257, 221 a Radio Ceredigion
Ar wahân i gael eich gwahodd i fod yn aelod o'r Orsedd bo brin fod 'na fwy o anrhydedd yn y Gymru Gymraeg na bod yn westai ar "Beti a'i Phobol". Mae codi'n fore i Bost Cyntaf yn fwrn a chyfrannu i Bost Prynhawn yn ddyletswydd. Mae bod mewn stiwdio gyda La Betisima ar y llaw arall yn fraint.
Ces i'r anhrhydedd honno'n ddiweddar a chewch glywed y sgwrs yn y dyfodol agos. Fel sy'n tueddu digwydd fe esgorodd y sgwrs ar ambell i atgof gan gynnwys un sy'n
berthnasol i rywbeth sy'n dipyn o bwnc llosg ar hyn o bryd.
Sôn oeddwn am weithio i orsaf radio Darlledu Caerdydd - gorsaf a oedd yn fagwrfa i giwed o ddarlledwyr Cymraeg gan gynnwys Sian Lloyd y tywydd, Eifion Jones, Gareth Charles ac Ian Gwyn Hughes. Draw yn y gorllewin roedd Sain Abertawe yn cynhyrchu pobol fel Glynog Davies, Garry Owen a Sian Thomas.
Fe ofynnodd Beti gwestiwn syml - y rheiny sy'n cael yr atebion gorau weithiau. "Pam oedd y ddwy orsaf yn cynhyrchu gymaint o raglenni Cymraeg?" oedd y cwestiwn. Roedd yr ateb yr un mor syml. "Roedd hi'n amod o'r drwydded" meddwn i heb feddwl ymhellach am y peth.
Ond arhoswch eiliad. Ar hyn o bryd mae'r Bwrdd Iaith ac Ofcom yn cyflwyno tystiolaeth i Leighton Andrews ynghylch dadl rhyngddynt am ddyletswyddau'r rheoleiddiwr darlledu tuag at y Gymraeg. Mae'r Bwrdd yn mynnu nad yw cynllun iaith Ofcom yn ddigonol gan nad yw'n gorfodi i'r corff osod amodau ieithyddol wrth hysbysebu trwyddedi ddarlledu. Mae Ofcom yn mynnu nad oes ganddi'r hawl gyfreithiol i wneud hynny.
Mae'n anodd credu bod gan y Gymraeg statws is ym myd darlledu heddiw nac oedd ganddi ddeng mlynedd ar hugain yn ôl - cyn cyflwyno dwn i ddim i faint o fesurau a deddfau iaith a darlledu. Rwy'n cyfaddef nad wyf wed cribo trwyddyn nhw i gyd i wybod hyd sicrwydd bod hynny'n wir. Fe gawn wybod pan ddaw dyfarniad Leighton ynmhen ychydig fisoedd.
Yn y cyfamser mae Ofcom yn bwriadu ail-hysbysebu trwydded Radio Ceredigion heb amodau ieithyddol. Ar ôl llusgo traed gan eraill mae'r Gweinidog Addysg i'w ganmol am weithredu ynghylch y ffrae rhwng y Bwrdd Iaith ac Ofcom - ond oni ddylai fe hefyd ofyn am rewi'r broses drwyddedi yng Ngheredigion nes i'r mater gael ei setlo'r naill fordd neu'r llall?