddiadurwyr. Dyw e ddim yn arwydd da ei fod wedi penderfynu peidio aros i wrando ar y ddadl.

16.04; Rhodri Glyn Thomas ar ei draed

16.05: Crynondeb o adroddiad Tony Bianchi i gychwyn

16.12; £600,000 i'r wasg Gymraeg dros y tair blynedd nesaf...llawer yn llai nac oedd Dyddiol cyf. yn gobeithio. Y cyngor llyfrau fydd yn cael yr arian.

16.13 Mae amserlen wreiddiol "Y Byd" wedi ei dryllio fe dybiwn i a'r pwyslais ar gydweithio yn awgrymu bod y model busnes wedi methu argyhoeddi’r llywodraeth.

16.15 Paul Davies AC; Ydy'r datganiad yma yn ymrwymiad i bapur dyddiol ai peidio? Cwestiwn da. Ydy'r £600,000 yn seiliedig ar unrhyw gynllun busnes? Pwy sy'n debyg o gael yr arian?

16.16; RGT Mae'r datganiad yn ben agored, dw i ddim am ffrwyno unrhyw syniad. Dw i eisiau edrych ar ffyrdd newydd o gyflwyno'r newyddion. Dim ffafriaeth i Dyddiol cyf. felly ond diolch i Dyddiol talp o arian i'r Cyngor Llyfrau.

16.18; Alun Davies AC yn croesawi'r cyhoeddiad ac yn canmol Bianchi. Alun yn canmol Dyddiol cyf. Faint o gwmnïau fydd â diddordeb mewn sefydlu papur dyddiol?

16.26; RGT; Yr arian yn ddigonnol i sicrhai bywiogrwydd newydd yn y wasg Gymraeg.

16.27; Elinor Burnham yn mynegi ei siom ac yn ymosod ar Bianchi. Pa help yw hyn i'r Byd?

16.30; Dyw hyn ddim yn ymwneud ac unrhyw un prosiect. Mae'r cymhorthdal yn fwy na sy'n cael ei rhoi i bapur Aeleg yn Belfast. Nid Dyddiol Cyf. yw'r unig gwmni sydd â diddordeb mewn sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Pwy arall tybed? Mae Golwg yn gwadu... Trinty Mirror efallai neu Tindles perchnogion Y Cymro a'r Cambrian News? Trafodwch chi. Ai dyma ddiwedd "Y Byd"?

Clonc 'da Carwyn

Vaughan Roderick | 11:47, Dydd Mawrth, 5 Chwefror 2008

Sylwadau (0)

Efallai mai'r Rygbi sy'n gyfrifol neu'r ffaith bod yr ELCO cyflawn cyntaf yn cyrraedd llawr y cynulliad y prynhawn yma ond yn sicr mai Carwyn Jones mewn hwyliau da heddiw. Un peth yn unig sy'n ei gorddi a'r ³ÉÈËÂÛ̳ sy'n gyfrifol am hynny. Wrth drafod y gêm fawr 'da newyddiadurwyr fe wnaeth y sylw yma "os oeddwn i moen gweld y gêm o'r awyr byswn i wedi fy ngeni’n dderyn!"

Nawr dw i ddim yn meddwl bod hyn yn bertnasol yn achos Carwyn ond mae cymryd diddordeb yn nhîm Rygbi Cymru neu o leiaf esgus cymryd diddordeb fwy neu lai yn orfodol yn y cynulliad. Nid pawb sy'n llwyddo wrth gwrs, cymerwch y datganiad i'r wasg a 'n cyrhaeddodd ddydd Sadwrn yn llongyfarch Mike Gatland a'i dim...

Felna mae

Vaughan Roderick | 23:49, Dydd Llun, 4 Chwefror 2008

Sylwadau (4)

Os oeddech chi'n meddwl bod y fath 'ma o wleidyddiaeth wedi bennu... yng Nghymru efallai. Ond yn ...

"HOOTS mon, Gaels have picked the pockets of the tax payer again and Angus Og has made off with millions with the start of a new Gaelic TV station.
Idon't know why they need one when they've got ³ÉÈËÂÛ̳ Scotland, where if your first name is not Farquar, Crawford orr Torquil, you haven't got a chance...Language is a living thing or nothing at all if you ask me. And the rest of us, by a stroke of luck, are in possession of a tongue worth the weight of Ben Nevis in gold. The English language is our greatest asset and the government spends far too little spreading it even wider. The money spend on Gaels and their obscure language could be spent by the British Council teaching, for example, the people of China to speak English with infinitely more returns."

Lwcus bod George wedi caei ei daflu allan gan Lafur...

Jiw Jiw Joyce

Vaughan Roderick | 11:22, Dydd Gwener, 1 Chwefror 2008

Sylwadau (0)

Ymddiheuriadau am beidio blogio ddoe. Roedd pethau'n brysur yma rhwng popeth wrth i ni ofalu am straeon dydd i ddydd a thyrchu i gamddefnydd honedig Joyce Watson o adnoddau'r cynulliad. Os dy’ch chi ddim wedi darllen y stori'n barod mae i'w gweld .

Dw i ddim yn un sy'n cael pleser mawr wrth ddatgelu straeon o'r fath. Mae'n ddyletswydd arnom i'w cyhoeddi ond dw i'n ymwybodol ein bod yn cynyddu sinigiaeth ac amheuon y cyhoedd ynglŷn â'n gwleidyddion a'n system wleidyddol trwy wneud hynny. Dw i o'r farn anffasiynol bod y mwyafrif llethol o'n cynrychiolwyr etholedig yn bobol anrhydeddus sy'n ceisio gwneud eu gorau dros ei hetholwyr.

Yn achos Ms. Watson dw i'n ddigon parod i dderbyn efallai nad oedd hi'n gwbwl gyfarwydd â'r rheolau. Ar ôl dweud hynny mae'r rheolau yn gwbwl eglur ac mae'n ymddangos ei bod wedi torri dwy os nad tair ohonyn nhw. Ar ben hynny hyd yn oed os ydy Ms. Watson yn ddibrofiad mae o leiaf un aelod o staff â blynyddoedd o brofiad o waith gwleidyddol.

Wrth amddiffyn ei hymddygiad dywed Ms. Watson ei bod wedi "clirio" cynnwys y cylchlythyron a'r swyddfa ffioedd. Ond nid cynnwys y ddogfen yw'r broblem ond y defnydd o amlenni rhadbost y cynulliad i ddanfon y cylchlythyron i aelodau'r Blaid Lafur. Dyma'r broblem sy gen i. Beth bynnag am y rheolau (ac fel dw i'n dweud, mae'r rheiny'n gyfan gwbl eglur) sut oedd unrhyw un yn swyddfa Ms Watson yn gallu credu am eiliad bod hi'n foesol dderbyniol i ddefnyddio arian y trethdalwyr, eich arian chi a fi, fel cymhorthdal i weithgaredd pleidiol?

Dyw'r ffaith nad oedd y taflenni yn cynnwys y gair Llafur ddim yn llawer o esgus. Pa bwrpas posib arall oedd na i'r cylchlythyron ond cynyddu proffil personol Joyce Watson ymhlith yr aelodau Llafur hynny fydd yn llunio'r rhestr Llafur yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru yn etholiad 2011? Alun Davies oedd ar frig y rhestr llynedd gyda Joyce Watson yn ail. Beth mae Alun yn meddwl am hyn oll, tybed? Os oeddwn i yn ei sefyllfa fe fyswn i'n poeri gwaed.

Cofiwch fe fydd na bodlediad newydd ar gael am ddau'r prynhawn yma. Mae'n cynnwys golwg ar waith y Pwyllgor Deisebau yn ogystal' a'r rhifyn cyfredol o Dau or Bae.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.