Adolygiad o Ddawns yn Sioe Llandysul 2006 gyda Coda, Newshan a Bryn F么n.
Awyrgylch
'Marquee' enfawr gyda llwyfan ar y blaen i'r bandiau a digon o le i'r gynulleidfa enfawr oedd yno. Roedd oedran y gynulleidfa yn amrywio o 6 i 60, ac roedd digon o amrywiaeth i bawb. Lleoliad arbennig i'r gig.
Trac y noson
Pob c芒n yn dda iawn ond cafodd caneuon Bryn F么n y gynulleidfa i gyd yn canu a dawnsio.
Y Perfformiadau
Coda:
Dim ond unwaith dwi wedi gweld Coda o'r blaen ac roeddem yn disgwyl ymlaen i weld sut fyddent yn ymateb i noson fel dawns Llandysul. Ond chwarae teg fe wnaethant agor y noswaith yn arbennig. Yn sicr cawsant y gynulleidfa yn barod ar gyfer noswaith wych.
Newshan:
Roedd y 'marquee' wedi llenwi erbyn i Newshan gychwyn eu set ac ni wnaethant siomi'r gynulleidfa. Roedd eu set yn amrywio o hen ffefrynnau megis "Brown eyed Girl" i "Godro'r Fuwch", ffefryn y nifer o ffermwyr oedd yn y gynulleidfa. Roedd pawb yn dawnsio erbyn i Newshan orffen y set.
Bryn F么n:
Hen law ar ganu yn Sioe Llandysul, dyma uchafbwynt y noson i nifer o bobl. Ymddangosodd Bryn F么n mewn crys gwyn a throwser du. Canodd nifer o ganeuon o'i albwm Abacus ac ambell glasur o'i gyfnod gyda Sobin a'r Smaeliaid. Roedd y 'marquee' yn llawn erbyn hyn, gyda phawb eisiau bod mor agos i Bryn F么n ag oedd yn bosib.
Uchafbwynt y noson
Yn sicr Bryn F么n yn ymddangos yn 么l ar y llwyfan mewn cilt gyda'r Ddraig Goch arni.
Y peth gwaethaf am y noson
Ei bod hi wedi bwrw'n drwm trwy'r dydd oedd yn golygu fod y cae wedi ei orchuddio gan drwch o fwd.
Beth sy'n aros yn y cof?
Gwylio pobl yn ceisio cerdded trwy'r mwd mewn "fflip-fflops."
Talent gorau'r noson
Dafydd, Coda yn chwarae ar yr allweddellau.
Marciau allan o ddeg
Deg
Un gair am y gig
Gwych.
Carys Bowen
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|