Ac wedi elwch
Oce mae'n hanner tymor yn y Cynulliad ond mae 'na refferendwm wythnos nesaf ac etholiad ar y gorwel. Pam felly y mae pethau mor rhyfeddol o dawel o safbwynt gweithgaredd a straeon - cymaint felly nes i un arweinydd plaid ddiflannu o'r wlad am hoe fach?
Efallai mai diffyg ymgyrchoedd swyddogol sy'n gyfrifol am y diffyg cyffro ynghylch y refferendwm. Mae'r ³ÉÈËÂÛ̳ wedi darlledu digonedd o eitemau yn ei gylch ond eitemau esboniadol a chefndir yw'r rhan fwyaf o'r rheiny. Ychydig iawn sydd wedi digwydd oedd yn haeddu sylw fel eitem newyddion.
Yr ail ffactor, dybiwn i yw bod y rhan fwyaf o bobol ym mybl Bae Caerdydd yn credu y bydd yr ochor 'Ie' yn sicrhau buddugoliaeth gymharol hawdd wythnos nesaf. Roedd hyd yn oed Syr Eric Howells a Bill Hughes yn darogan hynny ar "Pawb a'i Farn" neithiwr.
Mae dadl y rheiny sy'n credu hynny'n weddol syml. O gymryd mai oddeutu hanner miliwn o bobol fydd yn bwrw eu pleidlais, rhyw 250,000 o bleidleisiau sydd angen ar yr ochor 'Ie' i gario'r dydd. O gofio bod Plaid Cymru wedi ennill 219,000 o bleidleisiau yn etholiad 2007 ac mae ei chefnogwyr hi yw'r mwyaf tebygol i droi allan mae'n anodd gweld unrhyw ffordd na fydd y trothwy yn cael ei gyrraedd.
Does 'na ddim arwydd chwaith bod unrhyw beth wedi digwydd yn ystod yr ymgyrch i newid y patrwm cyson sydd wedi bod yn amlwg ym mhob un arolwg barn ers tro byd.Yn y saith arolwg i'w cynnal ers Medi llynedd (a rheiny gan dri gwahanol gwmni) mae mwyafrif yr 'Ie' wedi amrywio rhwng 19% a 33%. Mae hynny'n gythraul o fynydd ac ychydig iawn o amser sydd ar ôl i'r ymgyrch 'Na' ei ddringo.
Ydy'r gêm ar ben felly? Fe gawn ni wybod hyd sicrwydd wythnos nesaf ond efallai nad yw'n syndod bod llygaid y pleidiau'n troi at etholiad Mis Mai.