|
|
'Roedd peryg y byddai Llangefni yn ailadrodd Eisteddfod Machynlleth ugain mlynedd ynghynt, ond 'Steddfod dan gysgod y don, nid dan gysgod y t芒n, oedd Eisteddfod Llangefni, a Brooke oedd yr Arglwydd Londonderry newydd. Ac ar 么l yr Eisteddfod y cafwyd protest y tri y tro hwn. Gan ofni y byddai ymweliad Henry Brooke 芒'r Eisteddfod yn codi storm, gofynnodd y Pwyllgor Lleol am arweiniad Cyngor yr Eisteddfod ar y mater.
Anfonodd y Cyngor dri chynrychiolydd at y Gweinidog ar Faterion Cymreig i esbonio'r sefyllfa iddo. Cydsyniodd Brooke mai cadw draw fyddai orau. Aeth y daith drwy Ynys M么n yn ei blaen, a'r unig brotest a gafwyd oedd y slogan 'Brooke, enemy of Wales, blast him!', a baentiwyd ar bont ym Mhentraeth yn ystod yr ymweliad. Gyda'r brotest heddychlon wedi methu, daeth dulliau milwrus Penyberth yn 么l i Gymru. Ond er gwaethaf pob protest a gweithred, 'doedd dim achubiaeth i fod i Gapel Celyn.
Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yn y capel, a dechreuodd y trigolion ymadael fesul teulu. Trodd sarhad yn symbyliad yn Nhryweryn. Bydd cywydd buddugol Trebor Roberts yn Eisteddfod Caerdydd 1960, 'Tryweryn', yn goff芒d parhaol o'r ing a ddioddefwyd pan foddwyd Cwm Tryweryn.
ymlaen...
|
|
|
Colli Tir
Daeth Tryweryn yn symbol nid yn unig o ormes Lloegr ar Gymru ond o holl ddilema'r pumdegau, sef diboblogi cefn gwlad Cymru. 'Roedd yn symbol hefyd o ddiflaniad yr hen ffordd Gymreig o fyw ac o'r bygythiad parhaol i gadarnleoedd y Gymraeg. Ac nid Cwm Tryweryn yn unig a adawyd yn wag. Gyda'i chwarel wedi cau, symudodd y trigolion olaf o nant Gwrtheyrn yn Ll^yn.
'Roedd daearyddiath Cymru yn newid yn gyflym: llynnoedd lle bu pentrefi, adfeilion lle bu dyfalwch, mudandod lle bu cymunedau. Newidiwyd y patrwm ymhellach gan benderfyniad y Llywodraeth i gau nifer o ganghennau'r rheilffordd ym Mhrydain ym 1963 ar argymhelliad Adroddiad Beeching. Caewyd sawl gorsaf yng nghefn gwlad Cymru yn sg卯l y toriadau. Nid yn unig 'roedd y cymunedau gwledig yn cael eu gwaedu i farwolaeth ond 'roedden nhw hefyd yn cael eu hynysu.
'Roedd yr hen olygfeydd cyfarwydd yn newid hefyd wrth i gynnyrch y dechnoleg newydd ddod i Gymru yn lle'r hen ddiwydiannau treuliedig. Pryder i'r Llywodraeth Geidwadol a fu mewn grym drwy gydol y pumdegau oedd gweld ail hanner y degawd yn wynebu argyfwng economaidd, a cheisiodd ymateb yn gadarnhaol drwy hybu gwelliannau rhanbarthol.
'Roedd y ffynhonnell newydd o ynni hefyd yn disodli'r hen ddulliau o gynhyrchu egni. Ym mro Hedd Wyn y codwyd yr Orsaf Bwer Niwcliar gyntaf yng Nghymru, ond i Saunders Lewis, Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Glynebwy ym 1958, ail Benyberth oedd trawsfynydd: 'Mae daear Cymru yn perthyn i ni am gyfnod byr ac yn perthyn i'n plant ac i blant ein plant am genedlaethau. Nid oes gennym hawl i ddweud Bread before Beauty. Mae slogan fel yna yn dwyn gwarth ar ein cenedl ni. Yr oedd gan ein tadau eu sloganau: 'Gwell angau na chywilydd'. 'Gwell tlodi na gwarth'. Parchwn etifeddiaeth ein plant. Na werthwn ddaear Cymru am saig o fwyd. Rhaid dangos gwroldeb i achub ein gwlad ar gyfer yr ugeinfed ganrif ar hugain. Gallent o leiaf addoli'r hyn sy'n ddwyfol yn eu cyd-ddynion'.
Ond 'doedd neb yn fodlon gwrando ar y proffwydi gwyrdd cynnar, ac aeth y gwaith yn ei flaen. Codwyd ail Orsaf Niwcliar yn Yr Wylfa ym M么n. Fe welir y rhwyg rhwng y gwarchodwyr a'r garfan Bread before Beauty ym mhryddest fuddugol Eisteddod Llandudno, 1963, 'Y Bont':
'Rwy'n gweld fy lor茂au llawnion yn llonydd
a saif heno ar y ffordd i Drawsfynydd.
Arnat ti mae'r bai bai! Chdi sydd yn rhoi sen
i Atomfa wen sy'n twymo'i fynydd.
Ynfytyn! 'Welaist ti fod dynoliaeth
yno 芒'i dwylo a g芒r wneud alaeth
yn pilffro yng ngweithdy'r s锚r gan ddyheu
grym yn heuliau i greu marwolaeth.
ymlaen...
|
|